Tocio yn y winllan - White Castle

Dr Delana Davies, Swyddog Technegol Âr a Garddwriaeth

Mae’n rhaid tocio gwinwydd bob blwyddyn yn ystod y gaeaf.  Dyma’r gwaith pwysicaf fydd yn cael ei gwblhau yn ystod blwyddyn y winllan gan fod y ffordd y mae’r winwydden yn cael ei thocio yn dylanwadu’n fawr ar y canlynol:

  • Nerth y llystyfiant sy’n cael ei gynhyrchu yn ystod yr haf canlynol
  • Lefelau cynhyrchiant posib y cnwd
  • Lefelau posib o aeddfedrwydd y gellid ei gyflawni yn y grawnwin
  • Maint y pwysau oddi wrth glefydau ffwngaidd yn ystod tymor yr haf
  • Costau cynhyrchu grawnwin
  • Perygl o golli cnwd trwy ddifrod rhew yn y gwanwyn
  • Hyd oes cynhyrchiant gwinwydd

Mae’r gwinwydd ar y chwith wedi cael ei docio ar hap, ac mae rhan fawr ohono wedi ffurfio meinwe wedi gwywo ar yr ochr chwith. Gan fod y meinwe wedi gwywo, nid yw’r sudd yn medru llifo drwy’r rhan hon bellach. Mae’r gwinwydd ar y dde wedi cael ei docio gan ddefnyddio toriadau bychan sydd yn cael eu cyfyngu i frigau ifanc. Mae’r dull hwn o docio yn cynnal llif didor o sudd o’r gwreiddiau, i fyny’r boncyff ac i’r dail.

Mae dail y gwinwydd fel paneli solar. Maen nhw’n amsugno heulwen ac yn ei droi’n garbohydrad. Yna, mae’r gwinwydd yn dosbarthu’r carbohydrad y tu fewn iddo, ac yn ei ddosrannu i’w wahanol organnau fel y boncyff, gwreiddiau, blagur a grawnwin.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y Daflen Wybodaeth yma.