Alaw Medi Morgan

Caernarfon, Gwynedd

Mae Alaw Medi Morgan yn byw ar fferm bîff  ychydig y tu allan i Gaernarfon. Mae Alaw wedi bod yn ymwneud â phob agwedd ar fywyd fferm o oedran ifanc, gan weithio ochr yn ochr â’i rhieni gyda’r fuches o wartheg Limousin ac, am gyfnod, diadell o ddefaid Blue Texel.

Mae Alaw yn aelod gweithgar o CFfI Caernarfon. Trwy’r clwb, mae Alaw yn cymryd rhan mewn cystadlaethau barnu stoc a siarad cyhoeddus yn rheolaidd, gan ennill cydnabyddiaeth ar lefel sirol a hyd yn oed yn cynrychioli Eryri ar Faes y Sioe Frenhinol.

Yn y pen draw, hoffai Alaw ddod yn filfeddyg. I osod y sylfeini ar gyfer hyn, mae Alaw wedi dewis astudio Lefel A Bioleg, Cemeg, a Mathemateg ac mae wedi dechrau prosiect ymchwil ar effeithlonrwydd profion TB mewn gwartheg. Mae Alaw hefyd wedi bod yn brysur yn cael profiad gwaith yn ei milfeddygfa lleol.

Yn y 10-15 mlynedd nesaf, mae Alaw yn gobeithio cael swydd mewn milfeddygfa leol wrth barhau i weithio ochr yn ochr â'i thad ar y fferm deuluol hefyd. Mae hi’n gweld Academi yr Ifanc fel cyfle gwerthfawr i ennill profiad ar wahanol systemau fferm ledled Cymru a thu hwnt.

Ffaith ddiddorol Alaw yw iddi ennill cystadleuaeth barnu ceffylau Cenedlaethol un tro er nad oedd erioed wedi berchen ar geffyl!