Taith Astudio Cyswllt Ffermio - Ffermwyr Llaeth NextGen

Ffermwyr Llaeth NextGen 

Caer, Gogledd Swydd Efrog a’r Alban

19 - 22 Medi 2019


1) Cefndir

‘NextGen Dairy Farmers’ yw enw grŵp o ffermwyr llaeth o Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Chaer, sy’n chwilio am ffyrdd o wella eu buchesi. Nod yr ymweliad astudio oedd ymweld â rhai o’r ffermwyr llaeth mwyaf blaengar yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Metcalfe Farms, enillydd Cwpan Aur y Cofnodion Llaeth Cenedlaethol (National Milk Records: NMR) yn 2018. O ran prisiau llaeth presennol, canolbwyntiodd y grŵp ar gost cynhyrchu ar sail ceiniog y litr (PPL).   

 

2) Rhaglen

Diwrnod 1

Aeth y grŵp i gyfarfod John Allwood sy’n ffermio 600 o wartheg Holstein Friesian ar Fferm Huntington Hall, Caer. Roedd John wedi mynd ati i godi sied newydd ar gyfer stoc ifanc oherwydd, er ei fod yn tacio heffrod ar ffermydd eraill cyn hynny, nid oedd yn hapus gyda’r cyfraddau twf; nid oedd yn fodlon ychwaith â chyfartaledd oedran yr heffrod wrth fwrw llo am y tro cyntaf. Ers iddo gael y sied newydd, roedd y cyfartaledd oedran wrth fwrw llo am y tro cyntaf wedi gostwng. Roedd buches John yn cynhyrchu cyfartaledd o 11,900 litr fesul cyfnod llaetha, ac roedd heffrod yn ymuno â’r fuches yn 22 mis oed. Roedd John wedi cael 600 litr o laeth ychwanegol yn ystod y cyfnod llaetha cyntaf o’i gymharu â heffrod oedd wedi bwrw llo yn 24 mis oed, gan olygu iddo ennill £40,000 ychwanegol y flwyddyn.  

Roedd y grŵp yn cytuno bod gostwng yr oedran bwrw llo am y tro cyntaf yn darged y gallent geisio ei gyrraedd er mwyn magu lloi yn fwy effeithlon. Trwy bwyso heffrod yn amlach a sicrhau bod y dognau yn gywir, bydd unrhyw heffrod nad ydynt yn gwneud yr un cynnydd pwysau byw dyddiol yn cael eu difa yn fuan. 

 

Diwrnod 2

Ar ail ddiwrnod y daith, aeth y grŵp i ymweld â Metcalfe Farms, Washfold Farm, Gogledd Swydd Efrog; enillwyr Cwpan Aur y Cofnodion Llaeth Cenedlaethol (NMR) yn 2018. Roedd Metcalfe Farms yn gwneud gwaith arbennig iawn, gan redeg tri busnes ochr yn ochr: contract cludo nwyddau trwm ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn; contractio amaethyddol, a buches laeth yn cynnwys 1,200 o wartheg. Mae dros 60 o bobl yn cael eu cyflogi yn adran amaethyddol y busnes ac mae’r staff yn derbyn hyfforddiant i ymgymryd â swyddi uwch ar y fferm. Roedd y fferm yn cael ei rhedeg yn esmwyth ac roedd pob gweithiwr yn dod o Brydain. Roedd hanner gweithwyr y llaethdy yn fenywod, ac roedd y fferm yn falch iawn o’r ffaith hon. Roeddynt yn awyddus i hyfforddi pob aelod staff i lefel lle’r roeddynt yn gymwys i ymgymryd â phob swydd yn y llaethdy.  

Roedd aelodau’r grŵp yn teimlo bod anfon staff ar ddyddiau hyfforddiant yn rhywbeth y gallent oll ei wneud yn well, a bod rhoi mwy o gyfrifoldebau i staff yn bwysig er mwyn iddynt deimlo eu bod yn chwarae rhan hanfodol yn y busnes.

 

Diwrnod 3

Ar y trydydd diwrnod, aeth y grŵp i ymweld â Callum Jamieson yn Woodhead Farm, Annan, Yr Alban. Mae’r fferm yn godro 800 o wartheg (pob un yn cynhyrchu cyfartaledd o 42 litr y diwrnod). Ymwelodd y grŵp â’r fferm er mwyn dysgu sut i gynhyrchu rhagor o laeth o borthiant glaswellt. Nid yw’r gwartheg yn cael eu bwydo ag india-corn, felly mae cynhyrchu silwair yn flaenoriaeth ar y fferm hon. Roedd Callum yn defnyddio llawer o ddwysfwydydd, ac yn bwydo 19kg y dydd i bob buwch. Dywedodd Callum nad oedd ots ganddo fod y bil porthiant mor uchel oherwydd roedd ei gostau cynhyrchu yn isel gan fod y gwartheg yn cynhyrchu cymaint o laeth. Roedd yn ceisio cynhyrchu silwair gwell a symud at system aml-dorri o bum toriad y tymor, er mwyn lleihau cost y porthiant roedd yn ei brynu i mewn gan wella ei gostau cynhyrchu o ganlyniad. 

Dywedodd aelodau’r grŵp eu bod nhw hefyd yn ceisio symud at system aml-dorri, ac roedd rhai eisoes yn gwneud hyn. Roedd rhai aelodau o’r grŵp yn credu ei fod yn defnyddio gormod o ddwysfwydydd.

Ar gyfer ail ymweliad y diwrnod, aeth y grŵp i Balmangan Farm, fferm Duncan Wallace yn Dundrennan, Yr Alban. Mae Duncan, sy’n ffermio 1,800 o wartheg, wedi codi sied magu heffrod newydd er mwyn arbed ar y gost o’u tacio ar ffermydd eraill.  Mae’r cynnydd pwysau byw dyddiol wedi gwella hefyd ers defnyddio’r sied newydd. Y rheswm dros ymweld â’r fferm hon oedd dysgu rhagor am gostau magu is, yn ogystal â dysgu sut i wella twf heffrod er mwyn gostwng eu hoedran wrth fwrw llo am y tro cyntaf. Dywedodd Duncan wrth y grŵp ei fod bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella pob manylyn yn ymwneud â’r fferm. Roedd yn rhannu’r un ddamcaniaeth â Callum – defnyddio llawer o ddwysfwydydd, ond dywedodd y bydd litrau bob amser yn talu mwy na chynnyrch is. Dywedodd, hyd yn oed petai’n cynhyrchu llaeth o ansawdd uwch ond yn cynhyrchu llai ohono, y byddai’n colli arian. Roedd y sied newydd ar gyfer magu heffrod yn drawiadol iawn; roedd yr heffrod yn ennill 1kg y diwrnod ar gyfartaledd ac yn bwrw lloi yn 22 mis oed.

Dywedodd pob aelod o’r grŵp fod angen iddynt wella eu cyfleusterau magu heffrod a sicrhau eu bod yn bwydo eu heffrod yn effeithlon a gwneud yn siŵr eu bod yn magu pwysau ar yr un pryd.

 

Diwrnod 4

Mae fferm ieir Glenrath Chickens, Whim, Peebleshire, yn cael ei rhedeg gan y teulu Campbell ac mae’n cynhyrchu dros filiwn o wyau bob dydd. Y rheswm dros yr ymweliad oedd archwilio’r posibiliadau ar gyfer arallgyfeirio i faes ffermio ieir yn y dyfodol, gan fod pris llaeth yn amrywio drwy’r flwyddyn. Mae Fferm Glenrath yn fferm 25,000 erw gyda 15,000 o ddefaid, 1,000 o wartheg sugno a 2 filiwn o ieir – y pumed cynhyrchydd wyau mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Mae’r fferm yn cyflogi 250 aelod staff ar hyd y flwyddyn. Mae’r fferm wedi gwella ei busnes drwy brynu prosesydd i ddefnyddio’r wyau dosbarth ‘B’, sef wyau sydd naill ai wedi cracio neu wyau budr; erbyn hyn, mae’r rhain yn cael eu prosesu ar ffurf hylif a’u gwerthu. Cyn hyn, roeddynt yn eu gwerthu i fusnesau eraill; bellach, maent wedi gwella eu busnes a’u helw.   

O ystyried cyflwr presennol y sector llaeth, roedd aelodau’r grŵp yn cytuno bod angen arallgyfeirio o ffermio llaeth. Mae rhai o aelodau’r grŵp eisoes wedi gosod siediau ieir, ynni adnewyddadwy, ac mae aelodau eraill y grŵp yn ystyried gwneud hyn hefyd.

 

3) Camau Nesaf

Y camau nesaf ar gyfer y grŵp hwn fydd talu mwy o sylw i fagu heffrod a hefyd bwydo colostrwm. Hefyd, bydd angen edrych ar bwyso heffrod bob mis a difa’r anifeiliaid nad ydynt yn cyrraedd y targed o ran pwysau. Maent wedi dysgu sut i fod yn fwy agored gyda staff a’u cynnwys yng nghyfeiriad y busnes yn y dyfodol. Maent yn bwriadu buddsoddi mewn dyddiau hyfforddiant ar gyfer eu staff er mwyn parhau i’w hysgogi ac ystyried ffyrdd o arallgyfeirio eu busnesau eu hunain; o dai gwyliau, gwersylloedd glampio ac ynni adnewyddadwy i ffynonellau incwm eraill. 

Roedd pawb a ddaeth ar y daith astudio wedi mwynhau’n fawr. Roeddynt o’r farn bod treulio amser yng nghwmni pobl o’r un anian, sy’n awyddus i ddysgu a gwella eu hunain a’u busnes, yn beth buddiol iawn. Roedd pob aelod o’r grŵp yn awyddus i wybod pryd byddai’n bosibl trefnu’r daith nesaf. Roedd pawb wedi dysgu rhywbeth yn ystod y daith astudio ac mae pawb wedi ceiso gwella mân bethau ar ôl dychwelyd adref, gyda’r bwriad o fynd ar daith arall yn ystod yr hydref 2020.