Ty Coch Diweddariad ar y prosiect – Gorffennaf 2024
Casglwyd data o 80 o wahanol ŵyn a anwyd rhwng 28 Chwefror a 8 Mawrth 2024. Roedd hyn yn cynnwys pwysau geni, maint y dorraid, llenwad stumog a ffactorau yn ymwneud â’r mamogiaid, gan gynnwys cyflwr y corff, cyflenwad llaeth a rhwyddineb godro.
Casglwyd sampl gwaed o bob oen rhwng 24 a 48 awr ar ôl geni gan filfeddyg y fferm a gafodd wedyn ei throelli i lawr, a phrofwyd y serwm am gyfanswm lefelau protein fel mesur anuniongyrchol o lefelau gwrthgyrff (Ig) yn y gwaed. Profwyd y gwaed gan ddefnyddio dau ddull reffractomedr - reffractomedrau Cyfanswm Protein a Brix. Yn anffodus, oherwydd problemau prosesu, ni chafodd 5 sampl gwaed eu rhedeg gan ddefnyddio reffractomedr Brix ac felly mae 75 o ganlyniadau ar gael i'w dadansoddi, Ffigur 1. Cafodd ŵyn eu marcio â thagiau rheoli â rhifau unigol er mwyn gallu cofnodi data’n gywir.
Ffigur 1: Darlleniadau reffractomedr Brix o 75 o samplau serwm ŵyn wedi'u graddio o'r isaf i’r uchaf
Cymerwyd toriadau ar gyfer methiant trosglwyddiad goddefol fel 8%, yn seiliedig ar ffigurau gan Hamer et al., 2023 Passive Transfer on Brix Scale, gyda 8-9% yn y canol a >9% yn lefel dda.
Gan ddefnyddio’r lefelau hyn, roedd gan 13.3% o ŵyn fethiant amlwg o ran trosglwyddiad goddefol ac felly ni chawsant ddigon o golostrwm, ac roedd 21.3% arall yn ymylol.
Roedd ŵyn yn cael eu pwyso yn 8 wythnos oed, a oedd yn galluogi cyfrifo enillion pwysau byw dyddiol (DLWG) hyd at y pwynt hwn.
Mae’r canfyddiadau hyd yma wedi’u crynhoi yn Nhabl 1.
Tabl 1: Crynodeb o'r canlyniadau a fesurwyd mewn perthynas â statws trosglwyddiad goddefol
Trosglwyddiad Goddefol
| Nifer yr Ŵyn
| % Ŵyn: | Enillion Pwysau Bwy Dyddiol Genedigaeth 8 wythnos (kg) | Genedigaethau Marwolaethau 8 wythnos | % Genedigaethau Marwolaethau 8 wythnos | Marwolaethau 8 wythnos + | % Marwolaethau 8 wythnos + |
Methiant | 10 | 13.3 | 0.22 | 2 | 20 | 2 | 20 |
Canolig | 16 | 21.3 | 0.21 | 1 | 6.25 | 1 | 6.25 |
Da | 49 | 65.3 | 0.26 | 2 | 4.08 | 0 | 0 |
At ei gilydd, mae 10.5% o ŵyn y prosiect wedi marw hyd yma, ond mae’r risg o farw yn ymddangos yn llawer uwch ar gyfer ŵyn a oedd â chymeriant colostrwm annigonol. Mae'n ymddangos bod yr effaith hon yn para y tu hwnt i wythnosau cyntaf bywyd.
Ymddengys mai effaith gyfyngedig sydd gan statws trosglwyddiad goddefol hyd at 8 wythnos oed ar Enillion Pwysau Byw Dyddiol, er y bydd dadansoddiad ystadegol yn caniatáu meintioli'r effaith hon. Bydd ffigurau pellach o Enillion Pwysau Byw Dyddiol hyd at besgi yn cael eu cyfrifo wrth i ŵyn gael eu gwerthu ac wrth i bwysau pesgi a dyddiadau ddod ar gael. Mae tri oen wedi cael eu gwerthu hyd yma ar bwysau byw rhwng 42 a 44kg.
Cyfeiriadau
Hamer, K. et al. (2023) ‘Defining optimal thresholds for digital Brix refractometry to determine IgG concentration in ewe colostrum and lamb serum in Scottish lowland sheep flocks’, Preventive Veterinary Medicine, 218, p. 105988. Ar gael ar: