Osian Williams

Llangeitho, Ceredigion

Dechreuodd angerdd Osian, a gafodd ei fagu mewn tŷ cyngor ym Mhwllheli at ffermio llaeth pan roedd yn 12 oed, pan ddechreuodd helpu ar fferm Cefnamlwch, lle bu'n rhaid iddo sefyll ar fwced i gyrraedd y clystyrau llaeth. Er nad oedd ganddo gefndir mewn amaethyddiaeth, aeth ymlaen i astudio Amaethyddiaeth yng Ngholeg Glynllifon cyn dychwelyd i fferm Cefnamlwch i ymgymryd â swydd llawn amser.

Ar ôl iddo dreulio dwy flynedd yn Seland Newydd ac wrth iddo ddychwelyd i Gymru, cafodd gynnig menter ar y cyd gan Matthew Jackson. Gadawodd Osian Ben Llŷn a symudodd i Geredigion i sefydlu trosiad llaeth newydd gyda Matthew Jackson a John Furnival ar fferm Dolau Aeron, Tregaron lle sicrhaodd ei le yn y bartneriaeth ecwiti.

Mae Dolau Aeron yn godro buches o 450 o wartheg croes Jersey sy'n lloia yn y gwanwyn. Mae gan Osian ran allweddol i’w chwarae wrth reoli’r fferm, y staff, a’r fuches. Mae’n defnyddio meddalwedd Agrinet i gynllunio amserlenni pori ac yn ceisio’n barhaus i gynyddu cynhyrchiant llaeth o laswellt tra hefyd yn cadw llygad barcud ar iechyd a lles anifeiliaid, oherwydd y dirwedd heriol.

Nod hirdymor Osian yw bod yn berchen ar ei fferm ei hun y tu hwnt i’r Fenter ar y Cyd a’i freuddwyd yw bod mewn sefyllfa i roi cyfle i bobl ifanc eraill gamu i fyd amaethyddiaeth, yn union fel y gwnaeth yntau.

Mae Osian yn gobeithio dysgu llawer gan ei gyd-ymgeiswyr sy’n rhan o’r Academi Amaeth ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn gwneud cysylltiadau newydd a dysgu am yr hyn sy’n llywio eraill. Mae hefyd yn gobeithio dysgu mwy am y gadwyn gyflenwi.