Tyddyn Cae Diweddariad ar y prosiect – Terfynol
Prif ganlyniadau:
- Mae halogiad deunydd gorwedd a’r traed/coesau wedi lleihau yn ystod y cyfnod dan do yn dilyn newidiadau i’r arferion crafu slyri
- O’i gymharu â thymor 2022-23, gwelwyd lleihad o 22,000 cell/ml yn y cyfrif celloedd somatig cymedrig i 198,000 cell/ml yn ystod y cyfnod pan oedd y gwartheg dan do ar gyfer tymor 2023-24 yn dilyn newidiadau i’r arferion rheoli amgylcheddol
- Mae’r cyfrif celloedd somatig yn ystod y tymor pori/diwedd y cyfnod llaetha’n parhau i fod yn debyg i berfformiad cyn y newidiadau ac maent yn uwch na’r disgwyl, gan ddangos potensial ar gyfer gwelliant pellach
- Mae heintiau ar ddiwedd y cyfnod llaetha’n debygol o fod yn gysylltiedig â phroblemau iechyd y tethi, a byddent yn ymateb i’r pwyntiau gweithredu peiriant godro a rannwyd gyda’r fferm.
- Manteision posibl o ran costau:
- Pe byddai’r gostyngiad yn y cyfrif celloedd somatig wedi symud y fferm i’r band taliadau uwch ar gyfer cyfrif celloedd somatig, byddai premiwm o 0.25c/litr wedi ychwanegu £66,300 at gyfanswm gwerthiant llaeth ar gyfer y flwyddyn.
- Wrth i’r cyfrif celloedd somatig gynyddu, mae cynnyrch llaeth yn debygol o ostwng (AHDB). O’i gymharu â’r llinell sylfaen o 224,000 cell/ml gallwn amcangyfrif y cynnydd posibl mewn cynnyrch ar gyfer y ddau gyfnod yn dilyn yr ymyriadau:
- Hydref 23 – Ionawr 24: +12,312 litr (ar gyfer 380 o wartheg dros 120 diwrnod) x 50c/litr= £6,156
- Hydref 24 – Ionawr 25: +15,276 litr ((ar gyfer 380 o wartheg dros 120 diwrnod) x 50c/litr= £7,638
Cefndir:
Fel uned sy’n lloia mewn bloc yn yr Hydref, bydd fferm Tyddyn Cae bob amser yn agored i gynnydd mewn cyfrif celloedd somatig yn ystod y tymor godro wrth i gynnyrch llaeth ostwng. Fodd bynnag, yn y gorffennol, mae’r fuches hefyd wedi gweld cynnydd mewn cyfrif celloedd somatig ar ddechrau’r tymor (Hydref-Ionawr) sy’n cyd-fynd â chyfuniad o her facteriol o’r amgylchedd dan do a chynnydd mewn ffactorau eraill o ganlyniad i gynnyrch brig a gweithgarwch gofyn tarw. Roedd Tyddyn Cae yn dymuno canolbwyntio ar iechyd y gadair a’r broses odro, i asesu’r cyfleoedd i wneud arbedion effeithlonrwydd, ynghyd â gostyngiad posibl yn y defnydd o wrthfiotigau.
Gan weithio gyda Tom Greenham o Advance Milking, nodwyd meysydd risg ar gyfer heintiau ar y pwrs, a thrafodwyd atebion posibl er mwyn lliniaru’r risgiau hyn. Cafodd atebion eu hystyried o fewn fframwaith reoli darbodus. Datblygwyd cynllun gweithredu drwy drafodaeth ar y cyd gyda thîm y fferm. Cafodd cynnydd ei fonitro gan ddefnyddio mesurau arwain ac oedi ar fetrigau goddrychol a gwrthrychol.
Diben y gwaith:
- Gwerthuso iechyd y pwrs a’r arferion godro presennol ar draws y tîm a nodi meysydd i’w gwella a defnyddio arferion rheolaeth ddarbodus
- Asesu a gwella metrigau effeithlonrwydd godro ar y fferm ac ar draws y tîm cyfan yn fanwl
- Gostwng cyfrif celloedd somatig ac achosion o fastitis clinigol ar y fferm
Yr hyn a wnaed:
- Fe wnaeth ymweliad undydd cychwynnol i archwilio meysydd risg iechyd y pwrs amlygu’r canlynol:
- Roedd patrymau cyfrif celloedd yn y tanc llaeth a’r patrymau mastitis a adroddwyd yn awgrymu mai’r prif ffactor risg o ran haint oedd heriau amgylcheddol ynghyd â ffactorau gwartheg wrth ofyn tarw.
- Roedd slyri’n casglu ar hyd y llwybrau o ganlyniad i beidio â chrafu slyri’n ddigon aml, gan arwain at ddiffyg glendid ar y traed/coesau (Ffigur 1)
Ffigur 1: Diffyg amlder y peiriant crafu awtomatig yn galluogi slyri i gronni ar hyd y llwybrau yn y sied
- Roedd halogiad traed/coesau’n cynyddu’r her facteriol i’r tethi.
Nid oedd y gwaith paratoi tethi cyn godro’n cynnwys diheintio, felly roedd hyn yn ddibynnol ar lefelau bacteria isel.
1. Roedd sychu’r tethi’n sych yn gadael rhai o’r tethi’n fudr wrth gysylltu’r uned odro.
2. Roedd rhannu tyweli papur yn cynyddu’r risg o drosglwyddo bacteria o un fuwch i’r llall. - Roedd hyperceratosis ar flaen y tethi (Ffigur 2) yn ei gwneud yn anoddach i’w glanhau gan wneud haint yn fwy tebygol, a chafodd y cyflwr ei ganfod ar fwy o wartheg na’r targed, sef llai na 10% o’r fuches ar ddechrau’r cyfnod llaetha, a llai nag 20% ar ddiwedd y tymor.
Ffigur 2: Hyperceratotis ar flaen y tethi
- Roedd gorlawnder tethi (Ffigur 3) yn broblem sylweddol o ran cysur y fuwch a’i gallu i wrthsefyll haint.
Ffigur 3: Gwelwyd gorlawnder a chwydd yn y tethi’n aml, gan gynyddu’r risg o fastitis
- Roedd gor-odro (Ffigur 3) yn broblem sylweddol, gan gynyddu’r risg o hyperceratosis a gorlawnder.
Ffigur 4: Llif llaeth deuwedd (biphasic) yn amlygu gor-odro am gyfnodau hir
- Nid oedd y leinin o faint addas ar gyfer gwartheg gyda thethi llai, gan gynyddu’r risg o edema a gorlawnder.
- Cafwyd nifer o achosion o ymollwng llaeth mewn llif deuwedd, o ganlyniad i gysylltu’r clystyrau i gyfeiriad i’r gwrthwyneb i sychu’r tethi. Mae hyn yn cynyddu’r risg ar gyfer hyperceratosis ar flaen y tethi a gorlawnder.
Ceir atebion i bob un o’r problemau a nodwyd yn ystod yr ymweliad. Mae costau rhai o’r atebion yn gymharol isel o ran buddsoddiad cyfalaf, mewnbwn ariannol parhaus a llafur. Mae eraill yn fwy costus o safbwynt un neu fwy o’r meysydd hyn. Cafodd y rhain eu hadrodd yn ôl i Ifan a’r tîm mewn sesiwn dwy awr o hyd ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth i’r tîm, trafod casgliadau, a chynllunio camau gweithredu.
Camau gweithredu a gytunwyd
- Dechrau cofnodi llaeth gwartheg unigol ym mis Ionawr 2024
- Cynnal archwiliad o’r organebau sy’n achosi mastitis
- Cynyddu amlder crafu slyri i unwaith bob awr
- Chwistrellu-sychu-cysylltu yn y drefn honno ar bob amser godro
- Addasu’r drefn odro i roi oediad o 90 eiliad rhwng sychu a chysylltu
Camau gweithredu posibl at y dyfodol
- Cynyddu’r gyfradd llif sy’n sbarduno’r clwstwr i gael ei dynnu’n awtomatig erbyn 200ml/mun.
- Treialu’r Leinin Fullwood FL21- bydd hwn yn ffitio i’r gragen bresennol, ond efallai y bydd y ffit yn fwy addas i’r gwartheg gyda thethi llai.
Canlyniadau
Nod yr ymyriadau a gyflwynwyd gan y tîm ar fferm Tyddyn Cae oedd lleihau’r her amgylcheddol (crafu’r llwybrau’n amlach) a lliniaru’r her hon (addasu’r drefn ar gyfer paratoi tethi cyn godro yn ystod y cyfnod risg uchel). Fe wnaeth y gwaith monitro data iechyd cadeiriau yn dilyn addasu’r pwyntiau gweithredu uchod amlygu’r canlynol:
- Mae halogiad deunydd gorwedd a’r traed/coesau wedi lleihau yn ystod y cyfnod dan do yn dilyn newidiadau i’r arferion crafu carthion: “Mae’r gwellt yn aros yn lanach felly mae llai o faw ar eu cadeiriau,” meddai Ifan.
- O’i gymharu â thymor 2022-23, gwelwyd lleihad yn y cyfrif celloedd somatig cymedrig o 22,000 cell/ml i 198,000 cell/ml yn ystod y cyfnod pan oedd y gwartheg dan do ar gyfer tymor 2023-24. Mae hyn yn awgrymu ymateb cadarnhaol i’r newidiadau o ran rheoli’r amgylchedd.
- Mae’r cyfrif celloedd somatig yn ystod y tymor pori/diwedd y cyfnod llaetha’n parhau i fod yn debyg i berfformiad cyn y newidiadau ac maent yn uwch na’r disgwyl, gan ddangos potensial ar gyfer gwelliant pellach.
- Mae heintiau ar ddiwedd y cyfnod llaetha’n debygol o fod yn gysylltiedig â phroblemau iechyd y tethi, a byddent yn ymateb i’r pwyntiau gweithredu peiriant godro a rannwyd gyda’r fferm.
- Roedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno’r strategaethau hyn (gan ddilyn ymweliad Advance Milking ym mis Tachwedd 2023) yn gysylltiedig â chyfnodau gyda chyfrif celloedd somatig a Bactoscan is, fel y gwelir yn Nhabl 1.
Tabl 1: Canlyniadau Cyfrif Celloedd Somatig a Bactoscan Tyddyn Cae yn ystod cyfnod mwyaf bregus y fuches sy’n lloia yn yr hydref o ran problemau
Adborth y ffermwr:
"Rydw i a’r tîm wedi elwa’n fawr o gael Tom ar y fferm i edrych ar ein system laeth. Mae’n fuddiol iawn cael pâr o lygaid ychwanegol i edrych ar eich system o’r tu allan gan eu bod yn gallu cynnig syniadau ac argymhellion newydd ar gyfer newidiadau bach yn yr arferion godro i gyflymu’r system a gwella lles y gwartheg."
Cysylltwch â timtechnegolcff@menterabusnes.co.uk os hoffech dderbyn copi o’r adroddiad llawn ar gyfer y prosiect hwn.