Arbrawf ar dechnoleg olrhain a monitro da byw

Nod y prosiect hwn yw mynd i’r afael â lladradau da byw drwy brofi offer ar gyfer ffermwyr, gan amrywio o atebion unigol i systemau atal a rhybuddio hybrid. Bydd yn canfod ac yn defnyddio technolegau nodi ac olrhain priodol, cynnwys ffermwyr Cymru yn yr arbrofion, a chydlynu mewnbynnau gan wahanol randdeiliaid gan gynnwys yr heddlu, darparwyr technoleg, a sefydliadau amaethyddol. Y nod yw lleihau colledion da byw, atal nifer yr ymdrechion i ladrata yn y dyfodol, a darparu adnoddau i wella sefydlogrwydd a lles meddyliol busnesau fferm sy’n cael eu heffeithio gan ladrata, gan felly gynyddu effeithlonrwydd a phroffidioldeb ffermydd.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel