Wallog Diweddariad ar y prosiect - Ionawr 2025

Beth sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn? 

Mae cyflenwad a’r galw am ddŵr ar fferm Wallog yn amrywio drwy gydol y flwyddyn. Yn ystod misoedd y gaeaf ac i mewn i’r gwanwyn, mae angen dŵr ar gyfer 750 o famogiaid yn ogystal â chyflenwi anheddau’r fferm (fel y gwelir yn ffigur 1). Mae’r galw’n cynyddu’n sylweddol yn ystod misoedd yr haf pan fo cyflenwad dŵr ar ei isaf, ac mae angen dŵr ar gyfer 750 o famogiaid, 800 o ŵyn, 100 o wartheg, yn ogystal â sicrhau cyflenwad parhaus ar gyfer anheddau’r fferm (gweler ffigur 2). 

Ffigur 1 – Galw am ddŵr o fis Hydref i fis Ebrill

Ffigur 2 – Galw am ddŵr o fis Mai i fis Medi.

 

Er mwyn bodloni’r galw, a sicrhau cyflenwad parhaus, fe wnaethom ni nodi’r wybodaeth a oedd angen i’r synwyryddion ei chasglu er mwyn rhoi system ar waith (gweler ffigur 3).

Ffigur 3 – Nodi’r data sydd angen ei gasglu i fodloni’r galw presennol am ddŵr.

 

Trwy ddefnyddio rhwydwaith o synwyryddion LoRaWAN a dangosfwrdd wedi’i greu’n bwrpasol, mae Wallog wedi llwyddo i arbed dŵr drwy ganfod problemau’n gynt ac arbed ynni drwy bwmpio dŵr yn fwy effeithlon. Mae’r system hefyd wedi cyfrannu at ddatblygu gwell dealltwriaeth o ble a phryd y mae dŵr ar gael o gwmpas y fferm drwy gydol y flwyddyn.

Mae’r dangosfwrdd yn galluogi’r ffermwr, Dai, i fonitro lefelau dŵr yn y cronfeydd a’r ffynnon, monitro cyfraddau llif a rhoi’r pwmp ar waith fel bo’r angen oddi ar ei ffôn symudol. 
 

Ffigur 4 - Sgrin lun yn dangos y dangosfwrdd pwrpasol sy’n gysylltiedig â’r synwyryddion.

 

Er bod y system wedi profi’n llwyddiannus o ran rheoli’r cyflenwad dŵr, cafwyd rhywfaint o broblemau ar hyd y daith. Mae gwlithod wedi bod yn ymyrryd â gweithgarwch rhai o’r synwyryddion, gan arwain at gamgymeriadau achlysurol yn y data a gesglir. Mae’r tywydd a bywyd gwyllt wedi cael effeithiau tebyg ar weithgarwch synwyryddion, gan arwain at signal ysbeidiol a phroblemau rhwydwaith.


Camau nesaf 

  • Gosod synwyryddion llif ar fwy o’r cafnau i adeiladu gallu’r system i gyfrifo defnydd dŵr a chanfod gollyngiadau.
  • Gosod synhwyrydd/synwyryddion i ganfod rhew.
  • Parhau i ddatblygu’r dangosfwrdd.