Lisa Eurgain Jenkins

Llanybydder, Ceredigion

Mae Lisa, o Gwmsychpant, Llanybydder, yn ffermwr o’r bedwaredd genhedlaeth sy’n gweithio ar fferm bîff, defaid a llaeth y teulu ar hyn o bryd, yn ogystal â gweithio’n rhan amser ar fferm laeth arall gyfagos, ar ôl gorffen ei hastudiaethau yng Ngholeg Sir Gâr y llynedd, lle cafodd ragoriaeth yn y diploma estynedig mewn Amaethyddiaeth.

Mae Lisa yn aelod gweithgar o CFfI Pontsiân, ac mae’n mwynhau siarad cyhoeddus, cystadlaethau Eisteddfod, a barnu stoc. Fe wnaeth hyd yn oed gynrychioli Cymru yn Sioe fawreddog Swydd Efrog 2023.

Gan mai hi yw’r bedwaredd genhedlaeth i ffermio’r fferm deuluol, mae gan Lisa ddiddordeb arbennig yn hirhoedledd a chynaliadwyedd hirdymor y fferm, ac mae’n awyddus i ddatblygu ffyrdd o sicrhau dyfodol y fferm. Gyda hyn mewn golwg, mae Lisa’n awyddus i fuddsoddi yn isadeiledd y fferm, addasu i dechnolegau newydd a bod yn fwy ystyriol o ôl troed carbon a chynhyrchiant y fferm wrth gadw lles anifeiliaid yn flaenoriaeth bob amser.

Mae Lisa’n gyffrous i gysylltu â ffermwyr ifanc Cymreig o’r un anian i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r diwydiant, yn ogystal â dysgu mwy am systemau ffermio gwahanol ar draws y wlad a thu hwnt.

Nid yw sgiliau Lisa yn gyfyngedig i fuarth y fferm; roedd yn anrhydedd ganddi i gael ei gwahodd i fod yn sylwebydd gwadd ochr yn ochr ag Ifan Jones Evans ar ddarllediadau S4C o’r Ffair Aeaf y llynedd.