Taith Astudio Cyswllt Ffermio - Cymdeithas Tir Glas Aberhonddu

Ariannwyd gan Cyswllt Ffermio drwy’r Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth, Arloesi a Gwasanaethau Cynghori fan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020

Cymdeithas Tir Glas Aberhonddu

Yr Alban

27 - 30 Medi 2019


1 Cefndir

 

Mae Cymdeithas Tir Glas Aberhonddu yn cynnwys 50 o aelodau dynamig o bob rhan o Frycheiniog, ac maent yn awyddus i ddysgu mwy am reoli tir glas a da byw yn effeithiol er mwyn datblygu gwytnwch o fewn eu busnesau.

Mae’r Gymdeithas yn cael ei arwain gan y Cadeirydd, Huw Jones, Wholehouse Farm. Mae Huw yn frwd iawn dros ddysgu parhaus ac roedd yn awyddus i’w gyfnod fel Cadeirydd ganolbwyntio ar rannu gwybodaeth, croesawu newid, ac annog aelodau i ddatblygu eu busnesau i’w gwneud yn fwy ffyniannus. 

Roedd y daith astudio i’r Alban yn un o uchafbwyntiau Rhaglen Tir Glas Aberhonddu hyd yma. Roedd yn rhoi cyfle i’r grŵp o ugain o aelodau i ymweld â ffermydd blaengar yn yr Alban, dysgu ganddynt ac yn gyfle perffaith iddynt drafod arloesi ac arferion rheolaeth effeithiol gyda rhai o ffermwyr mwyaf cynhyrchiol yr Alban. 

Dewiswyd ardal Ffiniau’r Alban fel cyrchfan ar gyfer y daith o ganlyniad i’r nifer o elfennau tebyg mae’n ei rannu gyda Bannau Brycheiniog, gan gynnwys y glawiad, lleoliad gwledig a’r tirlun.

Gan anelu at gael y gorau o bob ymweliad ar y daith, roedd yr aelodau brwdfrydig o’r grŵp newydd hefyd yn awyddus i rannu eu profiadau a’u syniadau gyda’i gilydd.

Roedd aelodau’n awyddus i gymharu arferion da a chanfod gwreiddioldeb ar y ffermydd, a fyddai yn ei dro yn gallu gwella effeithlonrwydd ar eu mentrau eu hunain yng Nghymru. 

Mae’r Gymdeithas yn weithgar o ran annog aelodau iau yn ogystal â merched, ac mae’n ymwneud â sawl sector o fewn y diwydiant amaethyddol hefyd. 

Byddai’r cyfle i ymweld â ffermydd mewn gwlad wahanol, dysgu sut mae Brexit yn effeithio ar Amaethyddiaeth yn yr Alban, a gweld sut maen nhw’n gwneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael yn fuddiol i bawb.  

Roedd yr amrywiaeth o fewn y grŵp, ynghyd â chael cyfle i weld gyda’n llygaid ein hunain sut mae ffermwyr yn yr Alban yn gwneud eu gorau i fod mor effeithlon â phosibl, yn croesawu technegau ffermio arloesol, ynni adnewyddadwy, ac yn defnyddio popeth sydd ar gael ar eu ffermydd o ran arallgyfeirio, yn brif amcanion ar gyfer y daith. 

Amcan allweddol arall yr oedd nifer o’r aelodau’n awyddus i’w gyflawni oedd dysgu sut mae cyrraedd Statws Swyddogol Rhydd Rhag Twbercwlosis wedi bod o fudd i ffermwyr gwartheg yr Alban. Roedd diddordeb brwd mewn cael profiad o ffermydd yn croesawu systemau’n seiliedig ar y borfa hefyd yn un o ganlyniadau ffafriol y daith astudio.

Roeddem hefyd yn gobeithio y byddai aelodau’n cael eu hysbrydoli ac yn awyddus i fanteisio ar wasanaethau eraill gan Cyswllt Ffermio i wella eu ffermydd eu hunain. Roedd 35% o’r aelodau a fu’n rhan o’r ymweliad yn ferched rhwng 18 a 70 mlwydd oed.

Roedd y daith astudio’n cynnwys aelodau o’r diwydiannau defaid, bîff a llaeth, ynghyd â chontractwyr amaethyddol, nyrs, dau was sifil, ymgynghorydd busnes a myfyriwr. 

Roedd y ffaith fod y grŵp mor amrywiol yn annog trafodaethau mwy amrywiol a gwahanol safbwyntiau i’w hystyried.
 

2 Y daith

Diwrnod 1

Dydd Gwener 27 Medi 2019

Daeth y grŵp o ugain at ei gilydd yn Aberhonddu ddiwedd y prynhawn a rhannu bws i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd i ddal yr awyren gyda’r nos i Gaeredin.

 

 

 


 

 

 

 

Yn dilyn taith dawel ar yr awyren ac o’r maes awyr, teithiodd y grŵp i’r canolbwynt ar gyfer y daith astudio - Gwesty Peebles Hydro Hotel yn ardal Ffiniau’r Alban. Dewiswyd y safle oherwydd y lleoliad canolog a’i fod yn eithaf agos at y pedair fferm (heb fod yn fwy nag awr o deithio i’r fferm gyntaf bob dydd) gan ganiatáu mwy o amser ar y fferm i gael y gorau o’r wybodaeth a’r profiad.

 

 

Diwrnod 2

Dydd Sadwrn 28 Medi 2019

Roedd y grŵp yn awyddus i ddysgu gan rai o ffermwyr mwyaf cynhyrchiol yr Alban, a chawsant eu casglu o’r gwesty am 8.30am a theithio i’r fferm gyntaf. 

Glenrath Estate Ltd – Sir John Campbell a Nikki Campbell

 

Derbyniodd Cymdeithas Tir Glas Aberhonddu groeso cynnes i bencadlys Ystâd Glenrath gan gynrychiolwyr brwd y cwmni. 

Bu Sir John Campbell, a’i nawfed wyres, Nikki, yn ysbrydoli’r grŵp ac aethant ati i adrodd yr hanes i’r grŵp am ddechreuad y cwmni, ac yna sut mae’r cwmni wedi datblygu i fod yn gynhyrchwr wyau mwyaf yr Alban. 

Roedd brwdfrydedd a dealltwriaeth o’r diwydiant wyau, yn enwedig gan Nikki, yn anhygoel, ynghyd â ffraethineb Sir John, a buont yn cynnal trafodaeth frwd gyda’r aelodau.

 

Mae Glenrath Farms yn fusnes teuluol a sefydlwyd gan John a Cathy Campbell ym 1959. Roedd Sir John yn fab i gigydd, ac yn uchelgeisiol iawn, a daeth yn ffermwr cenhedlaeth gyntaf ar ôl prynu tir ger Peebles gyda’i wraig. Llwyddodd i brynu llawer iawn o dir dros y blynyddoedd a sefydlodd fusnes ffyniannus.

Mae 50 mlynedd wedi mynd heibio ers i Cathy Campbell ddechrau gwerthu wyau o ddrws i ddrws er mwyn ychwanegu at incwm y fferm deuluol. Roedd y fenter mor llwyddiannus nes i John hefyd ddechrau ymwneud â’r busnes ac fe ddechreuon nhw gyflenwi Spar. Daeth cytundeb gyda Tesco yn fuan wedi hynny, ac mae’r busnes wedi ehangu byth ers hynny.

Fel cwmni, nid yw’r teulu Campbell ofn wynebu heriau. “Ym myd busnes, os nad ydych chi’n symud ymlaen, rydych chi’n mynd am yn ôl mewn gwirionedd,” meddai Sir John Campbell.

Mae Glenrath yn cadw 1.6 miliwn o ieir dodwy, gyda’r mwyafrif yn cael eu cadw o fewn 20 milltir o’r pencadlys. Mae magu wedi bod yn rhan o’r fenter ers y dechrau, gyda chywennod ychwanegol yn cael eu prynu i mewn yn ôl y galw. Mae’r teulu yn berchen ar 15,000 erw o dir ffermio ac yn cyflogi 230 o staff.

Glenrath Farms yw’r cyflenwr mwyaf ar gyfer wyau maes yn y DU, sy’n cynrychioli 45% o’r cynhyrchiant, ac maent yn parhau i ehangu gyda’r galw. Mae hefyd yn un o’r 10 cwmni dofednod mwyaf yn y DU, gyda throsiant blynyddol o £56 miliwn, gan werthu oddeutu 10 miliwn o wyau bob wythnos.

Erbyn hyn, mae tair cenhedlaeth o’r teulu Campbell yn gweithio yn y busnes sy’n werth miliynau o bunnoedd. Fodd bynnag, fel ffermwyr, maent yn parhau i fod yn driw i’w gwreiddiau, gan gadw 10,000 o famogiaid magu, yn ogystal â 500 o wartheg sugno Limousin a Charolais. Maent yn cael eu gwerthu ar gyfer cig ac fel stoc magu. 

Roedd Sir John yn frwdfrydig iawn dros groesawu newid a gweithio ar y cyd gydag archfarchnadoedd. Mynnodd “pam ymladd yn erbyn yr archfarchnadoedd pan mai’r cwsmeriaid sy’n gwybod orau?”

Mae’r busnes wedi buddsoddi mewn uned gwerth £6m i brosesu a phasteureiddio wyau, ac mae Glenrath bellach yn gwaredu’r holl gyfleusterau cewyll ieir ar draws y 45 sied ieir ac yn eu trawsnewid yn ô li ysguboriau, yn unol â galw’r cwsmer.

Mae arloesi a hyblygrwydd yn amlwg yn bwysig; fodd bynnag, mae ansawdd y cynnyrch yn sylfaen i ethos busnes y cwmni. Mae’r holl wyau’n cael eu cynhyrchu’n unol â Safon Sicrwydd y Llew BEIC.

Mae strategaethau rheolaeth a maeth yn cael eu gweithredu er mwyn cyfyngu ar faint yr wyau. Maen nhw’n anelu at bwysau cyfartalog o 64g i bob wy sy’n cael ei dodwy. Mae hyn yn enwedig o bwysig ar gyfer pecynnau pwysau cymysg, lle ceir isafswm pwysau o 805g ar gyfer 15 wy. “Os bydd yr wyau’n fwy, rydym ni’n rhoi’r pwysau ychwanegol hynny am ddim, ac nid yw hynny’n gwneud synnwyr busnes.”

Mae ansawdd yr wyau sy’n cael eu dodwy hefyd yn bwysig, felly mae lefelau calsiwm yn cael eu cynyddu i gynyddu cryfder y plisgyn. Ceir ystyriaethau ymarferol eraill hefyd. Os bydd wy yn torri yn y safle becynnu, ni fydd modd gwerthu wyau eraill ac mae’n bosibl difetha’r deunydd pecynnu. Mae’n bosibl y byddai angen stopio’r broses becynnu er mwyn glanhau, ac mae hynny’n costio i’r busnes yn ariannol ac o ran amser.

Dyma le mae’r peiriant graddio newydd yn chwarae ei ran, gan waredu wyau gyda chraciau mân ac atal wyau rhag torri ymhellach yn y broses. Mae Glenrath hefyd yn defnyddio robotiaid i roi wyau yn y pecynnau, gan leihau gwastraff ymhellach.

Mae atal difrod i’r wyau cyn iddynt gyrraedd y safle becynnu hefyd yn flaenoriaeth. Maent wedi lleihau craciau hyd at 4% drwy ddiweddaru beltiau cludo yn y siediau, a chyflwyno newidiadau eraill ar yr unedau maes. Pan maent yn graddio hyd at ddwy filiwn o wyau bob dydd, mae hynny’n gwneud gwahaniaeth mawr i gynhyrchiant.

Mae pecynnu hefyd yn chwarae rhan bwysig o ran cludo’r wyau i gwsmeriaid. Gan hynny, mae Glenrath wedi cyflwyno pecynnau plastig yn ddiweddar ar gyfer rhai o’u cynnyrch. Mae’r rhain wedi’u creu o boteli plastig wedi’u hailgylchu, sy’n defnyddio llai o ynni i’w cynhyrchu o’i gymharu â phecynnau cardfwrdd.

Nid deunydd pecynnu wedi’i ailgylchu yw unig fenter werdd y cwmni. Y llynedd, plannodd y teulu Campbell 20,000 o goed i gynorthwyo i gynnal coetir yr Alban yn ogystal â chreu gwell amgylchedd ar gyfer eu hieir maes.

Arallgyfeiriodd Cathy Campbell y busnes ymhellach drwy ehangu’r portffolio eiddo i dros 90 eiddo ar draws y ffermydd. 

Cafodd y grŵp ei syfrdanu gan faint y fenter, faint o dir sy’n berchen i’r teulu a chymeriad ei sylfaenydd. Mae’r mentrau’n gweithio’n dda gyda’i gilydd, ond roedd y grŵp yn teimlo bod angen i’r busnes ddefnyddio ynni naturiol ac adnewyddadwy wrth edrych tua’r dyfodol, er mwyn helpu eu cyfrifoldeb amgylcheddol a lleihau eu costau  cynhyrchu ymhellach.

 

Roedd y grŵp yn edmygu busnes Sir John a Cathy ac roedd yn fferm anhygoel i’w gweld ar ddechrau’r daith.

Prif bwyntiau a ddysgwyd yn dilyn ymweld â Glenrath

  • Maint y datblygiad a’r weledigaeth ar gyfer y dyfodol.
  • Cynllunio, canolbwyntio a chymryd risgiau gofalus er mwyn croesawu pob cyfle. Cytuno i bopeth a phoeni am y trefniadau manwl wedyn.
  • Mae gwybodaeth yn bwysig. Y buddsoddiad mwyaf gwerthfawr mewn busnes yw cyngor arbenigol.
  • Agwedd bositif
  • Gweithio’n agos gyda’r archfarchnadoedd i addasu i newid cyn iddo gael ei orfodi ar fusnes. 
  • Sylw i bob manylyn ar draws pob menter.
  • Gwybod am beth mae eich cwsmeriaid yn chwilio o flaen llaw.
  • Defnyddio technoleg i wella effeithlonrwydd, cynhyrchiant ac i leihau gwastraff.
  • Mae cryfder y sylfaenydd brwdfrydig yn arwain y busnes yn ei flaen.
  • Bod yn greadigol i gymell staff ac i gael y gorau ganddynt.

 

Bank House Farm – Graham Lofthouse a Wilma Lofthouse

 

Bank House Farm yn Stow oedd y fferm a oedd yn cymharu orau o ran maint gyda ffermydd y grŵp yng Nghymru, a chafodd y grŵp eu hysbrydoli drwy weld pa mor gynhyrchiol oedd y fferm o ran glaswellt a sawl kilo o gig a gynhyrchir fesul hectar o laswellt.

Roedd hi’n amlwg sut y cafodd y fferm 107 hectar hon ei henwi’n Fferm Ddefaid y Flwyddyn AgriScot yn yr Alban yn 2016. Roedd dealltwriaeth a sylw Graham Lofthouse i fanylder, ynghyd â’r canlyniadau gwych a gafwyd drwy wneud gwelliannau bychain, yn annog y grŵp i wneud newidiadau bychain o fewn eu busnesau.

Mae’r teulu wedi llwyddo i leihau costau mewnbwn, ac o ganlyniad, maent wedi sicrhau lleihad o 60% yn y dwysfwyd a brynir i mewn, gan gynyddu cynhyrchiant ar yr un pryd. Cafwyd cyfnod heriol bum mlynedd yn ôl wrth i’r fferm golli 14 hectar o’i chyfanswm o 121 ha yn dilyn pryniant gorfodol ar gyfer prosiect rheilffordd Waverley.

Dywedodd Graham: “Mae colli’r tir i’r rheilffordd wedi achosi rhai problemau. Mae gennym ni fferm hir a chul, felly mae’r rheilffordd bellach yn ymestyn dros 4.1 milltir o’n tir, a oedd yn cael ei ddefnyddio i gadw 300 o famogiaid a 30 o wartheg dros y gaeaf. Rydym ni wedi ail-fuddsoddi’r arian iawndal i adeiladu siediau ar gyfer y stoc dros y gaeaf.”

Mae Graham wedi bod yn cadw diadell Easycare gaeedig ers wyth mlynedd, gan ddefnyddio hyrddod wedi’u magu gartref ar gyfer y mwyafrif a phrynu hyrddod Suffolk ar gyfer tua 100 o famogiaid, sef yr hyn mae’n ei alw’n ddiadell “B”. 

“Rydym ni’n marcio clust unrhyw famog sydd wedi cael problemau ac mae’n cael cyfle i fynd i’r ddiadell “B”, ond ni fydd ei hŵyn yn cael eu cadw,” meddai Graham. “Os bydd hi’n cael problemau am ail flwyddyn yn olynol, bydd hi’n cael ei difa. Mae defnyddio hyrddod Suffolk yn fy ngalluogi i adnabod yr ŵyn na ddylid eu cadw, ac mae’r cyfraddau twf sydyn yn fy ngalluogi i’w pesgi yn gynnar.” 

Yn ystod yr hydref eleni, trodd Graham 106 o’r 123 o ŵyn benyw at yr hwrdd. Ei feini prawf ar gyfer troi ŵyn benyw at yr hwrdd oedd bod rhaid iddynt fod wedi cyrraedd 65% o’u pwysau aeddfed, neu 40kg, erbyn y tymor hyrdda. Canran sganio’r hesbinod oedd 110%, gyda’r mamogiaid yn cyrraedd 184%.

Trwy reoli’n ofalus, mae’n cadw colledion ŵyna cyn ised â phosibl. Dros y saith mlynedd diwethaf, maent wedi sicrhau cyfradd marwolaeth ŵyn o 7% o’r sganio hyd at werthu. Mae cyflwr y corff a maeth yn brif bwyntiau ffocws er mwyn cadw costau cynhyrchu’n isel, a glaswellt yw’r cyfle gorau ar gyfer sicrhau hyn. Nododd Graham mai glaswellt yw’r porthiant ansawdd uchel perffaith, gyda’r cydbwysedd iawn o brotein ac egni, ac mae angen iddynt wireddu’r potensial hwn.

Mae defaid a gwartheg wedi bod yn pori ar system bori cylchdro ar sail padogau ar fferm Bank House ers sawl blwyddyn ac mae cynhyrchiant y glaswellt wedi gwella o 7,600kg DM/ha i 10,800kg DM/ha. Mae Graham bellach yn cynhyrchu 500 tunnell yn fwy o silwair nag o’r blaen, gyda 11ME, ac mae wedi sicrhau lleihad o 60% yn ei gostau prynu bwyd i mewn. 

Mae Graham wedi bod yn cofnodi data stoc a thir glas ers dros ddeng mlynedd ac mae ganddo gronfa o wybodaeth ffeithiol ar gael i’w gynorthwyo i ddadansoddi perfformiad ei stoc ynghyd â gallu cyfrifo cyllidebau porthi ar gyfer y gaeaf a rhagweld unrhyw ddiffygion posibl o ran twf glaswellt er mwyn gallu gwneud gwell penderfyniadau a chymariaethau gyda’r blynyddoedd blaenorol.

Roedd rheoli tir glas yn brif bwnc trafod yn ystod y daith astudio ac roedd system Graham yn ddiddorol iawn i nifer o aelodau’r grŵp. Roedd ei sylw i fanylder, ei ddealltwriaeth a’i allu i addasu eitemau dydd i ddydd er mwyn mynd o amgylch y fferm yn fwy effeithlon yn ddiddorol dros ben. 

Mae sicrhau elw net heb y Taliad Sengl yn un o amcanion busnes Graham, ac mae wedi cyflawni hynny’n gyson dros y pedair blynedd diwethaf. Mae’n eiriolwr brwd dros feincnodi ei gostau cynhyrchu a monitro ei berfformiad ariannol, sydd yn ei dro yn ei gynorthwyo i wneud penderfyniadau deallus o ran rheolaeth. 

Mae Graham yn aelod allweddol o grwpiau pori yn yr Alban ac mae’n nodi bod y gallu i rannu syniadau gyda ffermwyr blaengar yn hanfodol i’w fusnes.

Mae’r ŵyn nad ydynt yn cael eu cadw fel anifeiliaid cyfnewid yn cael eu pesgi a’u gwerthu i Scotbeef ar bwysau o 18.7kg ar y bach ar gyfartaledd, ar radd R2 neu R3L neu’n uwch. Gyda 130 o ŵyn yn unig ar ôl i’w gwerthu ar ddiwedd Tachwedd, dim ond dwy radd “O” a gofnodwyd. 

Mae Graham yn gweithio’n agos gyda’i filfeddyg i gynnal cynllun iechyd cynhwysfawr ar gyfer ei ddiadell, sy’n cynnwys cyfrif wyau ysgarthol, cynllun llyngyr a sgorio cyflwr corff yn gyson. 

Dros y pedair blynedd diwethaf, mae mamogiaid Bank House wedi llwyddo i gynhyrchu mwy na phwysau eu cyrff eu hunain mewn ŵyn wrth ddiddyfnu. Mae Graham wedi gosod offer pwyso electronig yn ddiweddar sy’n ei alluogi i bwyso ac asesu mamogiaid yn unigol yn hytrach nag ar sail y ddiadell. Mae bellach yn gallu dethol ei ddefaid magu delfrydol, sy’n ddefaid llai gyda chyfraddau twf uchel, gyda nodweddion mamol ardderchog. 

Mae’r fenter wartheg yn cynnwys 72 o wartheg sugno Simmental yn bennaf, ac yn cyd-fynd â’r fenter ddefaid, ac mae Graham bellach yn canolbwyntio ar ddefnyddio teirw Aberdeen Angus a Hereford i leihau maint y gwartheg ac i reoli’r gwartheg yr un mor effeithlon â’r defaid ar y fferm.

 

Prif bwyntiau a ddysgwyd ar fferm Bank House

  • Agwedd bositif
  • Gall newidiadau bychain parhaus i’r cyfeiriad iawn gael effaith sylweddol
  • Sylw i fanylder
  • Rhannwch wybodaeth a byddwch yn barod i ddysgu sgiliau newydd bob amser. Mae grwpiau trafod yn llwyfan ardderchog ym myd amaeth
  • Mae cofnodi data yn allweddol o ran stoc a thir glas 
  • Cynlluniwch ymlaen llaw ar gyfer strategaethau pori dros y gaeaf a gallwch ragweld diffygion o ran argaeledd porthiant drwy ddefnyddio technoleg a rhaglenni cyfrifiadurol
  • Dylech fod yn ymwybodol o’ch costau cynhyrchu
  • Mae pori ar sail padogau, er bod angen isadeiledd sylweddol, yn hanfodol er mwyn sicrhau gwell rheolaeth o’r borfa a chynyddu cynhyrchiant
  • Mae cryfder rheolwr llawn cymhelliant yn arwain y busnes yn ei flaen
  • Byddwch yn greadigol wrth addasu offer er mwyn gwella effeithlonrwydd

 

Nos Sadwrn

Yn dilyn taith gerdded fer i dref leol Peebles, aeth y grŵp am bryd o fwyd gyda’i gilydd, gan roi cyfle braf i werthuso teithiau fferm y dydd a rhannu syniadau am arferion da gyda’i gilydd.

Diwrnod 3

Dydd Sul 30 Medi 2019

Gyda diwrnod llawn arall ar y gorwel, casglwyd y grŵp am 8.45am, a chafwyd cyfle i wrando ar gêm Cymru ar y radio wrth deithio i’r fferm gyntaf. 

 

Upper Nisbet Farm – Robert Neill a'r teulu

 

Cymerodd y teulu Neill denantiaeth fferm Upper Nisbet yn 2000. Mae’r fferm yn 791 hectar ac yn rhan o Ystâd Lothian. 

Ar hyn o bryd, mae’r fferm yn cadw 320 o wartheg sugno ar 483 ha. Mae’r nifer wedi cynyddu’n raddol bob blwyddyn ers i’r teulu Neill gyrraedd fferm Upper Nisbet gyda 200 o wartheg yn 2000. Mae mwyafrif y gwartheg yn Limousin croes Freisian Prydeinig, ond mae ychydig o waed British Blue wedi cael ei gyflwyno i’r fuches, a bydd tarw Aberdeen Angus a brynwyd yn ddiweddar yn cael ei ddefnyddio i fagu heffrod cyfnewid. 

Daw mwyafrif yr heffrod cyflenwi o’r fferm laeth deuluol. Mae’r heffrod Friesian cyfnewid yn cael eu troi at y tarw Limousin i gynhyrchu’r croesiadau cyntaf ar gyfer y fuches sugno.
Ceir buches fechan o wartheg Limousin pedigri a ddefnyddir i fagu teirw i’w defnyddio gyda’r fuches sugno. Mae holl loi’r fuches sugno’n cael eu pesgi ar borthiant a dyfir gartref ac yn cael eu gwerthu’n fyw drwy gydol y flwyddyn, i gigyddion lleol yn bennaf.

Mae arwynebedd y tir âr wedi dyblu ers cymryd y denantiaeth, ac mae bellach yn ymestyn dros 358.38 hectar. 

Yn 2017, roedd y cnydau âr a dyfwyd yn gyfystyr  â 73.88 hectar o haidd y gaeaf sy’n cael ei sychu’n bennaf ac yn cael ei gadw mewn storfeydd hirdymor i gael ei fwydo o’r fuches bîff a’r gweddill yn cael ei werthu fel rhan o gytundeb hadau. Mae 99.11 hectar o wenith gaeaf yn cael ei dyfu’n bennaf ar gytundeb hadau, gydag ychydig yn cael ei gadw fel porthiant. Mae 163.56 hectar o haidd gwanwyn yn cael ei rannu rhwng cytundebau haidd bragu a chytundebau hadau Mae 16.83 hectar o dir yn cael ei rentu i ffermwr cyfagos i dyfu tatws.

Mae’r holl wellt o’r cnydau grawn yn cael ei roi mewn byrnau ac yn cael ei gadw ar y fferm fel porthiant a gwasarn, sydd wedyn yn cael ei wasgaru ar y tir âr fel tail buarth i wella ansawdd a gwead y pridd. Tri diwrnod cyn ein hymweliad, cafodd un o siediau’r fferm ei roi ar dân yn fwriadol, gan losgi 900 o fyrnau gwellt.

Mae Robert yn unigolyn blaengar a llawn ysbrydoliaeth, ac fe enillodd wobr Ffermwr Cymysg y Flwyddyn ac yna gwobr Ffermwr y Flwyddyn y Farmers Weekly yn 2017. Roedd ei frwdfrydedd a’i sylw i fanylder, ynghyd â’i awydd i chwilio am welliannau effeithlonrwydd a’i agwedd agored er mwyn gwahodd pobl i’w fferm i ddysgu mwy am ei system, yn wych. 

Gan wneud y gorau o dechnoleg, mae fferm Upper Nisbet wedi bod yn defnyddio technegau adnabod electronig yn y fuches bîff ers sawl blwyddyn. “Yn ogystal â symleiddio’r broses o bwyso ein stoc gorau’n rheolaidd, rydym ni hefyd wedi datblygu system sy’n argraffu labeli cod bar ar gyfer pob anifail sy’n mynd i mewn i’r craets gwartheg. Gellir defnyddio’r system yma wrth gymryd samplau gwaed er mwyn osgoi camgymeriadau ac i gyflymu symudiad yr anifeiliaid drwy’r broses. 

“Mae’r mentrau bîff a thir âr yn cyd-fynd â’i gilydd ac mae’r ddau’n cynnig buddion i’r naill sector. Mae’r fuches sugno’n darparu digon o dail buarth i wella gwerth maethol y pridd, ac mae’r cnydau âr yn darparu bwyd a gwasarn er mwyn lleihau ein costau mewnbwn,” eglurodd Robert.

 

Mae Robert wedi teithio’n helaeth ac yn ddiolchgar i’w Ysgoloriaeth Nuffield am ddatblygu ei ffocws a’i alluogi i weld dulliau arloesol y byddai modd eu gweithredu ar ei fferm er mwyn cynyddu cynhyrchiant.

Mae gallu pob aelod o’r tîm i gyflawni unrhyw swydd ar y fferm yn cynyddu allbynnau ac yn galluogi’r fferm i wneud cynnydd ar raddfa o’r fath bob blwyddyn. Mae Robert yn gosod prosiect sylweddol i’r tîm ei gyflawni bob blwyddyn ar y fferm, i wella cyfleusterau ynghyd â chyflawni gwaith o ddydd i ddydd ar y fferm i safon uchel. 

Roedd y fferm fel pin mewn papur ac roedd angerdd y teulu dros y diwydiant yn amlwg i bawb. Mae’r gallu i fod eisiau rhannu gwybodaeth yn amlwg drwy edrych ar nifer y grwpiau astudio y mae’r fferm yn ymwneud â nhw, ac roedd y croeso a estynnwyd i’r cyhoedd, ac yn enwedig i’r cenedlaethau iau er mwyn eu haddysgu am y diwydiant amaeth, yn ysbrydoliaeth ac yn glod i’r teulu cyfan.

 

 

Prif bwyntiau a ddysgwyd o fferm Upper Nisbet:

  • Mae perthynas dda gyda’r landlord wedi eu galluogi i gynyddu maint y denantiaeth, gan gyfiawnhau gwariant cyfalaf a sicrhau bod y ddau fab yn gallu parhau i ffermio os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
  • Roedd y fferm wedi buddsoddi mewn offer pwyso a chombein sy’n gallu mapio cynnyrch ar ôl ehangu’r ardal o dir âr er mwyn monitro cynnyrch y caeau yn fanwl.
  • Roedd y fferm wedi gosod mannau pwyso awtomatig wrth y cafnau dŵr mewn siediau gwartheg er mwyn lleihau straen ac i fonitro cynnydd pwysau byw dyddiol yn fwy effeithiol.
  • Defnyddir offer pwyso electronig yn y system trin gwartheg er mwyn sicrhau bod y cyfraddau dosio a ddefnyddir yn gywir i sicrhau effeithiolrwydd ac i osgoi gwastraff.
  • Agwedd bositif. 
  • Roedd y sylw i’r manylion yn wych ac roedd y fferm yn hynod daclus. 
  • Mae defnyddio tagiau gwartheg EID electronig a chynnal profion DNA ar bob buwch ar ôl genedigaeth yn golygu ei bod yn bosibl monitro perfformiad gwartheg yn yr hirdymor ac i allu dadansoddi llinach sy’n perfformio’n dda.
  • Gosod nodau a’r gallu i ganolbwyntio yn cynyddu cynhyrchiant.
  • Creadigrwydd ac arloesedd o ran addasu offer, giatiau a pheiriannau er mwyn gwella effeithlonrwydd a chyflawni nifer o dasgau’n ddiogel, ac i fod yn llai dibynnol ar staff ychwanegol.  

 

Bowhill Estate – Sion Williams

 

Mae Sion Williams, rheolwr ffermydd ar ran Bowhill Estate yn gyfrifol am 13,500 erw ar ran Bowhill Farming Ltd a 20,000 erw ar ran Eskdale and Liddesdale Farming Ltd. Mae’r stock yn cynnwys 600 o wartheg sugno (masnachol a phedigri), diadell o 10,800 o famogiaid, 116 ewig i gynhyrchu cig carw, uned ddofednod 32,000 o ieir ac Uned Treuliad Anaerobig 200kW. 

Mae’r ystâd yn tyfu 40 hectar o haidd gwanwyn ac 8 hectar o geirch gwanwyn i fwydo stoc a 36 hectar o gêl er mwyn pesgi ŵyn a bwydo gwartheg sugno; mae gweddill y tir yn borfa neu’n ffriddoedd grug.

Mae Bowhill yn fusnes hynod amrywiol gyda nifer o fentrau’n gweithio ochr yn ochr ac yn cael eu rheoli’n effeithiol ac yn cael eu harwain yn eu blaen gan Sion. Mae ei allu i redeg busnes mor fawr ac amrywiol a chynnal safonau uchel, cadw staff a thyfu’r busnes bob blwyddyn yn anhygoel.

Mae gwartheg pedigri yn Bowhill yn cynnwys 150 o wartheg premiwm Aberdeen Angus pur, ac maent yn cynhyrchu anifeiliaid cyfnewid o weddill y fuches. Mae’r fuches hefyd yn cynhyrchu stoc bridio Aberdeen Angus pedigri i’w gwerthu i ffermwyr  pedigri a masnachol. Mae’r holl wartheg yn lloia yn y  gwanwyn o fewn cyfnod o naw wythnos.

Maent yn cadw oddeutu 50 o wartheg masnachol gyda statws iechyd premiwm, ac maent yn magu anifeiliaid cyfnewid pellach o’r rhain ar gyfer y buchesi ac yn cynhyrchu lloi bîff ar gyfer y fenter cynhyrchu bîff. Mae’r bridiau’n cynnwys Bîff Byrgorn wedi’u croesi â’r Angus ar gyfer cynhyrchu anifeiliaid bridio ac i’w gwerthu fel anifeiliaid cyfnewid, ac mae pob un ohonynt yn lloia o gwmpas 13 Mawrth am gyfnod o naw wythnos.

Mae 200 o wartheg sugno eraill a gedwir ar y fferm fynydd yn wartheg Byrgorn croes yn bennaf, gyda’r Charolais yn cael eu defnyddio fel teirw ar gyfer y rhan fwyaf o loi bîff. Mae’r holl wartheg yn lloia yn y gwanwyn dros gyfnod o naw wythnos.

Ar gyfer cadw dan do yn y gaeaf, mae’r lloi yn cael eu diddyfnu a’u cadw ar wellt/llawr delltog cyn cael eu gwerthu fel gwartheg stôr. Bob blwyddyn, bydd oddeutu 370 o loi bîff stôr yn cael eu bwydo drwy’r system hon. Bydd oddeutu 90 o heffrod yn cael eu cadw gyda thua 70 ohonynt yn mynd i mewn i fuchesi, a bydd y gweddill yn cael eu gwerthu fel heffrod gyda statws iechyd premiwm rhwng 12-18 mis oed. Bydd gweddill y lloi’n cael eu gwerthu wrth gael eu troi allan yn 12 mis oed.

Mae’r fenter ddefaid yn seiliedig ar ddiadell fynydd, gyda 2,690 o famogiaid magu  Wynebddu’r Alban sy’n cael eu cadw ar y 2,059 hectar o ffriddoedd grug ar fferm Bowhill. Maent naill ai’n cynhyrchu defaid pur Wynebddu’r Alban neu’n croesi gyda brîd mamol o Seland Newydd sy’n cynyddu twf a maint ac yn cynhyrchu anifeiliaid cyfnewid ar gyfer y ddiadell lawr gwlad. Mae gweddill yr ŵyn hyn yn cael eu cadw ar gyfer cynhyrchu ŵyn tew, ac maent yn cael eu cyflenwi i Marks & Spencer a Sainsbury’s.

Mae’r ddiadell lawr gwlad ar hyn o bryd yn cynnwys 1,300 o ddefaid Highlander pur, Primera a defaid croes megis Highlander x, Lleyn x a mamogiaid Wyneblas (pob un ohonynt yn groesiadau mamol gyda defaid Wynebddu’r Alban). Mae’r rhain yn cael eu cadw’n bennaf ar gyfer cynhyrchu ŵyn tew, ond maent hefyd yn cynhyrchu stoc magu Highlander a Primera pur er mwyn gwerthu hyrddod neu ar gyfer cadw stoc cyfnewid.

O ran perfformiad ariannol, mae diadelloedd ucheldir a llawr gwlad Bowhill yn perfformio’n gryf, o fewn traean uchaf diadelloedd yr Alban yn ôl ffigyrau QMS.

Mae’r tîm hefyd yn derbyn bonws ŵyna sy’n seiliedig ar lwyddiant ariannol y ddiadell yn gyffredinol. Os bydd perfformiad y ddiadell rhwng y cyfartaledd a’r diadelloedd yn y traean uchaf yn y prisiadau QMS, mae’r tîm yn derbyn bonws o 75c yr oen. Fodd bynnag, os mae o fewn y traean uchaf, mae’r bonws yn cynyddu i £1.50 yr oen.

Mae Bowhill hefyd yn rhedeg uned 32,000 o ieir dodwy maes ar y fferm. Roedd hwn yn brosiect arallgyfeirio ar gyfer y busnes ffermio gan nad yw’n dibynnu ar gymorthdaliadau amaethyddol. Adeiladwyd yr uned yn 2005 ac mae wedi bod yn gaffaeliad i’r busnes gan ei fod yn cyflenwi tail dofednod ar gyfer mentrau âr, safle treuliad anaerobig a’r tir glas ar y fferm. Mae hyn yn cynorthwyo i leihau costau ac yn fuddiol i’r amgylchedd fan ei fod yn golygu defnyddio llai o wrteithiau nad ydynt yn organig.

Un o’r mentrau diweddaraf ar fferm Bowhill yw’r 116 o geirw. Mae’r isadeiledd yn y broses o gael ei osod, ac mae Sion yn rhagweld y bydd y gyr yn tyfu ac yn galluogi’r fenter i ffynnu a chyd-fynd gyda’r sectorau eraill ar yr ystâd.

Mae gwelliannau effeithlonrwydd a newidiadau’n ymwneud â’r farchnad i’r mentrau defaid, gwartheg a thir âr yn ganolog i’w bolisïau. 

Mae Sion yn cyflawni hyn drwy feincnodi pob menter yn drylwyr er mwyn sicrhau’r allbwn gorau posibl gan leihau costau ar yr un pryd. Mae EID yn cofnodi pwysau, symudiadau a thriniaethau milfeddygol ar gyfer yr holl wartheg a defaid. Mae’n un o Ffermydd Arddangos LEAF ae hyn o bryd ac yn un o 32 fferm Lloeren Agri-Epicentre (ynghyd â Robert Neill), yn croesawu technolegau megis delweddau lloeren yn edrych ar lefelau’r borfa, bolysau i’r gwartheg yn edrych ar dymheredd a symudedd y fuwch, ac offer pwyso wrth y cafnu dŵr.

 

Prif bwyntiau a ddysgwyd ar fferm Bowhill

  • Gweledigaeth ac ymrwymiad anhygoel gan Sion
  • Agwedd bositif
  • Sylw i fanylder a sgiliau rheolaeth gwych
  • Rhannu gwybodaeth a bod yn agored i ddysgu sgiliau newydd bob amser. Mae grwpiau trafod yn blatfform gwych i rannu arfer dda ac yn werthfawr iawn ar gyfer rhwydweithio.
  • Mae cofnodi data yn allweddol ar draws bob agwedd o’r busnes 
  • Rhannu tasgau a gwneud y gorau o gryfderau eraill o’ch cwmpas
  • Rhaid gwybod eich costau cynhyrchu a sicrhau bod pob menter yn cael ei gostio’n effeithiol ac yn perfformio’n dda, nid un fenter yn unig.
  • Y gallu i ddefnyddio ynni adnewyddadwy a’i ymgorffori o fewn y brand
  • Mae cryfder arweinydd gyda ffocws yn arwain y busnes yn ei flaen
  • Bod yn greadigol er mwyn cael y gorau o’ch tîm.

 

Nos Sul

Mwynhaodd y grŵp bryd o fwyd gyda’i gilydd a chafwyd trafodaeth agored am bob un o’r ffermydd a welwyd, gan rannu uchafbwyntiau am bob menter gyda’i gilydd. Rhoddodd gyfle gwych i rannu gwahanol safbwyntiau, a chyfle i wneud cysylltiad gyda’u busnesau eu hunain yng Nghymru.


Diwrnod 4

Dydd Llun 30 Medi 2019

Cychwynnodd y grŵp o ugain yn ôl i Gaeredin  i ddal awyren i Faes Awyr Caerdydd, gan fyfyrio ar y daith astudio. 

 

 

 

 

 

 

 

3 Camau Nesaf

Dychwelodd yr aelodau o’r daith astudio yn llawn cymhelliant ac yn awyddus i roi rhai o’r agweddau a ddysgwyd ganddynt yn yr Alban ar waith ar eu ffermydd eu hunain yng Nghymru. 

Mae’r daith wedi rhoi ymdeimlad o undod i’r aelodau ac wedi amlygu manteision cynnal grwpiau trafod fel ffordd o groesawu newid, canolbwyntio a rhannu arfer dda. Daeth y grŵp at ei gilydd yn dda, a rhoddodd yr ymweliad i’r Alban gyfle i’r aelodau rwydweithio mewn amgylchedd gwahanol.

Roedd pob un o’r ffermwyr y bu’r grŵp yn ymweld â nhw yn pwysleisio pwysigrwydd dysgu parhaus ac yn amlygu rhaglenni megis grwpiau Pori ac Ysgoloriaethau Nuffield fel rhan werthfawr iawn o’u datblygiad. 

Roedd y ffermwyr yn dangos nifer o rinweddau cyffredin; roedd pob un ohonynt yn rhoi sylw mawr i fanylder, elfen greadigol, yn croesawu technoleg er mwyn gweddu i’w ffermydd penodol, ac yn benderfynol ac yn angerddol iawn wrth osod nodau. Mae angerdd mor bwysig mewn unrhyw fusnes, ac roedd hi’n braf cael bod ymysg cymaint o ffermwyr blaengar a gweithgar o’r Alban, ac i rwydweithio â nhw, o fewn ein Cymdeithas, ac maent oll mor angerddol dros ein diwydiant a’r dyfodol yn dilyn Brexit. 

Rhoddodd yr ymweliad gyfle i aelodau ystyried newidiadau y byddai modd eu cyflwyno i’w busnesau eu hunain o bosibl er mwyn datblygu gwytnwch. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Pori cylchdro a gwella tir glas
  • Gwelliannau o ran iechyd anifeiliaid
  • Arallgyfeirio
  • Ynni adnewyddadwy
  • Ffermio cyfran
  • Olyniaeth
  • Cynllunio busnes o ystyried Brexit

Mae nifer o’r aelodau’n awyddus i ddefnyddio mwy o wasanaethau Cyswllt Ffermio, gan gynnwys mentora, cyrsiau hyfforddiant a samplu pridd, yn ogystal ag ymgeisio am raglenni megis yr Academi Amaeth a Rhagori ar Bori er mwyn cynyddu eu gwybodaeth a’u sgiliau.

Mae Cymdeithas Tir Glas Aberhonddu hefyd yn awyddus i fanteisio ar botensial Cyswllt Ffermio er mwyn sicrhau cyllid ar gyfer siaradwyr gwadd i fynychu cyfarfodydd y Gymdeithas yn y dyfodol. 

Roedd yr ymweliad â’r Alban yn brofiad gwerthfawr iawn i bob aelod a gymerodd ran, a bydd effaith ein taith yn amlwg am flynyddoedd i ddod. 

Mae’r Gymdeithas yn ddiolchgar iawn am haelioni’r ffermwyr a’u teuluoedd wrth roi o’u hamser i’r grŵp, yn ogystal â Cyswllt Ffermio am eu cymorth gyda chysylltiadau a chyllid.