Taith Astudio Cyswllt Ffermio - Ffermwyr Dyfodol Cymru

Mae'r adroddiad canlynol wedi ei ysgrifennu gan y ffermwyr a'r coedwigwyr a gymerodd ran yn yr ymweliadau. Eu barn hwy eu hunain yn unig sydd wedi'i gynnwys. 

Ffermwyr Dyfodol Cymru

Taith Astudio Gogledd Cymru

29ain-30ain Medi 2017


1        Cefndir

Mae Ffermwyr y Dyfodol yn cynnal ymweliadau blynyddol ag amrywiaeth o ardaloedd y DU gyda grŵp o ffermwyr arloesol a brwdfrydig. Eleni, penderfynwyd ymweld â’r daliadau a’r mentrau canlynol yng Ngogledd Cymru:

1. Rhys Williams, Fferm Trygarn, Pwllheli

System laeth o arddull Seland Newydd a sefydlwyd gan Rhys ar ei fferm ei hun. Mae Rhys yn ffermwr llaeth arloesol ac adnabyddus, sy’n arbenigo mewn cyfleoedd ffermio cyfran. Ar ôl astudio yn Aberystwyth, bu Rhys yn gweithio ar ffermydd llaeth yng Nghymru, ac yna yn Seland Newydd, cyn canfod cyfle i ddychwelyd i Gymru i ddechrau ffermio cyfran. Mae Rhys bellach yn rhedeg pedwar daliad trwy fentrau ffermio cyfran.

Yn ystod yr ymweliad, gobeithiwn gael dealltwriaeth o’r cyfleoedd a gafodd Rhys a’i deulu wrth ddychwelyd i Gymru, a’r heriau a sut mae ffermio cyfran yn gweithio ar gyfer menter laeth. Gobeithiwn gael cipolwg o sut all daliadau llaeth rannu elw’n seiliedig ar gyfranddaliadau a sut mae Rhys yn gallu rheoli nifer o ddaliadau gydag arferion rheolaeth gofalus.

Gobeithiwn hefyd gael cyfle i weld yr unig fferm y mae’n berchen arni ac yn ei rhedeg o ddydd i ddydd ynghyd â manylion bridio anifeiliaid cyfnewid a rheolaeth tir glas. 

2. Richard a Harri Parry, Crugeran, Pwllheli

Ymweliad â buches Stabiliser Richard a Harri Parry ynghyd â busnes hunanarlwyo’r teulu a’r sied ddodwy a adeiladwyd yn ddiweddar.  Mae gan y teulu fuches sylweddol o wartheg sugno Stabiliser a gobeithiwn arsylwi’r gwartheg er mwyn deall eu rhinweddau bridio. Hoffem hefyd ddysgu am system ddŵr y fferm a sut mae’r gwartheg yn cael eu gwerthu i’r farchnad.
Mae’r fferm hefyd yn cadw diadell 800 o famogiaid sy’n ŵyna ym mis Ionawr neu ganol Chwefror. Rydym yn dymuno deall sut mae’r teulu’n rhedeg diadell mor gawr ynghyd â mentrau eraill ar y tir, nid yn unig ar lawr gwlad, ond hefyd ar y mynydd.

Mae uned ddofednod maes 32,000 o adar wedi cael ei adeiladu’n ddiweddar a hoffem gael gwell dealltwriaeth o’r cynllun Grant Cynhyrchu Cynaliadwy (SPG), wedi iddynt sicrhau llwyddiant, ynghyd â’r cnydau grawn eraill a dyfir ar y daliadau.

Mae’r teulu hefyd yn rhedeg nifer o fythynnod hunanarlwyo sy’n fenter arallgyfeirio ar wahân i’r prif ddaliad fferm.  

3. Dylan Jones, Fferm Castellor, Ynys Môn
Ymweliad ag uned bîff, diadell ddwys a thir âr Dylan i weld sut mae’r fferm wedi datblygu ers y 1960au. Gobeithiwn dderbyn dealltwriaeth dda o’r mentrau defaid a chnydau âr ar Ynys Môn, a gyda’r system gynllunio wahanol ar waith heb y Datblygiad Cyffredinol a Ganiateir, gobeithiwn y gallwn ddatblygu gwell dealltwriaeth o geisiadau cynllunio at ddibenion amaethyddol. 

 
4. Halen Môn, Ynys Môn – Taith o’r Busnes Halen
Mae gennym ddiddordeb gweld sut mae’r busnes wedi tyfu o fenter wystrys fechan i gyfanwerthu pysgod a helgig, a sefydlu’r Sw Môr hyd at ddatblygu i werthu halen ym 1999. Mae’r cwmni bellach yn cynhyrchu cynnyrch halen o ansawdd uchel ac yn ei werthu ledled y byd. Mae gennym ddiddordeb i glywed sut gychwynnodd y busnes, beth mae’r broses cynhyrchu halen o ddŵr môr yn ei olygu a sut maent yn marchnata’r cynnyrch.

2        Amserlen

Diwrnod cyntaf:

Rhys Williams, Fferm Trygarn, Pwllheli

Cafodd y grŵp gyfle i holi nifer o gwestiynau yn dilyn disgrifiad manwl o sut mae Rhys a’i deulu’n ffermio pum menter wahanol, gan gynnwys eu daliad eu hunain, y buom yn ymweld ag ef. Eglurodd Rhys y llwyddiannau a’r ochrau negyddol o ffermio cyfran a sut mae modd i fenter lwyddiannus fod yn gynaliadwy trwy arweinyddiaeth dda a chanfod y gweithwyr cywir.  Bûm yn edrych ar wahanol agweddau positif a negyddol yn ymwneud â ffermio cyfran a datblygu dealltwriaeth o sut mae modd i’r trefniant hwn weithio’n gyfreithiol ac yn ymarferol, ar gyfer perchnogion tir a thenantiaid, ffermwyr a gweithwyr.

Cawsom hefyd gipolwg ar sut mae’r daliad yn cael ei rhedeg, dan reolaeth un gweithiwr a hanner. Roedd y cyfnod lloia’n ymestyn dros gyfnod  o 8 wythnos gyda’r gwartheg yn pori’r caeau o amgylch y fferm gartref. Roedd siediau ar gyfer y gaeaf a system hunan-borthi silwair hefyd ar gael. Bûm yn trafod padogau pori a mesur y glaswellt trwy bwyso’r glaswellt yn wythnosol er mwyn gallu deall sut mae pob cae yn adfer ei hun.

Richard a Harri Parry, Crugeran, Pwllheli

Yn ystod yr ymweliad â fferm y teulu Parry, clywsom fod y fuches sugno Stabiliser wedi cael ei ffurfio wedi i bum ffermwr deithio i America i brynu embryonau. Yna, cafodd y fuches bîff Stabiliser eu bridio mewn pedwar dull i sicrhau bywiogrwydd hybrid. Mae’r teulu Parry yn gwerthu’r holl stoc bîff ac nid ydynt yn prynu unrhyw stoc ar wahân i 15 embryo am gost o £10,000 y flwyddyn.  Maent yn monitro faint o fwyd a fwyteir yn erbyn y cynnydd pwysau byw gyda’r nod o sicrhau cynnydd o 4%.

Mae’r teulu hefyd yn cadw diadell o 800 o famogiaid yn cynnwys 300 o famogiaid Lleyn a 500 mamog Seland Newydd croes Suffolk. Maent yn ŵyna ym mis Ionawr hyd ganol Chwefror ac maent hefyd yn cael eu gwerthu i archfarchnadoedd Waitrose. 

Yn ogystal, roedd y teulu wedi sefydlu uned ddofednod 32,000 o adar yn ddiweddar gydag arian o’r Cynllun Grant Cynhyrchu Cynaliadwy. Roedd hwn yn y broses o gael ei adeiladu gyda’r dofednod yn cyrraedd yn fuan. Unwaith eto, bydd yr wyau’n cael eu gwerthu i Waitrose.   Bûm yn trafod isadeiledd yr adeilad sy’n cynnwys system gludo ar gyfer y tail a mesurau bioddiogelwch i atal ffliw adar.

Gyda’i gilydd, mae’r fferm deuluol 385 erw gartref ynghyd â fferm fynydd 350 erw, a ddefnyddir i bori gwartheg a defaid yn unig yn yr haf. Mae’r holl rawn yn cael ei dyfu ar y fferm, ac eithrio ychydig o’r gymysgedd ar gyfer y gwartheg a’r defaid.

Mae teirw a bustych yn cael eu gwerthu i Morrisons yn 13-14 mis oed, pan fyddant yn cyrraedd y pwysau targed o 650 kilo. Byddai’r teulu’n awyddus i weld lladd-dai yn symud oddi wrth grid Ewrop ar gyfer ansawdd cig, yn debyg i’r system a welir yn Awstralia.  Mae gwartheg yn derbyn dwysfwyd a dim ond ar gyfer eplesiad yn y system dreulio y caiff silwair ei borthi. Mae’r gwaith ymchwil i systemau pori’r gwartheg a’r defaid i’w weld wrth i’r holl gynnyrch gyrraedd y targed ar gyfer cynnydd pwysau byw ac yn sicrhau’r safon orau wrth fynd i’r farchnad.  Mae ansawdd dŵr y daliad yn eithaf pwysig.  Nid oedd unrhyw ddŵr llonydd gan fod dŵr ffres yn cael ei ddarparu i’r holl dda byw.

Mae’r busnes hefyd wedi arallgyfeirio i ddarparu bythynnod gwyliau, sy’n ychwanegol i’r busnes fferm. Roedd ganddynt bum bwthyn hunanarlwyo yn ogystal â thŷ mawr, gyda lle i hyd at 20 o bobl.  O’r ymweliad â’r teulu Parry, cawsom weld sut oedd teulu yn yr ardal hon yn gallu arallgyfeirio, gan wneud y defnydd gorau o gymorth grant a defnyddio’r tir i’w lawn botensial.  

 

Ail ddiwrnod:

Dylan Jones, Fferm Castellor, Ynys Môn

Aethom i ymweld â Dylan Jones a’i deulu, tîm tad a mab sy’n rhedeg menter bîff a defaid llwyddiannus ar Ynys Môn. Roedd y busnes yn cynnwys uned besgi bîff, diadell 900 o famogiaid a chnydau âr dros ardal 800 erw. Mae’r fferm wedi tyfu’n sylweddol ers ei brynu yn y 60au, wedi i’r teulu brynu tir cyfagos, ac mae 650 erw yn berchen iddynt a 150 erw ar rent yn lleol. Mae’r fferm yn galluogi’r teulu i dyfu cnydau ac mae hyn yn fantais aruthrol i’r busnes gan fod yr holl fwyd a gwellt yn cael ei dyfu ar y fferm, ac nid oes unrhyw fwyd yn cael ei brynu i mewn. Cawsom hefyd gyfle i ddatblygu dealltwriaeth o’r system gynllunio ar gyfer adeiladau amaethyddol a sut mae’r system gynllunio yn wahanol ar Ynys Môn. Roedd y mentrau a’r tir yn cael eu rheoli i’r safon uchaf posibl, ac roedd yn bleser gweld y da byw a’r adeiladau fferm o ganlyniad i fuddsoddiad ac ymrwymiad y teulu. 

Halen Môn, Ynys Môn

Ar ôl datblygu Sw Môr Ynys Môn, penderfynodd y teulu werthu’r Sw er mwyn canolbwyntio ar ehangu’r busnes Halen Môr o ddŵr y Fenai. Gan ddefnyddio dŵr môr o’r Fenai wedi’i hidlo â siarcol, mae’r dŵr môr yn teithio drwy wely cregyn gleision a banciau tywod cyn dod i’ mewn i’r ffatri. Mae’r dŵr môr yn cael ei gynhesu mewn gwactod ar dymheredd isel sy’n troi’r dŵr yn stêm a dŵr halen. Yna caiff ei anfon i’r tanciau crisialu er mwyn galluogi’r crisialau halen i ffurfio. Unwaith y bydd wedi’i ffurfio, mae’r halen yn cael ei gasglu â llaw.  Mae mwyafrif yr halen yn cael ei gadw’n naturiol cyn ei becynnu, ychydig yn cael ei gymysgu â chynhwysion a blasau eraill, neu’n cael ei fygu ar gyfer cymysgeddau penodol. 

Yn 2014, derbyniodd y cwmni ddyfarniad Enw Tarddiad Gwarchodedig gan y Comisiwn Ewropeaidd, sy’n ei ddiogelu rhag cael ei efelychu a’i gamddefnyddio.

3        Camau nesaf

Roedd hwn yn ymweliad deuddydd cadarnhaol a atgyfnerthodd ein hymrwymiad i’r diwydiant amaeth ymhellach. Rhoddodd yr ymweliadau hyder i ni fuddsoddi yn ein busnesau ac yn ansawdd y da byw a’r tir ac mae marchnad gynaliadwy ar gyfer ein cynnyrch. Roedd y rhain yn enghreifftiau perffaith o ffermydd cynhyrchiol ac yn dangos yn glir po fwyaf yw’r mewnbwn, gorau oll fydd yr enillion.

Yn dilyn yr ymweliad, bydd aelodau’n paratoi adroddiad byr er mwyn i aelodau eraill elwa ohono. Bydd yr adroddiad yn cynnwys amlinelliad o bob menter yn ogystal â’r stori a chefndir sut mae pob menter wedi dod yn gynaliadwy ac yn llwyddiannus. Bydd aelodau hefyd yn ysgrifennu am yr hyn a ddysgwyd ganddynt o’r ymweliad a byddant yn cyflwyno’r adroddiad ynghyd â lluniau yn ystod y cyfarfod cyffredinol blynyddol, lle bydd cyfle i drafod yr ymweliad, ein canfyddiadau a’n profiadau.

Byddwn yn gofyn i’r rhai a fynychodd a ydynt wedi rhoi’r wybodaeth a ddysgwyd ganddynt yn ystod yr ymweliad ar waith yn eu mentrau neu fusnesau eu hunain. Bydd hyn yn ffurfio rhan o drafodaeth ehangach rhwng aelodau yn ystod y cyfarfod nesaf. Bydd unrhyw aelodau nad oeddent yn gallu mynychu yn gallu holi’r rhai a oedd yn bresennol ynglŷn ag unrhyw sector benodol yr hoffent ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth yn eu cylch.

Bydd yr adroddiad hefyd yn cael ei gyhoeddi ar lein ar gyfer y cyhoedd.