Meistr ar Briddoedd - Amserlen y gweithdy

Diwrnod Cyntaf - Chris Duller

 

Nodau ac amcanion y diwrnod:

  • Deall mathau a strwythur y pridd
  • Deall ffrwythlondeb y pridd

10yb -10:30yb – Cyflwyniad i’r cwrs a threfniadau gweinyddol – Simon Pitt

Cwblhau ffurflenni, amserlen ayb

 

10:30yb – 12:15yp - Strwythur y pridd / pridd mewn perthynas â maeth planhigion

Cwmpas:- Mathau o bridd a gwahaniaethau allweddol – deunydd organig, gallu i ddal dŵr, strwythur y pridd pH – gofynion calch, cemeg prif faetholion P a K, isadeiledd fferm i weddu i wahanol fathau o bridd.

Gweithgaredd: - Mathau o bridd, draeniad pridd a chywasgiad, profi pH.
 

12:15yp – 12:45yp – Cinio

 

12:45yp – 15:00yp - Egwyddorion gwrteithio gan ddefnyddio nitrogen, ffosffad a photash

Cwmpas:- Cylchred nitrogen, trwytholchi nitradau, mynegai a thargedau potash a ffosffad, cynnyrch cnydau ac ymatebion (tir glas o’i amgylch fel arfer)

Rhyngweithiad anifeiliaid gyda’r maetholion hyn

 

15:00yp – 16:00yp – Maetholion Eilaidd

Cwmpas:- Magnesiwm, calsiwm, sylffwr, sodiwm. Rhyngweithiad anifeiliaid gyda’r maetholion hyn.

Gweithgaredd : Profi pridd, mathau o wrtaith

 

16:00yp – 16:15yp – Amser coffi

 

16:15yp - 17:00yp – Tail organig

Cwmpas:-mathau, gwerthoedd. Ffynonellau tail organig – Gweddillion treuliad anaerobig

Ymweliad posibl gyda’r nos – fferm sydd wedi ail-hau yn yr hydref/isadeiledd draenio/mynediad i’r caeau.
 


Ail Ddiwrnod - Chris Duller

 

Nodau ac amcanion ar gyfer yr ail ddiwrnod

  • Defnydd ymarferol ar gyfer gwrtaith
  • Gofynion maeth y cnwd – glaswelltir, cnwd cyfan, india corn

9yb – 9:15yb - Atgoffa o’r diwrnod blaenorol

 

9:15yb – 10:30yb – Mentrau amgylcheddol mewn Amaethyddiaeth

Cwmpas:- Tail organig fel prif broblemau llygredd. Gofynion traws-gydymffurfio, Cod ymarfer da ar gyfer amaethyddiaeth

 

10:30yb – 10:45yb – Amser coffi

 

10:45yb - 12:15yp - Gofynion maeth cnydau

Cwmpas:- Glaswelltir – pori/silwair. Swyddogaeth y planhigyn, diffygion - diagnosis. Swyddogaeth maetholion o fewn anifeiliaid a gofynion anifeiliaid.

Effeithio cromliniau twf er mwyn gwneud y defnydd gorau ar gyfer systemau pori/silwair.

 

12:15yp - 13:00yp – Bwyty’r coleg neu ginio bwffe

 

13:00yp – 14:00yp - Deall cynlluniau rheoli maetholion – sut i ddefnyddio’r RB209

Cwmpas:- Cynllun gwrtaith fferm sylfaenol. Rheoli mynegeion  uchel neu isel ar ffermydd

Gweithgaredd Posibl:- Cynllun gwrteithio ar gyfer y fferm ei hun.

 

14:45yp - 15:00yp – Amser coffi

 

15:00yp – 16:00yp – Diogelwch a storio gwrtaith

  • Sut mae gwrtaith yn cael ei storio yn Llysfasi
  • COSHH a materion iechyd a diogelwch

16:00yp – 16:15yp - Crynodeb a Chloi

 

16:30yp – Diwedd y cyfarfod