Y Diweddaraf am brosiect safle ffocws Ysgellog: Argaeledd microfaetholion mewn pridd glaswelltir

Canlyniadau samplo pridd

Dangosodd y samplo pridd cychwynnol ar safle ffocws Ysgellog bod digon o ficrofaetholion yn y pridd ar y cyfan. Ond, awgrymodd y canlyniadau rai meysydd oedd angen sylw o ran mân addasiadau i ficrofaetholion. Y prif elfennau i ganolbwyntio arnyn nhw yw’r canlynol:

  • Lefelau calsiwm dan y targed yn y rhan fwyaf o’r caeau treialu
  • pH y pridd yn llai na 6 mewn rhai o’r caeau a gallai chwalu calch fod o fudd
  • Crynhoad o sylffwr yn ffactor cyffredin mewn rhai caeau. Bydd hyn yn effeithio ar argaeledd copr yn y pridd
  • Lefelau cynnwys organig y pridd yn uchel. Ond, efallai bod diffyg cylchu maetholion mewn rhai ardaloedd

Delwedd 1. Samplau pridd a gymerwyd i bennu statws microfaetholion y caeau treialu ym Mawrth 2021.

 

Canlyniadau samplo glaswellt ffres

Dangosodd y canlyniadau samplo glaswellt ffres bod y borfa o ansawdd maethol da. Ar ôl gwerthuso’r canlyniadau yma a chyfeirio at y canlyniadau pridd, roedd yn amlwg bod lefelau magnesiwm yn gymharol isel yn y pridd a’r glaswellt, yn ogystal roedd cywasgu yn broblem fechan mewn rhai caeau (adlewyrchir hyn gan grynhoad o sodiwm, chlorin a sylffwr).

 

Camau nesaf

Bydd y camau nesaf yn cynnwys mabwysiadu arferion rheoli addas i ymdrin â’r ffactorau cyffredin a ddynodwyd trwy ddadansoddi’r pridd a’r glaswellt (lle’r oedd angen). Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Asesu am gywasgu pridd trwy dyllu twll ac asesu’r pridd â’r llygad
  • Defnyddio awyrwr/triniwr isbridd (gan ddibynnu ar ddyfnder y cywasgu) pan fydd angen i dorri’r arwyneb er mwyn lliniaru’r cywasgu a hyrwyddo cylchu maetholion
  • Cymryd sampl o dail i bennu ei statws microfaetholion ac ystyried ei swyddogaeth o ran ailgylchu microfaetholion ar y fferm
  • Dadansoddiad mwynau porthiant ar y silwair sydd wedi ei borthi i’r da byw ar y fferm (a chysylltu â’r caeau treialu)