Adroddiad Cynllun Treialu - Prosiect Lwyn Porc o Gymru

 

Paratowyd gan: Caroline Mitchell

FQM Global

Dyddiad: Tachwedd 2021

 

 

 

Ymwadiad:

Mae’r data (gwybodaeth o hyn ymlaen) y mae FQM Global yn ei roi ar gael neu yn ei gyflenwi i chi ar gyfer dibenion gwybodaeth yn unig. Lluniwyd y wybodaeth gan FQM Global yn ofalus ond heb warant o ran ei chywirdeb, ei chyflawnder, ei haddasrwydd, neu ganlyniad ei defnyddio. Ac nid yw FQM Global chwaith yn gwarantu nad yw hawliau eiddo deallusol trydydd bartïon yn cael eu tramgwyddo gan gyhoeddi’r wybodaeth. Ni fwriadwyd i’r Wybodaeth fod yn gyngor personol i chi. Mae’r wybodaeth yn seiliedig ar amgylchiadau cyffredinol ac nid yw’n seiliedig ar eich amgylchiadau personol chi. Eich cyfrifoldeb chi eich hun yw gwirio a yw’r wybodaeth yn addas ar gyfer eich gweithgareddau. Eich cyfrifoldeb chi yn llwyr yw’r defnydd o’r wybodaeth gennych chi. Bydd deilliant y defnydd hwnnw’n dibynnu ar eich amgylchiadau personol. Hyd y graddau eithaf a ganiateir gan gyfraith berthnasol, mae FQM yn gwrthod unrhyw atebolrwydd i chi am eich colledion o unrhyw fath (gan gynnwys niwed uniongyrchol, anuniongyrchol, canlyniadol, arbennig a chosbol) sy’n deillio o ddefnyddio’r wybodaeth neu ddibynnu ar gywirdeb, cyflawnder neu addasrwydd y wybodaeth.
 

 

Cyflwyniad:

Yn 2021 cychwynnodd Menter a Busnes a fferm Forest Coalpit ar gynllun treialu i gymharu ansawdd cig moch wedi eu pesgi ar badog llawn porfa â moch wedi eu pesgi ar badog moel. Roedd proffil asid brasterog y porc a gynhyrchwyd o ddiddordeb neilltuol. 

Dadansoddwyd yr holl ddata gan ddefnyddio ANOVA un ffordd yn Excel. 

 

Nod a Rhagdybiaeth:

Sefydlu a yw system ar sail porfa yn cael effaith arwyddocaol ar ansawdd porc

      H0 - Nid oes gwahaniaeth rhwng y grwpiau triniaeth
      H1 - Mae gwahaniaeth rhwng y grwpiau triniaeth

 

Dyluniad y Cynllun Treialu a Dyrannu yn Grwpiau:

Dynodwyd hychod yn yr un grŵp oedd naill ai yn chwiorydd llawn neu hanner chwiorydd. Defnyddiwyd yr un baedd ar yr hychod a ddynodwyd. Y bwriad oedd, trwy ddefnyddio’r un baedd, na fyddai unrhyw effaith baedd ar y data. Yn ychwanegol, trwy ddefnyddio hychod oedd yn perthyn yn agos, mae’r amrywiad genynnol yn cael ei gyfyngu gymaint â phosibl ym moch y cynllun treialu.

Ar ôl bwrw perchyll, roedd y perchyll yn cael eu magu mewn grŵp hyd at eu diddyfnu, a thrwy hynny safoni’r effeithiau amgylcheddol. Diddyfnwyd y perchyll yn 45 diwrnod. Ar ôl eu diddyfnu, cadwyd y cohort gyda’i gilydd nes iddynt gael eu dyrannu i grŵp triniaeth yn 92 diwrnod oed.

Dim ond hesbinychod a ddefnyddiwyd ar gyfer y cynllun treialu fel nad oes unrhyw effaith rhyw ar y set ddata. Roedd y moch yn cael eu dyrannu i’r grwpiau triniaeth ar hap. 
      Grŵp 1 = 10 hesbinwch – Porthiant Arferol + Padog Moel
      Grŵp 2 = 9 hesbinwch – Porthiant Arferol + Padog Porfa

Ar ôl eu dyrannu i grŵp roedd y moch yn cael tag clust (Oren = Dim porfa, Gwyrdd = Porfa) i gynorthwyo i’w hadnabod yn y lladd-dy. 

 

Trefn borthi:

Roedd y dwysfwyd yn cael ei gyfyngu ychydig er mwyn annog y moch i fwyta’r borfa. Defnyddiwyd y cyfyngiad ar y ddau grŵp triniaeth gyda 2kg y pen y dydd ar gael i’r anifeiliaid. 

Dros gyfnod y cynllun treialu rhoddwyd dau ddogn bwyd gwahanol i’r anifeiliaid:
Dwysfwyd 1 – Manyleb Tyfu 
Dwysfwyd 2 – Manyleb Gorffen 
Gyda’r newid o’r dogn Tyfu i’r un Gorffen yn digwydd ar ddiwrnod 120.

Gellir gweld manylebau’r dognau bwyd a ddefnyddiwyd yn Atodiad 1

 

Lladd:

Pan oedd cyfartaledd pwysau byw'r ddau grŵp triniaeth tua 93kg, aed â’r moch i’w lladd. Lladdwyd yr anifeiliaid i gyd ar yr un diwrnod (3 Medi 2021) yn W J George Cross House, Stryd Fawr, Talgarth, Aberhonddu LD3 0PD. Trosglwyddwyd hwy o’r fferm i’r lladd-dy yn ôl arferion arferol y fferm. Cadwyd y moch yn eu grwpiau i leihau’r straen a’r ymladd.

Lladdwyd yr anifeiliaid gan ddefnyddio syfrdanu a ffon drydanol yn ôl protocolau arferol y lladd-dy.

 

Asesiad pH a thymheredd:

Ar ôl pwyso’r carcas, trosglwyddwyd y moch i’r oergell lle’r oedd pob mochyn unigolyn yn cael ID 1 - 19 gan ddefnyddio pensil chinograff a mesurwyd y ph45 a’r tymheredd 45 (offer Hanna, HI-98163 Mesurydd pH cludadwy ar gyfer cig) a’u cofnodi. Gwnaed yr asesiad ar bwynt P2 ar ochr chwith pob mochyn. Yna oerwyd y carcasau dros nos yn ôl arferion arferol y safle cyn cael eu cludo 28 awr yn ddiweddarach, mewn oergell, i’r uned oer ar Fferm Forest Coalpit.

Ar y dydd Sul 48 awr ar ôl eu lladd, torrwyd y carcasau yn brif ddarnau cig. Tynnwyd 2 ddarn o’r lwyn gyda nod adnabod unigol, 2.5 cm o drwch, ar y pwynt P2.

Gadawyd i un darn o’r lwyn newid ei liw am 30 munud yn yr amodau arferol cyn i’r lliw NPPC a CEILAB, (Tabl 2 a 3) gael ei asesu a’i gofnodi ac yna aseswyd y Tymheredd24 a’r pH24 (Tabl 1). Paratowyd yr ail ddarn o lwyn ar gyfer Asesiad Colli Diferion.

 

Grŵp 1 (Dim Porfa)

Grŵp 2   (+ Porfa)

Gwerth P

 

Nifer

10

9

 

 

Pwysau (pwys)

161.50

158.22

0.4973

ns

pH45

7.09

7.07

0.8431

ns

Tymheredd45

29.96

30.84

0.2086

ns

pH24

5.64

5.66

0.7363

ns

Tymheredd24

14.80

13.19

0.0120

*

Tabl 1: Asesiad pH a Thymheredd

 

Fel y gellir gweld yn Nhabl 1 nid oedd gwahaniaethau arwyddocaol rhwng y grwpiau triniaeth ar gyfer unrhyw un o’r nodweddion ac eithrio Tymheredd24. Mae’r gwahaniaeth tymheredd ar Dymheredd24 yn arwyddocaol, fodd bynnag, ni fydd (ac ni wnaeth) effeithio ar unrhyw un o’r dulliau mesur ychwanegol.

 

CEILAB, NPPC a Cholli Diferion

Ar ôl y cyfnod newid lliw 30 munud cynhaliwyd yr asesiad britho a lliw goddrychol gan Caroline Mitchell a Lauren Smith gan ddefnyddio cardiau NPPC USDA. Cyflawnwyd yr asesiad CEILAB gan ddefnyddio Konica Minolta CR-200. Oherwydd ei fod yn amharu gwnaed yr asesiad pH24 a Thymheredd24 ar ôl yr asesiad gweledol a CEILAB.

 

Grŵp 1

(Dim Porfa)

Grŵp 2

(Porfa)

Gwerth P

 

L*

60.56

59.77

0.4852

ns

a*

10.11

11.91

0.0107

*

b*

6.47

6.62

0.7239

ns

Tabl 2: Canlyniadau asesiad CEILAB

 

Fel y gellir gweld yn Nhabl 2 dangosodd yr asesiad lliw CEILAB bod gwahaniaeth sylweddol o ran pa mor olau a glas/melyn, ond roedd y grŵp â phorfa yn llawer cochach na’r grŵp heb borfa. Ond, fel y gellir gweld yn Nhabl 3 ni wnaeth y gwahaniaeth mewn cochni drosglwyddo i’r asesiad gweledol goddrychol.

Ar gyfer asesu colli diferion defnyddiwyd “Dull Bag Llawn Gwynt” Honikel. Tra’r oedd y darn o lwyn cyntaf yn cael ei adael i newid ei liw torrwyd yr holl fraster cefn oddi ar yr ail ddarn o lwyn 2.5cm o drwch, gan fod yn ofalus i beidio torri i strwythur y cyhyrau. Yna sychwyd y gwlybaniaeth allanol oddi ar y darn o gig a’i bwyso, a chofnodwyd y pwysau. 

Yna rhoddwyd darn o linyn cigydd yn y lwyn tua 1 fodfedd o’r ymyl. Yna rhoddwyd y cig i hongian mewn bag bwyd gyda rhif adnabod y mochyn arno. Chwythwyd gwynt i’r bag a’i selio o gwmpas y sampl o gig, gan sicrhau nad oedd arwyneb y cig yn cyffwrdd y bag. Gan ddefnyddio cynffon llinyn y cigydd crogwyd y bagiau o’r rac yn yr oergell gan sicrhau nad oedd unrhyw fagiau yn cyffwrdd ei gilydd ac nad oedd unrhyw gig yn cyffwrdd y bagiau.

 

Gadawyd y bagiau o gig yn hongian yn yr oergell hyd ddydd Gwener 10 Medi. 6 diwrnod ar ôl eu lladd (Diwrnod lladd yn ddiwrnod 0) a buont yn crogi am 5 diwrnod. Ar y 10 Medi tynnwyd y cig o’r bagiau, sychwyd yr arwyneb i gael gwared ar unrhyw ddŵr dros ben ac yna ail-bwyswyd y sampl. 

Cyfrifwyd y gwahaniaeth mewn pwysau fel y gellid dadansoddi’r ganran (%) o golli lleithder rhwng y grwpiau trin.

 

Grŵp 1

 (Dim Pori)

Grŵp 2 (Yn pori)

Gwerth P

 

Colli Diferion (%)

7.55

6.08

0.1042

ns

Sgôr Britho (Cyfartaledd)

1.80

1.61

0.2977

ns

Sgôr Lliw (Cyfartaledd)

3.35

3.22

0.6336

ns

Tabl 3: (%) Colli Diferion ac Asesiad Gweledol Goddrychol

 

Roedd gan y grŵp fu yn pori (%) Colli Diferion ychydig yn is, ond, nid oedd y gwahaniaeth rhwng y grwpiau yn arwyddocaol. 

 

Dadansoddi Data o Goleg Menai:

Gellir gweld yr holl ddulliau a ddefnyddiwyd gan Goleg Menai yn eu hadroddiad. 

 

Grŵp 1

(Dim Pori)

Grŵp 2 (Yn pori)

Gwerth P

 

Colli Wrth Goginio (%)

26.28

24.68

0.1814

ns

Colli Pwysau wrth Goginio ac Oeri (%)

29.49

27.50

0.1029

ns

Warner Bratzler

6974.29

7208.86

0.3061

ns

Warner Bratzler (tynnu’r rhifau pellaf)

6903.71

7208.86

0.1634

ns

Tabl 4: Canlyniadau Colli Wrth Goginio a Warner Bratzler

 

Nid oedd unrhyw wahaniaeth arwyddocaol rhwng y grwpiau triniaeth ar gyfer Colli Wrth Goginio, Colli Pwysau ac Oeri neu Warner Bratzler/Tynerwch. Ar gyfer y dadansoddiad ystadegol Warner Bratzler, cynhaliwyd ail ANOVA gan dynnu data “Grŵp A4 Craidd 1 sampl 19” oherwydd ar rym uchaf o 11138.06g ystyrid bod y darlleniad yn wahanol i’r patrwm. Ni wnaeth tynnu’r rhif gwahanol arwain at unrhyw wahaniaeth arwyddocaol rhwng y grwpiau triniaeth. 
 

 

Grŵp 1

(Dim Pori)

Grŵp 2

(Yn Pori)

Gwerth P

 

NIR: Braster

18.38

18.71

0.8537

ns

NIR: Protein

19.37

19.37

0.9978

ns

NIR: Lleithder

62.08

61.46

0.6335

ns

NIR: Colagen

1.42

1.45

0.4655

ns

                                             Tabl 5: Dadansoddiad NIR 

Nid oedd unrhyw wahaniaeth arwyddocaol rhwng y grwpiau triniaeth ar gyfer dadansoddiad NIR (Tabl 5).

 

 

Grŵp 1

(Dim Pori)

Grŵp 2

(Yn Pori)

Gwerth P

 

Braster (g/100g)

3.26

3.51

0.5972

ns

Lleithder (g/100g)

72.74

72.57

0.7305

ns

Lludw (g/100g)

1.10

1.12

0.1639

ns

Hydrocsiprolin (g/100g)

0.07

0.08

0.7503

ns

Colagen (g/100g)

0.58

0.62

0.7503

ns

Carbohydrad (g/100g)

0.10

0.10

~

 

Protein (g/100g)

23.36

23.07

0.1105

ns

Egni (KJ/100g)

518.30

522.22

0.8100

ns

Egni (Kcal/100g)

122.90

123.89

0.8039

ns

                                     Tabl 6: Dadansoddiad Cemegol 1

 

Nid oedd unrhyw wahaniaeth arwyddocaol rhwng y grwpiau triniaeth o ran Dadansoddiad Cemegol 1 (Tabl 6). Ar gyfer y Carbohydrad g/100g roedd yr holl ganlyniadau 0.1 ar gyfer yr holl anifeiliaid oedd yn golygu na ellid cyfrifo gwerth P.

Wrth ddilyn canllawiau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar labelu bwyd gallwn weld bod y ddau grŵp triniaeth ychydig y tu mewn i’r parth amber o ran cynnwys braster/100g. Ond, pan fyddwn yn edrych ar y data Dadansoddiad Cemegol Set 2 (Tabl 7) gallwn weld bod gan anifeiliaid Grŵp 1 1.4g o fraster dirlawn/100g ac anifeiliaid Grŵp 2 1.6 o fraster dirlawn/100g. Byddai Grŵp 1 yn wyrdd o ran braster dirlawn ond byddai Grŵp 2 yn amber. Er nad oes gwahaniaeth arwyddocaol rhwng y ddwy lefel o fraster dirlawn pan fydd yr un faint o fraster yn cael ei gymharu, oherwydd bod gan Grŵp 2 ychydig mwy o gyfanswm o fraster ynghyd ag ychydig mwy o fraster dirlawn, mae’n cael effaith ar sut y byddai’r cynnyrch yn cael ei ddosbarthu.
 

 

Siart 1: System Goleuadau Traffig Labelu Bwyd yn y Deyrnas Unedig

Ffynhonnell: https://www.pid-labelling.co.uk/sandwich-label-nutrition-traffic-lights…
 

Ond, nid yw’r gwahaniaethau’n ddigon i gael gwahaniaeth yn y cynnyrch wrth brosesu neu allu’r braster i “setio”. Yn ychwanegol, oherwydd bod y set data yn gymharol fach byddai arnom angen rhagor o ddata i gadarnhau’r categorïau dosbarthu.

Cynhaliwyd ail set o ddadansoddiadau cemegol yn edrych ar broffil asid brasterog y ddau grŵp triniaeth. Gofynnwyd am ddadansoddiad manwl oherwydd credid y byddai ychwanegu porfa yn cael effaith ar broffil asid brasterog yn fwy nag unrhyw nodwedd arall. 

 

Grŵp 1

(Dim Pori)

Grŵp 2

(Yn Pori)

Gwerth P

 

Cyfanswm Braster Dirlawn (%)

44.08

44.77

0.2943

ns

Cyfanswm Mono (%)

41.27

40.34

0.1207

ns

Cyfanswm Poly (%)

14.34

14.56

0.7506

ns

Cyfanswm Trans (%)

0.30

0.34

0.1114

ns

Asid Laurig (C12:0) (%)

0.02

0.01

0.7216

ns

Asid Myristig (C14:0) (%)

1.14

1.10

0.2090

ns

Asid Palmitig (C16:0) (%)

27.52

27.24

0.3479

ns

Asid Palmitelaidig (C16:1n9t) (%)

0.28

0.31

0.0604

ns

Asid Palmitoleig (C16:1) (%)

3.05

2.67

0.0092

**

Asid Heptadecanoig (C17:0) (%)

37.28

36.69

0.2649

ns

cis-10-Heptadecenoig (C17:1) (%)

0.18

0.21

0.4345

ns

Asid Stearig (C18:0) (%)

15.09

16.04

0.0460

*

Asid Oleic (C18:1n9c) (%)

37.28

36.69

0.2649

ns

Asid Linoleig (C18:2n6c) (%)

11.31

11.22

0.8584

ns

Asid Linolenig (C18:3n3c) (%)

0.66

0.97

0.0008

***

Asid Arachidig (C20:0) (%)

0.07

0.12

0.2350

ns

Asid cis-11-Eicosenoig (C20:1) (%)

0.75

0.77

0.5842

ns

cis-11, Asid 14-Eicosadienoig (C20:2) (%)

0.43

0.44

0.5897

ns

Asid Eicosatrienoig (C20:3n6) (%)

0.05

0.02

0.4165

ns

Asid Arachidonig (C20:4n6) (%)

1.59

1.54

0.8136

ns

Asid Docosapentaenoig (C22:5) (%)

0.30

0.36

0.1141

ns

Tabl 7: Dadansoddiad Cemegol Set 2


Fel y gellir gweld yn Nhabl 7 roedd ychwanegu porfa yn arwain at wahaniaethau arwyddocaol rhwng grwpiau triniaeth o ran Asid Palmitoleig (P = 0.0092), Asid Stearig (P = 0.0460), ac Asid Linolenig (P = 0.0008).


Casgliadau:

Asid linolenig oedd yr asid brasterog y gwnaeth ychwanegu porfa effeithio mwyaf arno. Cyfeirir ato yn aml fel asid a-Linolenig (ALA) mae’n asid brasterog hanfodol n-3 neu omega 3. Mae nifer o fanteision o fwyta cynhyrchion sy’n cynnwys ALA ar gyfer pobl sy’n ei fwyta (atal trawiad ar y galon, gostwng pwysedd gwaed uchel, gostwng colesterol, gwyrdroi caledu’r gwythiennau gwaed). Dim ond trwy eu diet y gall pobl gael asid a-Linolenig oherwydd bod absenoldeb yr ensymau 12- a 15- gofynnol yn ei wneud yn amhosibl ei greu o asid steraig. Nid yw moch chwaith yn gallu creu ALA ac felly mae’r gwahaniaeth sylweddol rhwng y grwpiau triniaeth o ganlyniad uniongyrchol i ychwanegu porfa at y diet.

Dangosodd astudiaethau, trwy addasu porthiant h.y. ychwanegu olewau pysgod/planhigion/hadau mae’n bosibl i wneud cig moch yn fwyd mwy defnyddiol oherwydd y cynnwys omega 3 ac omega 6. Byddai’n ddiddorol gweld os gall gwndwn gwahanol gael effaith pellach ar ddefnyddioldeb y cig.  

Mae maint y sampl yn gymharol fach ar 10 mewn cymhariaeth â 9 anifail. Er mwyn llunio rhagor o gasgliadau o ran effaith porthiant ar ansawdd cig byddai’n ofynnol cael set data fwy. 
 

Atodiad 1:

 

Dogn Tyfwr

Dogn Gorffen

Cynhwysion Wedi eu Dadansoddi:

 

 

Lludw Crai

4.59%

4.70%

Olewau a Brasterau Crai

3.67%

4.51%

Calsiwm

0.53%

0.69%

Sodiwm

0.20%

0.18%

Lysin

1.17%

0.88%

Protein Crai

17.69%

15.86%

Ffibr Crai

4.64%

4.47%

Ffosfforws

0.43%

0.50%

Methionin

0.40%

0.25%

Fitaminau:

 

 

Fitamin A (IU/kg)

6500

8500

Fitamin D3 (IU/kg)

1500

1500

Fitamin E (IU/kg)

30

75

Gwrthocsidyddion:

 

 

Hydrocsitoluen wedi ei bwtyleiddio (mg/kg)

5

5

Elfennau Hybrin:

 

 

Sylffad haearn (II) monohydrad (mg/kg)

100.00

90.00

Ocsid manganîs (II) (mg/kg)

35.00

60.00

Ïodin (Calsiwm iodad, anhydrus) (mg/kg)

2.00

2.00

Seleniwm (Sodiwm selenid) (mg/kg)

0.25

0.25

Copr (II) sylffad pentahydrad (mg/kg)

15.00

15.00

Sinc (Sinc sylffad, monohydrad (mg/kg)

100.00

90.00

Seleniwm (E8 Sodiwm selenid)

0.25

 

Seleniwm (Hydrocsi analog o Selenomed)

 

0.08