Dylan Jones
Mallwyd, Machynlleth, Powys
Mae Dylan Jones yn fab fferm brwdfrydig a gweithgar sydd wedi sefydlu busnes lletygarwch mewn arddull Tai Hobit ar y fferm deuluol.
Ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd mewn Amaethyddiaeth a Rheolaeth Cefn Gwlad, penderfynodd Dylan ddychwelyd i’r fferm deuluol, sy’n cadw gwartheg a defaid. Bu’n llwyddiannus yn ennill ei denantiaeth ffermio ei hun. Yn ogystal â hyn gweithiodd ar fferm gyfagos yn rhan amser ac yn 2023 daeth y cyfle i rentu’r fferm honno hefyd, gan ehangu ei fusnes ymhellach.
Yn 2021 penderfynodd y teulu arallgyfeirio a sefydlu busnes lletygarwch mewn arddull Tai Hobit. Mae’r busnes wedi bod yn llwyddiannus iawn ac wedi ennill gwobr Sykes Holiday Cottages am y llety gwyliau gorau drwy’r DU ac Iwerddon ar gyfer 2022[1] .
Yn dad i dri, prif amcan Dylan yw gwneud yn siwr bod dyfodol iddynt ar y fferm. Mae wedi gwneud yn siwr bod cyfleusterau ar gael i allu adeiladau mwy o dai hobit pe byddai angen ehangu ymhellach rhyw ddydd.
Y prosiect nesaf sydd ganddo dan sylw yw adeiladu system cynhyrchu trydan ar ffurf hydro, gyda’r gobaith o leihau costau’r fferm a dod ac incwm ychwanegol i mewn.
Credai y bydd yr Academi Amaeth yn rhoi’r cyfle iddo weld gwahanol systemau amaeth fydd yn ei helpu i ddatblygu ei fusnes presennol.
“Bydd y profiad yn gyfle i gwrdd â ffrindiau newydd yn y sector amaeth a chael cyfle i rannu syniadau a dysgu ganddynt.”