Ben Lewis

Drefach, Llanybydder, Ceredigion

Mae Ben Lewis yn dod at ddiwedd ei astudiaethau ym Mhrifysgol Harper Adams, ac mae hefyd yn gyfrifol am fferm ei ddiweddar daid yng Ngorllewin Cymru, ac mae’n gobeithio ei rheoli'n llawn amser ar ôl cwblhau ei astudiaethau.

Mae Ben yn ffermwr ifanc brwdfrydig sy'n poeni'n fawr am ddyfodol amaethyddiaeth.

Yn dilyn marwolaeth ei daid, cymerodd Ben gyfrifoldeb am y fferm a bu’n rheoli diadell o 250 o ddefaid miwl Cymreig. Gan leihau gofynion llafur er mwyn canolbwyntio ar ei astudiaethau, lleihaodd Ben faint y ddiadell i 60 o ddefaid. Nawr, wrth ei fod yn agosáu at raddio, mae’n bwriadu cynyddu’r ddiadell i’w raddfa wreiddiol.

Yn ystod ei leoliad prifysgol cafodd gyfle i weithio gyda gwartheg ac roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn magu lloi. Felly, mae'n gobeithio ymgorffori menter magu lloi yn y busnes gartref.

Mae hefyd yn gobeithio adeiladu uned besgi bîff a fyddai’n cyflenwi gwartheg drwy gydol y flwyddyn ac yn y pen draw bydd yn gwella llif arian a gwydnwch y busnes yn gyffredinol.