Anna Bowen, The Andersons Centre

Er bod Anna wedi'i lleoli yng Ngheredigion, mae hi'n siaradwr Cymraeg sy'n gallu teithio ar draws Cymru i hwyluso cyfarfodydd teuluol ar olyniaeth. Mae Anna wedi bod yn gweithio yn y sector amaeth ers dros 16 mlynedd, ac mae ganddi brofiad blaenorol o hwyluso, yn enwedig grwpiau trafod ffermio. Mae ganddi hefyd brofiad mewn cynllunio olyniaeth deuluol, sy'n gysylltiedig â gwybodaeth gref o'r sector ffermio amaethyddol.