Cassi Wyn Jones
Porthmadog, Gwynedd
Mae Cassi Wyn Jones yn ei hail flwyddyn yn astudio amaethyddiaeth yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Glynllifon ar hyn o bryd, gan gyfuno ei hastudiaethau â gweithio ar fferm bîff a defaid gerllaw, a chadw ei stoc ei hun ar y fferm deuluol. Mae Cassi yn awyddus i gasglu cymaint o brofiad â phosib ac felly mae’n helpu gyda godro ar fferm gyfagos arall o bryd i’w gilydd, ac mae hefyd yn lapio gwlân ar gyfer contractwyr cneifio lleol yn ystod y tymor cneifio.
Mae Cassi yn bwriadu treulio’r ychydig flynyddoedd nesaf yn gweithio ar ffermydd ar draws y byd, yn lapio gwlân yn bennaf. Mae hi'n bwriadu ymweld â Seland Newydd, Awstralia a Norwy.
Pan fydd Cassi yn dychwelyd adref, mae'n gobeithio cael swydd yn gweithio yn y diwydiant amaethyddol yng Nghymru cyn dychwelyd i redeg y fferm deuluol. Mae ei gweledigaeth ar gyfer y fferm yn cynnwys ehangu ac arallgyfeirio’r busnes drwy werthu wyau, blodau, a bocsys cig oen/cig eidion Cymreig.
Mae Cassi yn teimlo y bydd Academi yr Ifanc yn gyfle gwerthfawr i ddysgu ac i helpu i ddatblygu syniadau a fydd yn arwain at ei datblygiad personol ei hun, yn ogystal â datblygiad y fferm deuluol.”
Dywed Cassi mai ei dymuniad pennaf mewn bywyd yw cael y cyfle i brofi “fy mod i, fel merch, sydd heb dyfu i fyny ar fferm, yn gallu bod yn llwyddiannus yn y diwydiant hwn”.