Proffil ffermwr profiadol: Peter Storrow

Enw: Peter a Jackie Storrow

Enw a lleoliad y fferm: Rogeston Farm, Portfield Gate, Hwlffordd

Sector: Fel lluosydd ar gyfer Cwmni Gwartheg Stabiliser, rydym yn cynhyrchu stoc bridio o’n buches sugno sy’n cynnwys 120 o wartheg Stabiliser.

Ochr yn ochr â hyn, mae’r fenter âr yn ein galluogi i dyfu cnydau porthiant a chnydau gorchudd ar gyfer porthiant dros y gaeaf, gan roi cyfnod gorffwys o 120 diwrnod i’r gwyndonnydd. Y nod yw cynhyrchu digon o borthiant gaeaf i’r gwartheg aros allan yn ystod misoedd y gaeaf.

Cyfradd stocio (gwartheg/ha neu kgLW/ha): 2000 kg/ha ar gyfartaledd

Prif fath o bridd: Lôm canolig i ysgafn

Ffrwythlondeb y pridd:

Ffosffad a photasiwm (P a K) yn 2+ yn bennaf.

Dos blynyddol o galch wedi’i brilio.

Fibrophos (gwrtaith sy’n cynnwys cyfoeth o ffosffad a photash) yw’r prif gwrtaith ffosffad a photasiwm a ddefnyddir. 

Cyfraddau gwasgaru nitrogen ar hyn o bryd - a oes gennych gynlluniau i leihau hyn, a sut?

92Kg N/ha.

Caiff gwrtaith MZ28 ei ddefnyddio eleni er mwyn bwydo’r cnydau trwy’r dail, ynghyd â ffynhonnell garbon a syllffwr hylif, gan nad oes nitrogen artiffisial wedi cael ei brynu.  

Dylai bwydo nitrogen i gnydau trwy’r dail alluogi’r meillion i sefydlogi nitrogen yn fwy effeithlon.  

Prif fath o borfa (yr ardal sy’n cael ei mesur):

1/3 gwndwn tymor hir

1/3 gwndwn 3 blynedd

1/3 gwndwn llysieuol 3 blynedd

Tunelli o ddeunydd sych (tDM)/ha a dyfwyd yn 2021: Tua 8.5t/ha, ond mae’n anodd ei fesur oherwydd y fenter âr a’r cnydau porthiant. 

Y nifer o gylchoedd pori a gyflawnwyd fesul padog/y flwyddyn: Cyfartaledd o 7, ac mae silwair yn cael ei gymryd o badogau yn ystod y tymor tyfu.

Sut ydych chi wedi rhannu’r fferm? Nifer a maint y padogau?

Caiff grwpiau eu symud yn ddyddiol gan amlaf, felly mae maint y padogau’n cael ei bennu gan y niferoedd o fewn y grŵp a’r galw dyddiol.

Rhennir caeau mwy yn rhesi lled-barhaol, sydd yna’n cael eu hisrannu ar gyfer pob symudiad.

Oes gennych chi ddiwrnod penodol o’r wythnos pan fyddwch chi’n cerdded o amgylch y cylch pori ac yn mesur tyfiant y borfa? Dydd Llun

Pam ydych chi’n meddwl bod mesur glaswellt yn hanfodol i’ch rheolaeth? Mae cofnodi mesuriadau ar Agrinet bob pythefnos yn ein galluogi i gyllidebu ar gyfer y dyddiau/wythnosau nesaf sydd i ddod, a rheoli’r porfeydd yn fwy effeithlon, sydd wedyn yn caniatáu i ni wneud penderfyniadau mwy cywir ar amlder symudiadau’r anifeiliaid, a’r defnydd mwyaf effeithlon o wrtaith. 

Pa egwyddorion rheoli pori ydych chi’n cadw atynt? Sicrhau ansawdd ar bob cyfrif, hyd yn oed os yw hyn yn golygu torri glaswellt ymlaen llaw yn achlysurol yn ystod y tymor.

Caiff yr holl stoc eu tynnu i ffwrdd erbyn dechrau mis Tachwedd i ganiatáu tua 12 diwrnod o orffwys.

Sut ydych chi’n delio ag amodau tywydd eithafol, megis sychder neu amodau pori gwlyb? Yn ystod amodau sychder, mae’n anodd. Fodd bynnag, dylai’r ychwanegiad o berlysiau, fel ysgellog a llyriad, ynghyd â meillion coch a gwyn helpu eleni.

Mae un cae gyda gwndwn amlrywogaeth mwy amrywiol yn cael ei dreialu gyda senario pori grŵp, i’n galluogi i fonitro’r twf posib heb fod angen nitrogen, gobeithio.

Cynorthwyir amodau pori gwlyb gan symudiadau dyddiol, a chynyddwn hyn i symudiadau 12 awr os oes angen.