Richard Lewis

Llandegla, Wrecsam

Mae Richard wedi dychwelyd yn ddiweddar i weithio ar fferm laeth a defaid ei deulu ger Llanfyllin ar ôl ymgymryd ag amrywiaeth o rolau yn y diwydiant i ennill profiad, wrth iddo aros yn eiddgar am ei gyfle i gymryd y busnes fferm drosodd. Ar ôl graddio o Brifysgol Reading, bu iddo feithrin sgiliau a phrofiad ymarferol yn gweithio ar uned laeth â 800 o wartheg yn Seland Newydd. Dilynwyd hyn gan amrywiaeth o rolau, o weithio i fusnes ymgynghorol amaethyddol ac fel rheolwr buches yn sefydlu uned laeth newydd a datblygu cadwyn gyflenwi Cymru o gig eidion Wagyu ar gyfer cynllun Warrendale.

Mae Richard hefyd wedi sefydlu ei fusnes ei hun, Richard Lewis Agri Design, sy’n cynhyrchu mapiau fferm manwl at ddibenion rheoli fferm, dylunio adeiladau, cynlluniau newydd ar gyfer parlyrau yn ogystal â chyfrifiadau slyri a dylunio gosodiadau isadeiledd storio.

Mae Richard yn awyddus i wella effeithlonrwydd ar draws y systemau llaeth a defaid. Mae hefyd yn teimlo bod lleoliad y fferm yn berffaith ar gyfer cyfleoedd arallgyfeirio ac mae'n awyddus i archwilio cyfleoedd ar gyfer twristiaeth.

Y tu hwnt i ffermio, mae Richard yn ganwr brwd ac yn aelod o Gantorion Gogledd Cymru a chôr Dyffryn Clwyd.

Mae Richard yn gobeithio cael syniadau a fydd o gymorth i fusnes y fferm yn ogystal â’i fenter bersonol drwy’r Academi Amaeth.