Ymweliad Astudio Cyswllt Ffermio - West Wales Grasshoppers

Mae'r adroddiad canlynol wedi ei ysgrifennu gan y ffermwyr a'r coedwigwyr a gymerodd ran yn yr ymweliadau. Eu barn hwy eu hunain yn unig sydd wedi'i gynnwys.

West Wales Grasshoppers

Hampshire

21ain - 22ain Mehefin 2017


Cefndir

Bwriad y daith yw ymweld â busnesau fferm sydd wedi llwyddo lleihau risgiau eu busnesau drwy un ai arallgyfeirio eu gweithgaredd busnes neu drwy ddarganfod dulliau cynhyrchu risg isel. Rydym yn bwriadu dysgu am systemau ffermio a strwythurau busnes gwahanol yn ogystal ag edrych ar sut mae modelau busnes gyda sialensiau cyffredin o ran ffermio llaeth sy’n seiliedig ar borfa yn darganfod datrysiadau.

 

Amserlen

Diwrnod 1:

Ar y diwrnod cyntaf bu'r grŵp yn ymweld â Sam Martin yn Simon Martin Farms, Hampshire, sy'n godro 375 o wartheg ar system lloia yn y gwanwyn. Roeddent newydd werthu ail uned sy'n lloia yn yr hydref yn Fareham, yn ogystal â rhedeg mentrau ffermio cytundeb eraill. Treuliodd y grŵp amser yn datrys problemau llif gwartheg gyda pherchennog y fferm a’r rheolwr buches, yn cynnwys gwneud gwerthusiad o’r drefn odro newydd ar y safle presennol. Treuliwyd amser yn dadansoddi PFC (CFP) y fferm, gyda chyfanswm eu costau yn cyfateb i 22.4 ceiniog y litr cyn rhent, cyllid a chodi arian personol o’r busnes. Treuliwyd llawer o amser yn cwestiynnu’r perchennog ynglŷn sut yr oedd yn rheoli amser o ran gweithrediad y busnes yn gyffredinol. Cafodd y porfeydd glaswellt ardderchog argraff ar y grŵp a chafwyd eu synnu o weld cyfanswm y glaswellt a dyfir. Cydnabu’r grŵp yr anhawsterau o ran tyfu busnes mewn lleoliad â gwerth tir o £12-14,000/erw. Cytunodd y grŵp ei bod hi’n anodd perswadio perchnogion tir bod cynhyrchu da byw yn syniad da.

 

Canfyddiadau

  • Mae potensial ar gyfer cynhyrchu da byw yn Ne Lloegr yn ddibynnol ar gyfyngiadau perchnogion tir a chyfalaf.
  • Ni ddylai cynhyrchu llaeth yn seiliedig ar borfa gael ei ddefnyddio fel esgus am allbwn llai.
  • Adlewyrchir rheolaeth dda ar laswelltir mewn PFC ardderchog

Aethom ymlaen i ymweld â Jamie Butler ym Meon Springs, Whitewool Farm. Roedd Jamie yn esiampl dda o sut y mae’n bosib cydbwyso’r busnes gyda nifer o weithgareddau, a phob un ohonynt yn llwyddiannus. Roedd y fenter ffermio llaeth yn cynnwys 400 o wartheg ar system yn seiliedig ar ddogn TMR yn hytrach na system bori, a bu hyn yn rhywbeth gwahanol i’r grŵp. Arweiniodd holi gofalus gan y grŵp o PFC (CFP) y fferm at berchennog y fferm yn cyfaddef bod gwaith i’w wneud i wella perfformiad ariannol y busnes, a oedd yn cyfateb i PFC o 29.3 ceiniog y litr. Trafododd y grŵp yr hyn oedd angen ei wneud er mwyn defnyddio mwy o laswellt i’w bori ac arweiniodd hyn at drafodaeth am eneteg addas. Roedd trosiant gweithwyr yn broblem ar y fferm ac er bod strwythur rheoli clir gyda nodau strategol yn cael eu trafod, roedd ddiffyg gosod dangosyddion perfformiad allweddol mesuradwy ar ran y perchennog.

 

Canfyddiadau

  • Dylai’r grŵp gynnal profion seicometrig fel y gall yr aelodau ddeall eu hunain a sut y maent yn rhyngweithio gydag eraill.
  • Mae dangosyddion perfformiad allweddol yn bwysig o ran helpu mesur cynnydd staff.
  • Gall arallgyfeirio amharu ar nodau craidd y busnes.
  • Mae cytundeb adwerthwr aliniedig wedi arwain at fenter ffermio llaeth aneffeithiol.
  • Nid yw ffermio tir âr cytundeb yn cynhyrchu llawer o elw.

Diwrnod 2:

Ar yr ail ddiwrnod aethom i ymweld Andrew Sellick a Carol Macpherson, Gawthorpe Estate. Roeddent yn cadw buches o 230 o wartheg gan ddefnyddio system lloia yn yr hydref a silwair porthi eu hunain. Ar ôl i hwsmyn Andrew adael y busnes llynnedd, lluniodd gytundeb ffermio cytundeb gyda Carol. Roedd hwn yn fusnes gyda hanes da o ddata PFC cryf.  Treuliodd y grŵp amser yn holi’r ddau ohonynt am y cytundeb. Canolbwyntiodd y grŵp ar bolisi bridio croesi pedair ffordd Andrew (Hol x Jer x FR x SR) a sut yr oedd hyn yn effeithio uchelgais ac awch Carol i fridio gwartheg Holstien. Galluogodd dadansoddiad trylwyr o PFC a data ffisegol y grŵp i gyfrifo cost o 25.9 ceiniog y litr cyn rhent a chyllid. Cafwyd llawer o drafodaeth ar sut yr oedd Carol wedi llwyddo trosglwyddo cytundeb adwerthwr aliniedig o Denantiaeth Busnes Fferm (FBT) blaenorol.

 

Canfyddiadau

  • Mae cytundebau cytundeb sydd wedi’u trefnu’n dda yn ffordd wych o ymrwymo’r ddwy ochr.
  • Gall systemau pori a dwysfwyd syml ddarparu incwm i’r ffermwr a’r contractwr.
  • Dylai contractwr fod yn gyfrifol am dargedau bridio, cyn belled nad yw’n yn effeithio gwerth y fuches. 
  • Darganfod beth sy’n cyfyngu’r defnydd o gytundebau o’r fath yng Ngorllewin Cymru.

Y fferm olaf wnaethon ni ymweld â hi oedd fferm Chris Martin, C & C Farms. Roedd Chris yn cadw buches o 500 o wartheg yn lloia yn y gwanwyn. Roedd hwn yn fusnes cadarn gyda thîm ymroddedig. Holodd y grŵp am yr anawsterau sy’n gysylltiedig â lloia yn y gwanwyn mewn hinsawdd sych yn ogystal â holi’r rheolwr am y farchnad ar gyfer llaeth y gwanwyn yn Ne Lloegr. Gyda pherchennog a rheolwr hŷn, gofynodd y grŵp am eu cynllunio olyniaeth. Cafodd y grŵp gyfle i wylio’r broses odro mewn parlwr cylchdro gyda system odro Rotaflow arnofiol. Roedd y busnes wedi ei osod gyda chyfrifon elw a cholled ar wahan ar gyfer llaeth, tir âr a lletai gwyliau a chafwyd trafodaeth ar sut yr oeddent yn cael eu rheoli yn ymarferol.

 

Camau Nesaf

  • Llunio data mwy cymharol o broffidioldeb ar gyfraddau porthi uwch.
  • Cynnal profion seicometrig personol fel grŵp.
  • Adolygu ein hanghenion hyfforddi er mwyn datblygu ein dulliau rheoli.
  • Cynnal taith gyfnewid ar gyfer y ffermwyr o Hampshire.
  • Adolygu dulliau rheoli staff ar ffermydd yr holl aelodau.
  • Adolygu ein PFC yn erbyn rhai’r ffermwyr llaeth yn Hampshire.