Adolygiad o’r fenter wartheg: Gwneud penderfyniadau sy’n cael eu llywio gan ddata

Mae Fferm Graianfryn, gweithrediad 295 erw gyda dwysedd stocio cyfredol o 1.84 o unedau da byw, yn defnyddio pori cylchdro a rhaglen fwydo TMR sy'n cynnwys haidd y gwanwyn a dyfir ar y fferm ei hun. Ar hyn o bryd mae’r fferm yn rhedeg menter bîff a llaeth (dros 300 pen) ochr yn ochr â 500 o ddefaid Miwl Gogledd Lloegr.

Mae adolygiad o’r busnes yn ddiweddar wedi amlygu meysydd posibl i’w gwella o fewn y fenter bîff, gan gynnwys defnyddio amrywiaeth ehangach o brotein a dyfir gartref a newid o system besgi i werthu gwartheg stôr/newydd eu diddyfnu. Yr hyn sy'n allweddol i broffidioldeb mewn menter besgi yw sicrhau bod gwartheg yn bodloni'r manylebau gofynnol er mwyn osgoi cosbau. Caiff monitro rheolaidd a meddalwedd eu defnyddio ar hyn o bryd i gofnodi enillion pwysau byw, gan sicrhau nad oes unrhyw anifail nad yw'n magu digon o bwysau yn cael ei gadw ar y fferm.

Bydd astudiaeth bwrdd gwaith yn defnyddio ymarferion modelu i ddarparu tystiolaeth, data, ac awgrymiadau i fireinio'r fenter bîff ar fferm Graianfryn. Adolygir perfformiad technegol ac ariannol, ac ymchwilir i newidiadau rheoli posibl gyda'r nod o wella effeithlonrwydd a pherfformiad y fenter yn gyffredinol. Ein nod yw grymuso Graianfryn gyda’r mewnwelediadau angenrheidiol i wneud penderfyniadau gwybodus a yrrir gan ddata, gan sicrhau twf parhaus y fferm a’i heffaith gadarnhaol o fewn y diwydiant.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • defnyddio adnoddau’n effeithlon 
  • llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel