Tyddyn Cae Diweddariad ar y Prosiect – Tachwedd 2023

Prosiect 1: Symleiddio'r drefn odro am fwy o effeithlonrwydd a therapi dethol i fuchod sych

Cynhaliwyd ymweliad cynhwysfawr ar iechyd y pwrs/gadair gan Tom Greenham o Advance Milking Consultancy ar 14 Tachwedd 2023, ac isod mae crynodeb o'r pwyntiau o'r ymweliad: 

Dadansoddiad SWOT: Gwendidau 
1. Diffyg data ar fastitis/Cyfrif Celloedd Somatig (SCC)
 a. Dim 'system rhybudd cynnar'
 b. Dim cyfle am Therapi Dethol i Fuchod Sych (SDCT)

2. Diffyg ymwrthedd gan wartheg i her facteriol
a. Mae hyperkeratosis ac oedema yn cynyddu’r risg o haint.

3. Rheolaeth o slyri yn brin
a. Mae diffyg defnydd o grafwr yn aml yn achos uniongyrchol o ddiffyg glendid buwch

4. Lefel y staff godro yn ystod y cyfnod pori
a. Mae neilltuo dim ond un aelod o staff i odro yn ystod yr haf yn ei gwneud hi’n fwy heriol i gyflawni trefn sy’n cynnal faint o laeth a gaiff ei ollwng gan y fuwch a hylendid.

Dadansoddiad SWOT: Cyfleoedd
1. Dechreuwch therapi dethol i fuchod sych cyn iddo ddod yn orfodol
a. Dylech leihau’r defnydd o wrthfiotigau a gwella’r rheolaeth o iechyd y pwrs/gadair

2. Dylech gadw golwg am unrhyw broblemau yn ymwneud ag iechyd y pwrs / gadair
a. Mae monitro mastitis a thueddiadau cyfrif celloedd yn caniatáu i chi ddod o hyd i broblemau yn gynt

3. Dylech wella ymwrthedd naturiol buchod i haint y pwrs / gadair. 
a. Dylech wneud y mwyaf o’r peiriant a’r drefn odro er mwyn lleihau achosion o hyperkeratosis ac oedema.

4. Cynyddwch hylendid buchod ac amseroedd gorwedd trwy wneud eich sied dros y gaeaf da hyd yn oed yn well
a. Dylech wella’ch rheolaeth o slyri mewn tramwyfeydd a defnyddio mwy o ddeunydd gorwedd i wella cysur ciwbicl.