Ymweliad Astudio Cyswllt Ffermio - Grŵp Trafod Painscastle

Grŵp Trafod Painscastle

Swydd Efrog a’r Alban

21 - 23 Mehefin 2019

 


1) Y Cefndir

Mae’r grŵp hwn yn cynnwys aelodau Grŵp Prynwyr Painscastle yn bennaf a nifer fechan o gydweithwyr agos. Mae Grŵp Painscastle yn cynnwys 45 o ffermydd y mae’r mwyafrif ohonynt yn ffermydd eidion a defaid ac mae gan rai dir âr. Rydym wedi bod yn masnachu ers 25 mlynedd ac yn cyfarfod bob pythefnos i drafod, dadlau a phenderfynu pa gynhyrchion yr ydym yn bwriadu eu prynu ar y pryd. Daw siaradwyr proffesiynol i lawer o’n cyfarfodydd, yn amrywio o filfeddygon i gwmnïau iechyd anifeiliaid, a byddent yn ein cynghori am y ffordd orau o weithredu er mwyn gostwng costau gan hefyd barhau i brynu cynnyrch o ansawdd.

Nod ac amcan yr ymweliadau hyn oedd clywed yn uniongyrchol am hanes y ffermydd y buom yn ymweld â nhw a chanfod a oeddent yn wynebu’r un heriau ag y gwnawn ninnau. Os felly, beth maen nhw wedi’i newid neu ei wella i ddod dros y sialensiau hyn? Roeddem eisiau archwilio’r cyfleoedd posibl i arallgyfeirio, p’un a fyddai hynny ar raddfa fawr neu fach; pa newidiadau y gallem eu cyflwyno a sut y gallem addasu ein busnesau fferm i fod yn fwy cost effeithiol; dysgu rhagor am y cynllun cefnogwyr ffermydd; deall manteision dull ffermio cymysg; gweld y stoc yn y sioe a gweld a fyddai cyflwyno rhai o’r bridiau mynydd Albanaidd o fudd efallai i’n systemau ffermio ni; cymharu’r cynllun QMS gyda’n cynllun ninnau yma yng Nghymru a chwrdd ag aelodau’r bwrdd i wrando ar eu profiadau ac i weld a fyddent angen newid unrhyw beth gyda Brexit ar y gorwel a sut yr oeddent yn cefnogi eu ffermwyr yn yr Alban.

 

2) Yr Amserlen

Diwrnod 1

I ffwrdd â ni am 5 o’r gloch y bore o Rosgoch gyda chwmni bysiau Herdman Coaches a theithio i fyny i Gaer, lle cawsom frecwast gwych oedd yn ddechrau da i’r diwrnod o’n blaenau.

Aethom ymlaen â’n taith, gan adael y draffordd a theithio ar hyd lonydd cefn gwlad hynod o gul; dydy’r ffyrdd ddim yn debyg i’r rhai adref gyda gwrychoedd ar y ddwy ochr, mae gan y rhain waliau carreg wedi’u cadw’n dwt. Roedd gyrrwr ein bws, Paul, yn arbenigwr a llwyddodd i wau’r cerbyd yn fedrus iawn ar hyd y ffyrdd culion hyn, tra buom ninnau oll yn mwynhau’r golygfeydd gwych dros Ddyffryndir Swydd Efrog. Cyn hir daethom i’n cyrchnod amser cinio – fferm Amanda a Clive Owen. Mae Fferm Ravenseat tua 30 munud oddi wrth y ffyrdd arferol yn Swaledale, un o’r ffermydd mynydd uchaf a mwyaf anghysbell yn Lloegr. Mae gan y fferm 2000 erw ddiadell o ddefaid Swaledale ac amrywiaeth o anifeiliaid eraill.

Daeth Clive Owen a’i ferch Raven i gwrdd â ni. Cawsom groeso cynnes a chyn hir, rhoddwyd te a sgons i ni i gyd. Yn anffodus, roedd Amanda, neu Fugeiles Swydd Efrog fel y mae rhai pobl yn ei galw, yn brysur gydag argyfwng ac ni allai ddod i siarad yn syth. Roedd yr heddlu’n siarad â hi oherwydd, yn anffodus, roedd rhywun wedi dwyn eu beic cwad y noson gynt.

Siaradodd Clive am y fferm a’r ffordd y maent wedi arallgyfeirio i ddechrau gwerthu te hufen a llety gwyliau er mwyn cyflenwi eu hincwm. Dywedodd eu bod yn ffodus iawn o gael bod ar un o’r llwybrau cerdded mwyaf poblogaidd yn Swydd Efrog ac felly daw llawer o gerddwyr drwy’r fferm.

Siaradodd am y ffaith fod angen ciperiaid da, sut maent yn helpu’r amgylchedd drwy gadw nifer yr ysglyfaethwyr yn isel, gan felly adael i adar sy’n nythu ddodwy wyau a magu eu cywion. Gwelsom lawer o gornicyllod a gylfinirod tra’r oeddem yno.

Ymadawodd yr heddlu ac ymunodd Amanda â ni i esbonio ei phrysurdeb ar y cyfryngau cymdeithasol a’i hymddangosiadau ar raglenni teledu; The Dales a New Lives in the Wild yn ogystal â Yorkshire Shepherdess. Mae hi’n siarad â gwahanol grwpiau ac hefyd â gweinidogion i esbonio sut beth yw bywyd fferm. Mae hi’n siarad am y ffordd y mae pethau’n cael eu gwneud go iawn, i ddangos realiti bywyd gwledig i’r cyhoedd a sut mae ffermio’n wahanol i fferm ffatri, sydd weithiau’n cael ei bortreadu yn y cyfryngau. Mae hi wedi cyhoeddi dau lyfr, yn aros i drydydd un gael ei gyhoeddi ac mae hi’n gwerthu’r rhain i gerddwyr o gyntedd blaen ei thŷ. Ar ddiwrnod ein hymweliad ni, roedd llawer o gerddwyr yno.

Yna aethom ymlaen â’n taith, gan aros am egwyl adfywio yn Gretna Green, cyn cyrraedd ein gwesty yn Portobello, bedair milltir o Gaeredin.

 

Y gwersi a ddysgwyd ar ddiwrnod 1

  • Mae’n bosibl gwneud eich bywoliaeth mewn ardal wledig, ond mae’n rhaid i chi weithio’n galed
  • Edrychwch ar eich amgylchiadau a manteisiwch i’r eithaf ar eich cryfderau a’ch sefyllfa
  • Mae’n debyg mai arallgyfeirio yw’r peth cywir i’w wneud y dyddiau hyn
  • Mae te hufen yn boblogaidd iawn os oes gennych lwybrau cerdded drwy eich tir
  • Mae amgylchedd a bywyd cefn gwlad yn bwysig iawn; yr hyn sy’n bwysig yw sicrhau’r cydbwysedd cywir, felly edrychwch pa gynlluniau sydd ar gael
  • Mae taliadau amgylcheddol yn hanfodol i gefnogi’r fferm deuluol i ofalu am ei hadeiladau traddodiadol a pheidio difetha’r tirlun
  • Mae’n syniad cynnal teithiau/ymweliadau â’r fferm
  • Edrychwch ar fwy o gyfleoedd twristiaeth yn cynnwys gwely a brecwast

Diwrnod 2

Heddiw aethom ar ein bws i Sioe yr Ucheldir. Unwaith i ni gyrraedd y sioe, aethom ati i ganfod y stondin lle byddem yn cyfarfod â QMS (Quality Meat Scotland) yn hwyrach y bore hwnnw.

Ar ôl awr fach o edrych o gwmpas, daethom at ein gilydd wrth stondin QMS lle cawsom groeso cynnes gyda phaned. Roedd hi’n anrhydedd mawr cael cwrdd ag Alan Clarke, y Prif Weithredwr; Kate Rowell, y Cadeirydd a Doug Bell, y Pennaeth Ymgysylltiad Strategol. Bu’r tri’n siarad am yr hyn yr oeddent yn ei wneud i ffermwyr yn yr Alban, y cymorth y maent yn ei roi iddynt a sut mae Gweinidog yr Alban yn gefnogol iawn o’r gwahanol gynlluniau cig, yn cynnwys eu cynllun effeithiolrwydd eidion a’u cynllun lloi bîff. Yn dilyn hynny cafwyd sesiwn holi ac ateb agored, anffurfiol a chyfeillgar iawn. Felly, beth ddysgon ni a pha wybodaeth gawsom ni?

Paratoi ar gyfer Brexit

  • Mae ffermwyr yn gohirio gwneud buddsoddiadau mawr ar ffermydd felly maent yn gwario llai
  • Mae amseriad Brexit yn achosi pryder mawr am fod llawer o gig oen yn cael ei allforio yn ystod misoedd y gaeaf
  • Beth fydd y tariffau – pwy a ŵyr?
  • Yn cydweithio gyda holl feysydd y diwydiant i roi’r holl ffeithiau ac i siarad â Llywodraeth yr Alban gydag un llais
  • Yn gobeithio gwerthu mwyafrif yr ŵyn erbyn mis Hydref

Ond eto, mae’n anodd bod yn gwbl barod os nad ydym yn gwybod mewn gwirionedd beth yw’r canlyniadau. Yr hyn sy’n destun cysur iddynt fodd bynnag yw bod eu gweinidog yn gwrando ac yn gweithio gyda nhw.

 

Gorchfygu heriau ac elfennau negyddol yn y wasg am y diwydiant cig coch

  • Mae’r cyfryngau ar y teledu’n siarad llawer am feganiaeth. Maent yn delio â hyn, nid drwy ei herio, ond drwy roi negeseuon positif megis y gwir ffeithiau am fanteision cig coch – ymgyrchoedd megis ‘Meat with Integrity’ a ‘Red meat is a good source of protein’
  • Mae’n cyfleu ffeithiau ynglŷn â pha mor wych yw eu diwydiant a pha gynhyrchion lefel uwch sydd ganddynt i’w cynnig drwy’r cyfryngau cymdeithasol (Twitter/Facebook ac ati)
  • Mynd i mewn i ysgolion ac addysgu’r plant; maent wedi darparu arian yn ddiweddar i roi cig oen ar fwydlenni ysgolion am fis
  • Mae 70% o’r gyllideb yn cael ei gwario ar hybu cig coch


Y gwersi a ddysgwyd ar ddiwrnod 2

  • Mae Llywodraeth yr Alban yn gweithio ochr yn ochr â’r ffermwyr
  • Ychydig iawn o TB sydd
  • Mae’r cynllun lloi bîff yn talu £100 i ffermwyr am bob llo sy’n cael ei fagu dros 40 diwrnod
  • Mae cynllun ucheldir y defaid yn talu arian am famogiaid hesbin cartref sy’n cael eu cadw ar y fferm neu’r grofft o 1 Rhagfyr yn y flwyddyn yr hawlir amdani hyd 31 Mawrth y flwyddyn ddilynol
  • Mae angen i ni fod yn fwy uchel ein llais, mwy agored a chydweithio ar draws y sectorau fel ‘un llais’. Mae angen i ni siarad gyda’n llywodraeth a gwneud iddynt wrando
  • Mae’n llawer rhatach rhentu tir

Roedd hwn yn gyfarfod da iawn gyda thri o bobl hynod wybodus a chyfeillgar ac roedd yn ddechreuad da iawn i’n diwrnod yn y sioe

Yna aethom draw i weld yr atyniadau niferus o amgylch y sioe.

Felly, yn ein barn ni, sut oedd hon yn cymharu gyda Sioe Frenhinol Cymru?

  • Mae ein sioe ni’n fwy trefnus o ran cael yr anifeiliaid i mewn i’r cylch – llawer o dagfeydd gyda system rwystrau sy’n cau’r ffyrdd – mae’r stoc wedi’i leoli bellter o’r prif gylch
  • Roeddent yn defnyddio rhwystrau cludadwy plastig i rannu’r prif gylch, felly mae mwy nag un peth yn digwydd. Roedd hyn yn ei gwneud hi’n hawdd pan oeddent eisiau’r cylch llawn e.e. ar gyfer y gorymdeithiau mawrion
  • Digonedd o seddi o gwmpas
  • Safle cerdded sy’n haws a mwy gwastad
  • Fel ein sioe ni, maent yn arddangos stoc o ansawdd da ac mae yno awyrgylch cyfeillgar
  • Hyrwyddo cynhyrchion yr Alban yn well e.e. Tartanau/Brethynnau
  • Roedd y stondinau masnach yn rhai lefel uwch, gweddol ddrud – mae’n dda cael amrywiaeth i bob cyllideb fel y mae ein sioe ni’n ei gynnig
  • Mwy o amrywiaeth o ran peiriannau, felly mae’n darparu ar gyfer ffermydd mawrion a bychain
  • Roedd cynrychiolwyr y gymdeithas, o leiaf y rhai y cyfarfuom ni â nhw, yn ymddangos yn haws mynd atynt ac yn fwy agored i drafodaeth. Mae cyfathrebu da mor bwysig yn y sioeau hyn.

Ar y cyfan, cafodd pawb ddiwrnod da.

Diwrnod 3

Heddiw aethom draw i Gaeredin. Ni allem ddod yr holl ffordd yma heb ddysgu rhywbeth am hanes a diwylliant y ddinas enwog hon. Daeth arweinydd teithiau i ymuno â ni, dangosodd i ni’r holl safleoedd diwylliannol a bu’n siarad â ni am bobl enwog ac adeiladau Caeredin.

Yna aethom allan o’r ddinas i Fferm Organig Whitmuir, Lamancha. Mae Whitmuir yn fferm organig gymysg 54 hectar yn yr ucheldiroedd yng ngororau’r Alban. Maent yn magu gwartheg, defaid, moch, ieir a thyrcwn ac hefyd yn tyfu llysiau tymhorol a ffrwythau meddal.

Daeth Peter a Heather Anderson i gwrdd â ni ac, ar ôl cyflwyniadau cyflym, cawsom ein cyfeirio ganddynt at y caffi lle’r oeddem i gael cinio tra’r oeddent hwy’n mynd i fyny’r bryn i gadw llygad ar fuwch oedd yn geni llo.

Ar ôl cinio, daeth Peter i ymuno â ni a chafwyd sesiwn holi ac ateb diddorol. Dywedodd wrthym ei fod wedi prynu’r fferm yng nghyfnod clwy’r traed a’r genau a oedd yn gyfnod anodd mewn ffermio. Ni allai brynu ar unwaith ac, am nad oedd ganddynt dir neu anifeiliaid yn barod, nid oedd ganddynt unrhyw gymorthdaliadau wedi’u dyrannu iddynt. Parhaodd y ddau i weithio ac adeiladu’r fferm yn araf, gan roi cynnig ar wahanol opsiynau i weld beth oedd yn talu orau.

Yn 2006, aethent ati i adeiladu siop fferm a siop gigydd fechan a dechrau cynllun cefnogwyr fferm (gan wneud taliadau misol rheolaidd i’r fferm yn gyfnewid am fwyd). Mae’r busnes wedi ehangu ac, erbyn hyn, mae ganddynt siop lawer mwy a siop ar-lein. Maent yn cyflogi mwy na 27 o bobl ar hyn o bryd.

 

Y gwersi a ddysgwyd ar ddiwrnod 3

  • Mae’n bosibl gwneud bywoliaeth o amaethyddiaeth organig, ond mae angen llawer o waith caled ac ymrwymiad i lwyddo
  • Mae angen taliadau atodol wrth gychwyn – ail incwm
  • Ni allent wneud bywoliaeth o 140 erw ar eu pennau eu hunain heb arallgyfeirio am fod 30 erw o dan goed
  • Mae angen ystyried eich lleoliad wrth arallgyfeirio i gynnal siop fferm neu gaffi; a ydyw ar ffordd fawr, yn hawdd ei gyrraedd, o fewn pellter cerdded ac yn gost effeithiol i weithwyr ei gyrraedd ac i gwsmeriaid?
  • Mae’n ymddangos bod y duedd o brynu pethau organig yn cynyddu yn Ewrop ond nid yn y DU
  • Os ydych chi eisiau cadw moch, gwiriwch gyflwr eich pridd am fod ei bridd ef yn glai trwm iawn a phan fydd yn mynd yn wlyb mae’n cymryd amser hir i ddychwelyd i’w gyflwr gwreiddiol
  • Os ydych yn tyfu llysiau, maent yn fwy cynhyrchiol mewn twnelau polythen am fod llai o risg o glefyd
  • Mae bwyd organig yn ddrud iawn
  • Ystyriwch y chwistrelli a ddefnyddiwn ar gnydau âr, ac edrychwch ar ffyrdd eraill nad ydynt yn niweidio’r amgylchedd
  • Sicrhewch fod gennych gydbwysedd ar eich fferm; neilltuwch rai ardaloedd i helpu’r amgylchedd e.e. dolydd blodau gwyllt i ailgyflwyno blodau gwyllt a phryfed
  • Tyfwch eich llysiau eich hun a gwerthu unrhyw rai sy’n weddill wrth giât y fferm neu mewn marchnadoedd ffermio lleol neu i fusnesau gwely a brecwast lleol

3) Y Camau Nesaf

Yn ystod ein tri diwrnod, cawsom lawer o wybodaeth ddefnyddiol, ac ar y ffordd adref bu’r aelodau’n siarad am y gwahanol bethau y mae angen i ni edrych arnynt a’r posibiliadau y gallwn eu hystyried.

Mae nifer o’r aelodau’n ystyried ffyrdd o arallgyfeirio drwy dwristiaeth, gwely a brecwast, te hufen, gwerthu rholiau bacwn ac ati am fod llawer ohonom mewn lleoliadau gwledig ac mae gennym lwybrau cerdded a llwybrau ceffylau’n dirwyn drwy ein tir.

Mae angen i ni sicrhau ein bod yn sefyll ynghyd fel cymuned ffermio ac yn lledaenu’r neges ynglŷn â pha mor dda yw ein cynhyrchion.

Y camau gweithredu wrth symud ymlaen 

  • Cyflwyno ein canfyddiadau yn ôl i’r grŵp ehangach yn y cyfarfod nesaf
  • Mae angen siarad â’r undebau, proseswyr cig, cigyddion a’u cael i hyrwyddo bwyd Prydeinig
  • Trefnu cyfarfod dilynol gyda QMS pan fyddent yn ymweld â Sioe Frenhinol Cymru
  • Trefnu i siarad neu ymweld â fferm gynhyrchu organig fwy
  • Edrych ar ba gyllid sydd ar gael i gefnogi cyfleoedd twristiaeth
  • Edrych ar gyfleoedd marchnata uniongyrchol
  • Gwahodd cynhyrchydd o Lywodraeth Cymru i fynd i gyfarfod i drafod pam y mae ffermwyr Albanaidd yn derbyn cefnogaeth i’w hanifeiliaid, oherwydd y cwbl yr ydym ei eisiau yw cydraddoldeb, am ein bod oll yn cystadlu yn yr un farchnad
  • Gofyn i Amanda a Clive Owen ddod i un o’n cyfarfodydd pan fyddent yn dod i Ŵyl y Gelli y tro nesaf - maent yn siaradwyr hynod o ddiddorol sy’n ennyn ysbrydoliaeth
  • Cwrdd â Hybu Cig Cymru (HCC) i gyflwyno rhai o’r pethau y mae QMS yn eu gwneud gyda’u ffermwyr; gweld a allent uno gyda chyrff eraill i ffurfio ‘un llais’ i’n diwydiant.