Tyfu blodau haul gydag india-corn fel cnwd cyfatebol – Diweddariad Terfynol

Prif ganlyniadau

  • Trwy dyfu blodau haul gyda’r cnwd india-corn, cynyddodd lefel Protein Crai cyffredinol y silwair o 9.5% i 11.5%, ond roedd hyn hefyd yn gysylltiedig â dirywiad yn y lefel Egni Metaboladwy (ME) o 11.0 i 9.53ME  
  • Trwy gynnwys rhygwellt Westerwolds wedi’i gynaeafu’n ffres yn y dogn, gwelwyd lleihad yng nghyfanswm y protein ategol angenrheidiol gan arwain at arbediad dyddiol o £130 o ran costau porthiant
  • Gwelwyd cynnydd o 2 litr/y fuwch/y ddiwrnod mewn cynnyrch llaeth wrth gynnwys Westerwolds, gan gynhyrchu 420 litr/dydd yn ychwanegol, gwerth £189

Cefndir

Mae’r teulu Griffiths ar fferm Tafarn y Bugail ger Aberteifi yn cynhyrchu llaeth o 500 o wartheg Holstein pur, gan dyfu’r rhan fwyaf o’r porthiant sy’n mynd i’r Dogn Cymysg Cyflawn (TMR). Mae india-corn yn cael ei hau ar ardal o 67ha (165 erw) sy’n helpu i fodloni gofynion egni a phorthiant y fuches, ond roeddent yn awyddus i ddarganfod ffyrdd o ddisodli rhywfaint o’r protein gofynnol a brynir i mewn i gydbwyso gyda chynnwys protein isel y silwair india-corn.

Bu’r prosiect yn archwilio hyfywedd tyfu blodau haul ochr yn ochr ag india-corn fel cnwd cyfatebol. Mae blodau haul yn cynnwys mwy o brotein nag india-corn, gyda photensial i leihau’r angen am ffynonellau protein drud a brynir i mewn megis soia. Yn yr Almaen, mae cymaint â 7% o’r cnwd india-corn yn cael ei dyfu gyda blodau haul.

Yn ogystal, cafodd y gymysgedd rhygwellt Westerwolds ei hau’n uniongyrchol ar ôl cynaeafu’r india-corn i leihau erydiad y pridd dros gyfnod y gaeaf ac i ddarparu ffynhonnell bosibl o borthiant gwyrdd uchel mewn gwerth D ar ddiwedd y gaeaf.

Mae’r camau hyn yn cynyddu cynaliadwyedd tyfu india-corn drwy gydbwyso ei gynnwys uchel mewn egni/isel mewn protein, gan hefyd sicrhau nad oes unrhyw bridd moel yn weddill dros y gaeaf lle gall cyfnodau o law trwm olchi priddoedd oddi ar y caeau.

Diben y gwaith

  • Archwilio potensial tyfu blodau haul yng ngorllewin Cymru mewn amodau hinsoddol tebyg i’r amodau yn yr Almaen ac fel cnwd cyfatebol gydag india-corn
  • Gwerthuso a yw blodau haul yn gallu cynyddu lefel protein y porthiant a gynaeafwyd â chombein o’i gymharu â silwiar india-corn yn unig
    Hau cymysgedd rhygwellt Westerwolds ar unwaith ar ôl cynaeafu india-corn i sefydlogi’r pridd dros y gaeaf
  • Gwerthuso arbedion posibl o ran costau porthi dros y gaeaf drwy gynnwys y silwair india-corn a blodau haul a’r gymysgedd rhygwellt Westerwolds wedi’i dorri a’i gario yn nogn y gwartheg llaeth dros y gaeaf  

Yr hyn a wnaed

Derbyniodd y cae 20 erw a ddewiswyd 3000 galwyn o slyri fesul erw yn ogystal â 10 tunnell fesul erw o dail buarth (FYM) cyn aredig a pharatoi’r gwely hadau gan ddefnyddio oged Sumo. Cafodd y cae ei ddrilio ar 1 Mehefin 2024, lle rhoddwyd 50kg o wrea i lawr y pig o flaen yr hadau ar gyfradd o 42,000 o hadau india-corn fesul erw, gyda bwlch o 9.8cm a dyfnder o 5cm.

Heuwyd yr hadau blodau haul ar yr un pryd â drilio’r india-corn ar gyfradd o 41,000 o hadau fesul erw, gyda rhesi 450mm o led a drilio at ddyfnder o 7cm (Ffigur 1).


Ffigur 1: Dril India-corn Gaspardo Monica 250 gyda hadau india-corn (coch) a hadau blodau haul (du)

Ar ôl cynaeafu’r cnwd, gafodd y gymysgedd glaswellt Westerwolds rhygwellt ei ddrilio’n uniongyrchol i’r sofl india-corn ar gost o £20/erw am yr hadau.

Canlyniadau

India-corn a blodau haul

Cafwyd haf heriol ar gyfer tyfu india-corn gyda diffyg golau’r haul yn arwain at gnydau india-corn o ansawdd is yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod tyfu blodau haul fel cnwd cyfatebol gydag india-corn wedi cael effaith negyddol bellach o ran ansawdd y silwair india-corn. Roedd yr india-corn yn cynnwys llai o egni (9.5ME o’i gymharu â 11.0ME ar gyfer india corn yn unig) a llawer mwy o ffibr NDF gyda’r ffibr yn anodd iawn i’w dreulio, fel y gwelir gyda’r ffigwr uNDF uchel (240 hr) yn Nhabl 1. O ganlyniad i’r tywydd, ni lwyddodd y cobynnau aeddfedu a chaledu fel yn y cae india-corn yn unig, a hynny o bosibl o ganlyniad i’r cysgod gan y blodau haul.

Roedd y cnwd cyfatebol yn cael ei dyfu’n bennaf o ganlyniad i’r cynnydd mewn protein fodd bynnag, a gwelwyd cynnydd o 2% yn y dadansoddiad o Brotein Crai i 11.5% o’i gymharu â silwair india-corn yn unig. Fodd bynnag, roedd dadansoddiad o’r toriad silwair cyntaf yn dangos lefel protein o 16.5%, gan arwain at ganfyddiad y byddai’n fwy buddiol i gynaeafu mwy o silwair glaswellt a’i ddefnyddio gyda silwair india corn yn unig yn y dogn.

Tabl 1: Dadansoddiad silwair blodau haul - india-corn gan DM Scientific, Pennsylvania, UDA

Gyda'r silwair blodau haul/india-corn wedi'i storio fel haen o fewn y clamp silwair india-corn, roedd hwn yn cael ei borthi gyda'r silwair india-corn yn unig, ac mae'r dogn cyfan i'w weld yn Nhabl 2. Gan mai dim ond 8kg o silwair ffres blodau haul/india-corn wedi'i gynnwys yn y dogn, ychydig iawn o gyfle oedd i amrywio'r dogn o'r hyn a luniwyd gan gynnwys silwair india-corn i gyd.

Cymysgedd rhygwellt Westerwolds

Dechreuwyd cynaeafu’r Westerwolds yn ffres ar 11 Mawrth 2025; mae’r dadansoddiad gwych yn dangos Egni Metaboladwy o 12.8 a Phrotein Crai o 24.9% (Ffigur 2). 

Ffigur 2: Dadansoddiad o’r gymysgedd rhygwellt Westerwolds

Drwy gynnwys Westerwolds yn y dogn ar gyfer gwartheg llaeth (Tabl 2), roedd modd lleihau faint o ychwanegion protein NovaPro a ddefnyddiwyd o 2kg i 1.2kg fesul buwch bob dydd, gan arwain at arbediad o £130 y dydd o ran costau bwydo dyddiol.

Fe wnaeth cynhyrchiant llaeth hefyd ymateb i gynnwys y glaswellt ffres drwy gynyddu 2 litr/buwch/dydd, gan gyfrannu 420 litr/dydd yn ychwanegol i’r tanc llaeth, a chynhyrchu incwm ychwanegol o £189 y dydd.
 

Tabl 2: Dogn gwartheg llaeth gan gynnwys silwair india corn/blodau haul ac ar ôl cyflwyno Westerwolds ym mis Mawrth

Cysylltwch â timtechnegolcff@menterabusnes.co.uk  os hoffech dderbyn taflen ffeithiau ynglŷn ag agronomeg blodau haul.