Ymweliad Astudio Cyswllt Ffermio - Grŵp Hyfforddi Rhiwhiriaeth, Llanfair Caereinion
Mae'r adroddiad canlynol wedi ei ysgrifennu gan y ffermwyr a'r coedwigwyr a gymerodd ran yn yr ymweliadau. Eu barn hwy eu hunain yn unig sydd wedi'i gynnwys.
Grŵp Hyfforddi Rhiwhiriaeth, Llanfair Caereinion
Somerset
12fed Rhagfyr 2016
1 Cefndir
Sefydlwyd y grŵp hwn dros 40 mlynedd yn ôl gyda’r pwrpas gwreiddiol o hyfforddi ffermwyr. Erbyn hyn, mae’r grŵp yn gweithredu fel llwyfan trosglwyddo gwybodaeth ar gyfer teuluoedd ffermio lleol. Prif nod yr ymweliad oedd edrych ar syniadau newydd a ffrydiau incwm newydd i alluogi olyniaeth lwyddiannus ffermydd aelodau’r grŵp i’r genhedlaeth nesaf. Mae rhan fwyaf o aelodau’r grŵp yn ystyried trosglwyddo rheolaeth eu ffermydd i’w plant ac eisiau cynyddu’r fferm deuluol drwy ychwanegu gwerth i gynnyrch cynradd yn ogystal ag arallgyfeirio eu busnesau er mwyn cynhyrchu digon o incwm i gynnal y genhedlaeth hŷn a newydd.
Hefyd, o ganlyniad i Brexit, teimla’r grŵp ei bod hi’n bwysig ceisio edrych ar syniadau i gynhyrchu mwy o ffrydiau incwm yn hytrach na dibynnu’n llwyr ar gynhyrchu bîff a defaid. Felly, hoffant edrych ar ffrydiau incwm posibl eraill er mwyn cynnal hyfywedd y fferm deuluol.
Nod yr ymweliad oedd darganfod ffeithiau mewn gwahanol ran o’r wlad lle mae ffermydd teuluol wedi datblygu’n fusnesau twristiaeth llwyddiannus ac wedi llwyddo i ychwanegu gwerth i gynnyrch cynradd a darparu incwm ar gyfer mwy nag un genhedlaeth ar yr un daliad.
2 Amserlen
2.1 Diwrnod 1
Teithio ac ymweld â Fferm Ley Cross, fferm laeth sydd wedi llwyddo i ychwanegu gwerth i gynnyrch cynradd drwy brosesu llaeth eu hunain er mwyn cynhyrchu caws yn ogystal â chynhyrchu cig eidion ar gyfer y siop fferm a thyfu grawn i leihau costau mewnbynnu. Clywodd y grŵp am y busnes a sut y mae wedi datblygu dros y blynyddoedd i gadw pum partner o fewn yr un fenter. Sefydlwyd y fferm yn 1952 gan John Alvis a bellach mae ganddo fusnes contractio, busnes gwneud caws a siop fferm, oll yn fentrau ar wahan. Tyfir 2250 erw o laswellt a 1750 erw tir âr. Defnyddir yr holl laeth a gynhyrchir adref ar gyfer cynhyrchu caws ac mae 27 o ffermydd lleol arall yn eu cyflenwi â llaeth hefyd. Cedwir 1000 o wartheg bîff hefyd ac mae’r holl deirw llaeth yn cael eu pesgi. Ar ôl y cyflwyniad, bu’r grŵp yn ymweld â’r uned prosesu caws a’r cyfleusterau pecynnu. Dysgom mai’r cawsiau mwyaf proffidiol yw’r rhai sy’n cael eu gwerthu i gwmnioedd arlwyo awyrennau - y lleiaf y darn o gaws, y mwyaf ei werth. Mae’r fferm bellach yn allforio caws i 40 gwlad ac yn gwerthu i holl brif archfarchnadoedd y DU sy’n gwerthu’r caws dan eu brand eu hunain. Dysgwyd llawer am becynnu, marchnata ac ychwanegu gwerth. Defnyddir asglodion biomass o’u coedwig eu hunain i wresogi’r holl ddŵr ar 240kW yr awr.
Deilliannau dysgu allweddol:
I geisio lleihau costau mewnbynnu drwy dyfu bwydydd eich hunain a/neu ddefnyddio coetir ar y fferm i gynhyrchu egni
Ychwanegu gwerth i gynnyrch drwy feddwl mewn ffordd wahanol e.e. gwerthu darnau bach o gaws am y premiwm
I feddwl am y fferm fel busness nid menter deuluol – ar Fferm Ley Cross mae’r busnes contractio yn codi tâl am unrhyw waith a wneir ar y fferm ar gyfer y fenter laeth
2.2 Diwrnod 2
Bûm yn ymweld â pherllannau, cynllun amaeth-amgylchedd a’r siop fferm yn ogystal ag edrych ar sut i ychwanegu gwerth i sgil-gynnyrch drwy gynhyrchu bwydydd anifeiliaid. Mae gan fusnes y Thatcher’s 10-15 milltir o afalau gyda 30,000 yn cael eu cynhaeafa bob hydref. Maent wedi bod yn cynhyrchu seidr ers dros 100 mlynedd. Dechreuodd y busnes yn 1904 ac erbyn hyn mae wedi tyfu i gyflogi 120 aelod o staff, gyda phedwaredd genhedlaeth y teulu yn cymryd rhan yn y busnes ar hyn o bryd. I ychwanegu gwerth i’w safle prosesu, mae’r busnes bellach yn gwasgu cyrens duon ar gyfer Ribena o fis Mehefin i Orffennaf. Gwerthir 42% o’r seidr i archfarchnadoedd, 56% i fragdai a 2% fel allforion.
Maent wedi newid eu dull marchnata dros y blynyddoedd a bellach yn canolbwyntio ar y farchnad ifancach newydd. O ganlyniad, maent yn y broses o adeiladu safle canio newydd fel y gellir gwerthu’r seidr mewn caniau. Nid yw’r busnes yn ofni newid ac maent bob amser yn edrych ar farchnadoedd newydd ac ar dyfu ymhellach. Yn 1994, cafodd y teulu wared â’u moch er mwyn gwneud lle ar gyfer mwy o berllannau ac yn hytrach na bwydo’r sgil-gynnyrch afal i’r moch maent bellach yn defnyddio’r sgil-gynnyrch fel bwyd gwartheg.
Yn 2010, prynodd y busnes 120 erw arall ar gyfer perllannau ychwanegol ac ers hynny maent wedi agor siop fferm a thafarn a bwyty eu hunain.
Deilliannau dysgu allweddol:
Peidio bod ofn rhoi cynnig ar bethau newydd
I ganolbwyntio ar y fenter sy’n talu a pheidio cadw da byw oherwydd dyna beth yr ydych yn gyfarwydd ag ef
Hyd yn oed mewn busnes llwyddiannus, cynlluniwch ymlaen llaw a meddyliwch am gyfleoedd a marchnadoedd newydd
3 Camau Nesaf
Camau nesaf y grŵp yn dilyn yr ymweliad yw:
Rhannu’r wybodaeth a’r hyn a ddysgwyd gydag aelodau eraill o’r grŵp
Edrych yn fwy gofalus ar olyniaeth a chynllunio olyniaeth
Mae rhai o aelodau’r grŵp wedi crybwyll y syniad o sefydlu siop fferm yn lleol ac ychwanegu gwerth i gig Cymreig.