Taith Astudio Cyswllt Ffermio - The Udder Group

Mae'r adroddiad canlynol wedi ei ysgrifennu gan y ffermwyr a'r coedwigwyr a gymerodd ran yn yr ymweliadau. Eu barn hwy eu hunain yn unig sydd wedi'i gynnwys.

The Udder Group

Swydd Gaerloyw a Dorset

25ain - 26ain Medi 2017


Cefndir

Mae holl aelodau’r ‘Udder Group’ AHDB yn ffermwyr llaeth blaengar yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae’r grŵp yn cynnal taith flynyddol am 2 ddiwrnod y flwyddyn yn ymweld â ffermydd llaeth mewn rhannau eraill o’r wlad. Bydd y grŵp yn ymweld â ffermydd sy’n defnyddio systemau tebyg yn ogystal â ffermydd sy’n defnyddio system wahanol i edrych ar syniadau ac awgrymiadau i wella eu busnesau gartref. Fe wnaethom ganolbwyntio ar feysydd penodol ar bob fferm, ond cafwyd canlyniad gwahanol i’r disgwyl ar y trydydd ymweliad.

 

Rhaglen 

Keith Davis, Lydney Park Farm, Caerloyw.

Roedd Keith Davis yn rheoli’r uned yn rhan-amser i’r Is-iarll Bledisloe. Roedd yn fferm laeth 605 hectar glaswellt i gyd, yn cadw buches o 1,000 o wartheg yn lloea yn y gwanwyn, a bydd yn cynyddu i 1,200 y flwyddyn nesaf. Roeddent hefyd yn magu heffrod ar yr un fferm.

Unwaith y dydd yr oeddynt yn godro, ac roedd y grŵp yn holi pam. Atebodd Keith trwy nodi bod y parlwr cylchol 30 o leoedd yn gweithio’n dda, ond mae’n cymryd tua 6 awr i odro 1,000 o fuchod. Er mwyn godro 1,000 o fuchod ddwywaith y dydd byddai’n cymryd tua 12 awr, oni bai bod £750,000 yn cael ei fuddsoddi mewn parlwr newydd. Penderfynwyd felly y byddid yn godro unwaith y dydd a pheidio â buddsoddi mewn parlwr newydd. Rheswm arall dros odro unwaith y dydd oedd y pellter y byddai’n rhaid i’r buchod ei gerdded i gyrraedd y caeau pori pellaf.

Holodd y grŵp wedyn am reoli staff, eu hysgogi a’u cadw a thrafodwyd rheolaeth ar y fuches. Roedd y fuches yn cael ei chadw fel dwy fuches benodol ar wahân gyda hwsmon a staff penodol yn gyfrifol am y ddwy fuches. Roedd y fuches gyntaf yn cael ei godro am 6 y bore bob dydd ac yna'r ail fuches. Roedd y staff yn cynnwys pedwar o staff llawn amser gyda dau yn rhannu swydd. Roedd y staff yn cyflawni’r holl dasgau gyda’r stoc ond roedd yr holl waith tractor yn cael ei wneud gan gontractwyr, heblaw am wrteithio a phorthi’r da byw.

Ar reoli staff yr oedd prif bwyslais yr ymweliad. Roedd y rhan fwyaf o’r staff yn dod o gefndir nad oedd yn amaethyddol ac roeddent wedi eu recriwtio fel hyfforddeion a’u hyfforddi gan y staff oedd yno. Holodd y grŵp pam eu bod yn cyflogi staff o gefndir nad oedd yn amaethyddol. Esboniodd Kevin nad oedd ganddynt ragdybiaethau ac y gallant gael eu hyfforddi fel yr oedd Lydney Park yn dymuno.  Roedd prentisiaid yn cael cyflog oedd ymhell dros y lleiafswm cyflog a lwfans o £400 y mis tuag at rentu eiddo yn yr ardal.

Cynhelid cyfarfodydd staff bob dydd Llun ar ôl godro. Roedd gan y ddwy fuches yr un targedau a dangosyddion perfformiad allweddol ar sail ffrwythlondeb, cynhyrchu solidau llaeth a chynhyrchu/defnyddio glaswellt.

Roedd ganddynt agenda benodol ar gyfer pob cyfarfod:

  • Beth aeth yn dda'r wythnos ddiwethaf?
  • Beth oedd y problemau?
  • Syniadau sy’n arbed dwy eiliad: Mae pob aelod o’r staff yn cael cyfle i awgrymu un syniad a fyddai’n arbed amser ac ni ellir beirniadu’r syniad tan yr wythnos wedyn, pan fyddant wedi cael wythnos i feddwl amdano.
  • A ydym yn cyrraedd y dangosyddion perfformiad allweddol?

Ar ddiwedd y flwyddyn, rhoddir 10% o’r elw mewn cronfa a’i rannu rhwng y staff. Mae hyn yn eu hannog i gadw rheolaeth dynn ar gostau yn ystod y flwyddyn ac yn ysgogi’r staff i weithio fel tîm tuag at nod cyffredin.

Llwyddodd yr ymweliad o ran ei ddiben cychwynnol o weld dulliau gwahanol o reoli staff a’u cadw ar fferm laeth broffidiol.

 

Tom King, Church Farm, Dorchester.

Fferm laeth 397 hectar (202 hectar o laswellt, 162 hectar o India corn a’r gweddill yn wenith gaeaf) oedd hon, yn cadw 650 o wartheg ond yn bwriadu cynyddu maint y fuches i 700. Roedd y fferm yn magu stoc ifanc ar sail contract magu gyda’r buchod yn lloea a dan do trwy’r flwyddyn. Roedd y gwartheg yn cael eu godro 3 gwaith y dydd a’r llaeth yn cael ei werthu ar gontract i Sainsbury’s yn unig.

Roedd y staff yn cynnwys 11 aelod llawn amser o staff o Wlad Pwyl a’r Deyrnas Unedig, 1 aelod o staff hunangyflogedig a 2 aelod o’r teulu. Argraff gyntaf y grŵp oedd bod gormod o staff yn y busnes. Ond, dim ond 16 x 16 oedd y parlwr godro, felly roedd godro yn cymryd 18 awr y dydd. Roedd y rhan fwyaf o’r staff yn byw ar y safle mewn carafanau statig.

Mae’r fferm yma yn un o’r 5% uchaf o weithredwyr system dan do yn y wlad, gyda chyfartaledd o 13,000 litr o laeth yn cael ei werthu o bob buwch y flwyddyn. Roeddent yn defnyddio system ddogni syml iawn - un dogn i’r gwartheg godro ac un gwahanol i’r gwartheg sych. Er bod y buchod mewn 7 grŵp gwahanol, roedd eu porthi yn syml. Roedd symlrwydd a phrotocolau yn bwysig i’r busnes hwn.  

Gyda nifer fawr o staff, roedd rhannu gwaith a chyfrifoldeb yn bwysig. Roedd gan y fferm un aelod o staff yn gyfrifol am borthi, un arall yn gyfrifol am y lloeau ac ati, felly roedd y gweithwyr i gyd yn gwybod at bwy i droi am y maes gwaith hwnnw.

Roedd cyfathrebu a phrotocolau yn bwysig gyda defnydd mawr o fyrddau gwyn a phrotocolau ysgrifenedig. Roedd y sylw i fanylion ar lefel uchel iawn e.e. - yr holl golostrwm yn cael ei brofi o ran ei ansawdd, yna ei rewi os yn ddigon da. Roedd y lloeau i gyd yn cael 3 litr o golostrwm cyn pen dwy awr ar ôl eu geni a hefyd yn cael prawf gwaed i sicrhau eu bod wedi cael digon o golostrwm.  Roedd pob tasg yn cael ei chofnodi a llofnod ar ei chyfer i sicrhau cyfrifoldeb. Roeddent wedi ystyried defnyddio TG neu iPad, ond teimlent nad oedd yr amodau gwaith yn rhai addas iawn ar gyfer technoleg, felly roedd yn cael ei gadw yn ysgrifenedig.

Defnyddiai’r fferm raglen rheoli gwartheg sych oedd yn cynnwys gwrthfiotig a seliwr tethi ac yna trimio traed. Roedd y buchod yn unffurf iawn o ran math, ac felly nid oedd cyflwr corff yn broblem, a’r nod oedd sychu’r buchod ar y sgôr cyflwr corff cywir a chynnal y cyflwr yn hytrach na gwella eu cyflwr.

Un o brif amcanion yr ymweliad oedd gweld a thrafod rheolaeth staff, gan gynnwys cyfathrebu a defnyddio protocolau gyda nifer fawr o staff. Daethom oddi yno i gyd gyda syniadau y gellid eu defnyddio ar ein ffermydd gartref.

 

Mike Tizzard, North Wootton Farm, Dorset.

Roedd Mike yn rhedeg busnes llaeth ar sawl safle, gan weithredu ar 7 safle ar draws y sir, ac mae nifer y safleoedd yn cynyddu i 8 y flwyddyn nesaf. Roedd yr holl fuchesi yn organig gyda chyfanswm o 2,600 o fuchod yn cael eu godro, gan gynyddu i 3,200 y flwyddyn nesaf trwy ychwanegu’r safle newydd. Roedd y busnes yn ffermio 2,430 hectar oedd yn cynnwys ardal fawr o gnydau grawn organig a hadau olew. Roedd y rhain naill ai yn cael eu porthi i’r da byw neu eu gwerthu i’r farchnad organig.

Cymysgedd o dir rhent, tir oedd yn berchen i’r busnes a mentrau ar y cyd oedd yr unedau. Defnyddir system loea mewn blociau ar yr unedau i gyd, naill ai yn y gwanwyn neu’r hydref, gyda’r holl fuchesi yn pori mewn padogau. Gan eu bod yn organig, defnyddid maetholion calch a slyri i gael y pH cywir.  Roedd gan yr unedau i gyd systemau syml iawn ar sail glaswellt.

Roedd gan bob uned reolwr oedd yn gyfrifol am redeg y da byw a glaswellt o ddydd i ddydd. Roedd un unigolyn yn gyfrifol am borthi’r unedau h.y. defnyddio un wagen borthi gan deithio o un safle i’r llall. Roedd y rheolwr yn cael ei gyflogi ar gontract 365 diwrnod a’i dalu ar sail y ceiniogau am bob litr a gyrhaeddwyd. Y rheolwr hefyd oedd yn gyfrifol am yr holl gostau llafur a byddid yn cyflogi contractwyr ar gyfer y silwair/chwalu slyri ac unrhyw waith ar y caeau.

Roedd Mike, y perchennog, yn cael ei yrru gan elw a ffordd o fyw i raddau helaeth iawn. Y flwyddyn ddiwethaf dechreuodd ef a’i wraig gymryd Chwefror i gyd i fynd i deithio. Roedd hefyd yn cyflogi rheolwr busnes oedd yn rhedeg y swyddfa ac yn ymdrin â’r gwaith papur a chasglu data ar gyfer pob uned. Cymherir y data a gesglir o bob uned a byddent yn herio pob uned gyda dangosyddion perfformiad allweddol yn cael eu gosod ar ddechrau pob tymor. Cynhelid cyfarfodydd staff cyson gydag agendâu penodol. 

 

Camau Nesaf

Rhan bwysig o’r ymweliad oedd symud y perchenogion oddi wth y busnes i ryngweithio gyda’r aelodau a rhannu eu profiadau.  Dysgwyd llawer o bwyntiau gweithredu o’r ymweliad, yn bennaf yn ymwneud â systemau a rheolaeth staff. Er ein bod wedi gweld 3 fferm wahanol roedd un neges glir, sef ‘mae gennym system syml’. Roedd cael system gyda dangosyddion perfformiad allweddol clir y mae’r tîm i gyd yn ymwybodol ohonynt a sicrhau bod y dangosyddion yn cael eu monitro a bod gweithredu os nad ydynt yn cyflawni’r targedau yn bwysig iawn. Mae cael y tîm cyfan yn rhan o’r gwaith gyda chyfarfodydd tîm cyson ac agenda bendant hefyd yn bwysig. Roedd dau o’r busnesau yn dewis rhoi rhan o’r elw i’r staff neu ryw gyfran neu gymhelliant ariannol. Roedd hyn yn annog y staff i brynu i mewn i’r busnes a chreu ymdeimlad o berchenogaeth. O ran protocolau, mae cael protocolau ysgrifenedig a chyfathrebu syml yn holl bwysig. Fe welsom ddulliau gwahanol o gyfathrebu gan gynnwys byrddau gwyn a defnyddio rhaglenni fel ‘Whatsapp’.