Tanygraig Diweddariad ar y prosiect – Ebrill 2024
Defnyddiwyd monitor Ritchie Beef i bwyso’r anifeiliaid yng ngrŵp 1 tra bod grŵp 2 yn cael ei bwyso bob tair wythnos drwy’r glorian yn y craets. Wrth eu troi allan, cyfunwyd y ddau grŵp a chaiff y monitor ei symud yn barhaus gyda'r anifeiliaid gan ddefnyddio tractor. Cyflenwyd pŵer gan banel solar Richie ac roedd dŵr ar gael ar gyfer y peiriant ym mhob cae.
Beth nesaf?
Yn y cyfnod dan do yn ystod gaeaf 2024, caiff grŵp 2 ei fwydo â silwair meillion coch. Caiff hwn ei gynhyrchu ar y fferm a'i osod mewn clamp ar wahân i'r silwair glaswellt arall. Caiff enillion pwysau byw dyddiol y gwartheg eu monitro a dylid cyrraedd targed o rhwng 1 ac 1.4 kg y dydd.
Bydd Grŵp 1 yn parhau i gael ei reoli fel y gwneir ar hyn o bryd a bydd y grŵp yn cael ei fwydo â silwair glaswellt (ad lib) a hyd at 3kg y dydd o’r cyfuniad CP 14% o fis Hydref i fis Rhagfyr 2024. Caiff hyn ei gynyddu i hyd at 5kg y dydd o fis Ionawr hyd at besgi yn y gwanwyn.