Taith Astudio Cyswllt Ffermio - Grŵp Cynllun Lloi Integredig CFfI Cymru

Ariannwyd drwy’r Cynllun Trosglwyddo Gwybodaeth, Arloesi a Gwasanaeth Cynghori o dan Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020

Grŵp Cynllun Lloi Integredig CFfI Cymru

County Tyrone, Gogledd Iwerddon

3ydd – 4ydd Tachwedd 2015


1) Cefndir

Gweledigaeth Ceri Davies, Cadeirydd Materion Gwledig CFfI Cymru 2014/15 yw’r grŵp Cynllun Lloi Integredig. Pan gafodd ei wneud yn Is-gadeirydd ysbrydolwyd Ceri gan y cynllun ŵyn presennol i feddwl y tu allan i’r bocs a datblygu cynllun lloi arfaethedig. Tra bod y cynllun ŵyn bellach ar ei 5ed flwyddyn byddai llawer mwy o heriau i’w hwynebu, a’u goresgyn gobeithio, fel hyd y gadwyn gyflenwi, prynu’r lloi a bygythiad TB buchol.

Paratowyd cynnig a’i gyflwyno i Brif Weithredwr Dunbia, Mr Jim Dobson.  Mae CFfI Cymru, Sainsbury’s a Dunbia wedi sefydlu perthynas yn ystod y pum mlynedd diwethaf, felly, roedd cysylltu â’r cwmni’n ddewis amlwg.  Yn y cyfarfod ar ddiwedd y gwanwyn nodwyd sawl maes y mae angen i ni roi sylw iddynt e.e. ein pwynt gwerthu unigryw a brand, gan gofio fod gan Bîff Cymru heriau ei hun o ran adnabod brand.

Gwnaed gwaith pellach yn ystod yr haf ac mae mwy o aelodau wedi dangos diddordeb. Gyda’u gwahanol sgiliau a phrofiad roeddem yn awyddus i’w cynnwys i helpu i ddatblygu’r cynnig. Paratowyd cynnig aml-dudalen ac wrth wraidd y cynnig mae hanes ymddiriedaeth, gallu i olrhain a brwdfrydedd, dyma oedd ein pwynt gwerthu unigryw. Yn 2016 mae CFfI Cymru’n dathlu 80 mlynedd, sefydlwyd y clybiau ffermwyr ifanc gwreiddiol fel clybiau magu lloi. Cafodd y cynllun cynnar a ddatblygwyd gan ein cyndeidiau lawer o gyhoeddusrwydd a chefnogaeth gan y cyfryngau yn cynnwys perchennog y Daily Mail. Arferai’r Arwerthwr werthu’r lloi am ddim a byddai 10% o’r elw’n mynd yn ôl i’r Gronfa Reoli i brynu lloi’r flwyddyn nesaf gyda’r gweddill yn mynd i aelod y CFfI.

Bydd wyrion y clybiau magu lloi gwreiddiol sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o gynllun cyffrous yn darparu hanes unigryw tair cenhedlaeth o deuluoedd ffermio a bydd modd eu holrhain dros 80 mlynedd.

       

Ar 8 Gorffennaf cyfarfu’r grŵp â thîm o Dunbia gan fynd ar daith i safle Preston ac at gynhyrchwr oedd yn eu cyflenwi yn yr un ardal oedd wedi sicrhau canlyniadau rhagorol. Tra ein bod yn falch iawn o fod wedi ennyn diddordeb a chefnogaeth Dunbia mae cynllun o’r math hwn eisoes wedi golygu gwaith caled ond bydd yn siŵr o ddwyn ffrwyth.

 

Roedd y Sioe Frenhinol yn ddigwyddiad delfrydol i drafod y syniad ymhellach ac roeddem yn falch o gael y cyfle i gyfleu’r weledigaeth i swyddogion Llywodraeth Cymru a Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth a Bwyd. Ar hyn roedd Dunbia yn credu y byddem yn elwa ar ymweld â gwahanol systemau yng Ngogledd Iwerddon ac yn benodol i gyfarfod ffermwr magu lloi sydd â phum mlynedd o brofiad ac sydd wedi datblygu busnes llwyddiannus iawn gyda’i bartner busnes yn ystod y cyfnod hwnnw. Roedd Gary Fitzpatrick a John Toland yn awyddus i drosglwyddo eu gwybodaeth i’r genhedlaeth nesaf ac fel rhai oedd yn newydd i’r maes roeddem yn awyddus i’w gweld yn gweithio a dysgu ganddynt. Cafodd John a Gary eu cynnwys ar restr fer Ffermwyr Bîff y Flwyddyn Farmers Weekly, oedd yn creu diddordeb pellach. Mae’r system a weithredir yn fferm Moss Hill yn syml, mae’r lloi ar y fferm am tua 10 wythnos ac yn cael eu gwerthu pan maent tua thri mis oed ac yn pwyso tua 130-140kg. Wrth gyrraedd caiff y lloi eu pwyso, a chaiff y pwysau eu monitro drwy gydol y cyfnod magu o 10 wythnos.

Mae’r galw am loi sy’n cael eu magu ar fferm Moss Hill mor gryf nes bod yr anifeiliaid wedi’u gwerthu ymlaen llaw pan gânt eu prynu. Mae’r fferm yn ymfalchïo fod y gyfradd farwolaeth yn isel iawn, yn llai nag 1%. Caiff y lloi eu magu ar ddwy safle mewn siediau wedi’u cynllunio’n bwrpasol, gyda system awyru a goleuo a lle bwydo arbennig. Cedwir y lloi mewn grwpiau o wyth (gyda’r lloi gwryw a benyw’n gymysg) ar y gwellt haidd gorau, i hybu twf ac iechyd da. Mae Gary a John yn bwriadu codi uned amgylcheddol dan reolaeth newydd ar gyfer y lloi sy’n costio £80,000-£100,000 er mwyn gallu ehangu. Mae’r lloi’n cael 450g o bowdwr llaeth ddwywaith y dydd am y pythefnos gyntaf. Mae hyn yn llai na’r hyn a argymhellir gan nifer o gwmnïau porthiant. Felly roedd y grŵp ffermwyr ifanc yn awyddus i weld pa mor dda oedd yn lloi’n tyfu ynghyd â’r gwahaniaeth o ran cynnydd mewn pwysau byw dyddiol. Yn wir mae Gary a John yn rhoi llai o bowdwr llaeth ac yn rhoi 16.5% o ddwysfwyd grawn protein o ansawdd sy’n golygu eu bod yn cael eu hannog i fwyta mwy o ddwysfwyd, sy’n ysgogi datblygiad papilau. Mae fferm Moss Hill yn magu tua 5,000 o loi'r flwyddyn ar 26 hectar ac mae’r holl ddeunydd y mae’r lloi’n gorwedd arno’n mynd i beiriant treulio anaerobig cymydog. Fel Cymru, mae lefel glawiad uchel yn Iwerddon ond mae Gary a John yn ystyried hwn fel ffactor cadarnhaol ac maent yn defnyddio’r dŵr glaw i olchi’r pinnau. Mae Gary a John yn gweithio’n agos iawn gyda’u milfeddyg ac mae ganddynt drefn frechu gaeth, gan roi brechiad rhag niwmonia i’w lloi cyn iddynt hyd yn oed ddod allan o’r lori. Fis yn ddiweddarach, mae’r lloi’n cael brechiad IBR i’w diogelu yn y tymor hir yn erbyn clefydau resbiradol. Mae dyluniad y siediau hefyd yn fater allweddol y mae Gary a John yn canolbwyntio arno, i sicrhau na chedwir gormod o loi ynddynt a’u bod bob amser yn gorwedd ar wely sych gyda system awyru ddigonol. Arwyddair Gary yw, ‘Os na fyddech chi’n gorwedd arno, ddylech chi ddim disgwyl i loi wneud.’ Mae fferm Moss Hill wedi cymryd rhan hefyd mewn gwahanol feysydd ymchwil a datblygu. Maent wedi gweithio’n agos gyda’r Adran Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig ar wahanol dreialon porthi, ac maent yn gweithio gyda chwmni sy’n ystyried defnyddio ED ar y fferm. Felly gyda gwybodaeth ac arbenigedd ym mhob un o’r meysydd hyn roedd yn gyfle na ddylid ei golli.

                                              

2) Trefn y Daith

2.1 - Diwrnod 1

Treuliwyd y diwrnod cyntaf yn teithio’n bennaf. Prif bwrpas diwrnod cyntaf y daith astudio oedd diweddaru’r holl aelodau ynghylch cynnydd y cynllun, nodau ac amcanion y cynllun a rhestru’r heriau. Rhannwyd ymchwil a datblygiad, gofynnwyd cwestiynau a chyflwynwyd pecynnau’r daith astudio.

Teithiodd aelodau o Sir Geredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Sir Frycheiniog, Sir Faesyfed, Sir Drefaldwyn a Sir Forgannwg. Felly treuliwyd cyfnod yn dod i adnabod ei gilydd. Hedfanodd y grŵp gyda’i gilydd o Firmingham i Felfast.

 

2.2 - Diwrnod 2

Dechreuodd ail ddiwrnod y daith astudio cyn iddi oleuo gan deithio i fferm John Toland. John Toland yw partner busnes mentor magu lloi'r cynllun; Gary Fitzpatrick. Mae John yn magu’r lloi wythnos oed a brynir naill ai’n uniongyrchol oddi ar y fferm neu drwy’r arwerthiant. Mae’r lloi’n pwyso tua 50kg pan gânt eu prynu ac maent tua 75kg pan gânt eu diddyfnu. Rhoddwyd cyfle i aelodau’r grŵp edrych ar y system ar gyfer porthi’r lloi oedd yn cynnwys tanc mawr i gymysgu’r powdwr llaeth sych, sydd yna’n cael ei drosglwyddo i danc arall a’i gludo i bob sied lle caiff ei bwmpio drwy bibell i’r bwcedi magu lloi. Caiff bob pin o 5-8 llo eu porthi’n unigol yna mae’r bwced yn cael ei symud ymlaen. Mae’r lloi’n cael 3 - 3.5 litr y dydd a dwysfwyd sych o’r enw ‘quick start’ sy’n costio tua £500 y dunnell. Roedd y lloi’n edrych fel pe baent yn tyfu’n dda ac roedd y porthiant yn edrych ac yn arogli’n dda iawn. Edrychwyd ar bwysigrwydd cadw gwartheg mewn grwpiau dan reolaeth a llenwi’r siediau o fewn 5 diwrnod i atal firysau rhag lledu.

Cafodd y grŵp gyfle i ofyn cwestiynau o safbwynt pa fesurau a weithredir i sicrhau iechyd ac egni’r lloi ynghyd â phynciau fel faint o golostrwm a roddir iddynt, brechu yn erbyn niwmonia, digornio a chyweirio. Trafodwyd patrymau porthi, cymharwyd a chraffwyd ar batrymau porthi a dadansoddwyd y porthiant. Edrychwyd yn fanwl ar y mathau o siediau oedd gan John a Gary gan eu bod yn credu’n gryf iawn os yw’r system awyru’n gweithio yn eich siediau mai ychydig iawn o waith brechu sydd ei angen. Credid na fyddai rheoliadau adeiladu yng Nghymru’n caniatáu adeiladau gydag ochrau mor uchel â hyn.

          

Yna teithiwyd i fferm Gary Fitzpatrick gan edrych ar ei system a chawsom weld yr uned magu lloi. Yma caiff y lloi eu magu nes eu bod yn 14 wythnos oed. Roedd yr holl wartheg yn cael gwellt haidd a dwysfwyd yn seiliedig ar rawn. Yn ddelfrydol byddai gwartheg yn gorwedd ar wellt haidd ac yn bwyta gwellt gwenith ond mae’r holl wellt yn gorfod cael ei gludo dros y môr o Dde Iwerddon felly maent yn defnyddio beth sydd ar gael i’w brynu. Ar ôl cyrraedd y cam hwn gall y gwartheg fod yn gymysg.

         

Gan ddilyn y gadwyn gyflenwi integredig aethpwyd â ni i’r cam nesaf i fferm Aaron Tallon. Mae Aaron yn ffermwr ifanc sy’n pesgi 100 o wartheg bob blwyddyn. Daw’r gwartheg i gyd gan Gary Fitzpatrick. Crëwyd argraff arbennig ar Dunbia gan yr hyn y mae wedi’i gyflawni, yn arbennig ei ganlyniadau drwy bori cylchdro. Mae Aaron yn pesgi teirw hefyd yn ogystal â bustych a heffrod. Mae wedi bod yn rhan o dreialon magu teirw yn ddiweddar.

                  

Yna aethom i Fferm Summer Hill, sy’n eiddo i Steven McAllister. Ffermwr llaeth yw Steven ac mae'n pesgi 400 o wartheg bîff; Holstein Freisian a Henffordd. Aeth Steven â ni ar daith oedd yn cynnwys edrych ar y gwelliannau i’r siediau, a’r slatiau rwber a ychwanegwyd i wella lles y gwartheg. Mae Steven hefyd yn cymryd rhan mewn treialon porthiant ar gyfer Dunbia ac mae wedi cytuno i rannu’r canlyniadau gyda’r grŵp. Mae Steven yn defnyddio peiriant i borthi ei holl loi ac mae'n defnyddio system coleri i fonitro cynnydd y lloi. Mae Steven yn gorffen ei wartheg ar wellt gwenith a chyfuniad o soia, bara, grawn distyllwr a thriogl.

                   

Daeth y diwrnod i ben gyda chynnig gan Dunbia a ysgogodd nifer o gwestiynau.

 

3) Camau Nesaf

[Beth ydych am wneud nesaf? Rydych wedi cael gwybodaeth werthfawr ar eich taith astudio a ddylai eich galluogi i roi rhai o’ch syniadau newydd ar waith neu wneud newidiadau i’r ffordd yr ydych yn rhedeg eich busnes. Gorffennwch eich adroddiad gyda chrynodeb o bwyntiau gweithredu a chamau nesaf ar gyfer y grŵp sy’n adeiladu ar yr wybodaeth a gawsoch ar y daith hon gan sicrhau ei bod yn cael ei defnyddio.]

Deilliodd nifer o gwestiynau o’r daith i Iwerddon. Bu’r holl aelodau’n cynnal gwahanol rannau o ymchwil ar ôl y daith ymweld gydag eitemau oedd o ddiddordeb iddynt. Roeddent yn cynnwys trafodaethau gyda holl fyrddau ardoll y DU, milfeddygon, Undebau Ffermio yn ogystal â gwefannau a gwahanol ffynonellau llenyddol. Yna daeth y grŵp ynghyd eto i gynnal dadansoddiad SWOT yn seiliedig ar yr hyn a welwyd ac a ddysgwyd. Yna anfonwyd hwn i Dunbia a chafwyd ymateb. Yn y Ffair Aeaf cafwyd cyfle i gyfarfod unwaith eto gyda Dunbia i drafod ein pryderon.

Cynhelir dau gyfarfod pellach ddechrau Ionawr lle bydd y gwaith yn parhau.

Mae holl aelodau’r grŵp a fu ar y daith astudio’n dal â diddordeb ac yn dal i gyfrannu at lywio’r cynllun. Rydym wedi cael golwg unigryw ar faint o waith sydd eu hangen a’r ystyriaethau angenrheidiol i ddatblygu prosiect cadwyn gyflenwi integredig. Mae’r holl aelodau wedi mwynhau cyfarfod a gweithio fel tîm ac maent wedi penderfynu parhau i gynnig syniadau, rhannu gwybodaeth a chefnogi ei gilydd, sy’n werth chweil, ac mae’n braf iawn gweld y genhedlaeth nesaf yn cydweithio i oresgyn yr heriau y mae amaethyddiaeth yng Nghymru’n eu hwynebu.

Roedd y daith astudio’n rhagorol, mae’r holl aelodau nid yn unig wedi dysgu am fagu lloi a beth sydd ei angen ar y math hwn o brosiect ond mae hefyd wedi bod yn fodd i ddod â ffermwyr ifanc o anian debyg at ei gilydd o bob cwr o Gymru. Dysgwyd dulliau meincnodi sylfaenol, sut i gyfrifo cost cynhyrchu ac yn ei dro mae hyn wedi eu galluogi i fod mewn sefyllfa i edrych ar eu systemau eu hunain gartref.