Anna Bowen, The Anderson Centre
Cafodd Anna ei magu ar fferm laeth yn Sir Gaerfyrddin a bu iddi astudio Rheolaeth Ryngwladol Ceffylau ac Amaethyddol yn y Brifysgol Amaethyddol Frenhinol, ac yna bu iddi gwblhau gradd Meistr mewn Amaethyddiaeth Gynaliadwy a Sicrwydd Bwyd. Mae hi ar hyn o bryd yn dilyn tystysgrif ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Nuffield iddi yn 2021, ble bu'n edrych ar opsiynau ar gyfer gwella moeseg ffermio llaeth, gan ganolbwyntio ar opsiynau ar gyfer bîff o wartheg llaeth, dichonoldeb llaetha cyswllt rhwng lloi a buwch, a gwersi ar draws y diwydiant mewn trwydded gymdeithasol rasio ceffylau. Ym mis Tachwedd 2023, bydd Anna'n cyflwyno ei chanfyddiadau yng Nghynadledd Blynyddol Nuffield. Mae ei hysgoloriaeth yn cael ei noddi gan Ymddiriedolaeth Elusennol Elizabeth Creake.
Mae Anna bellach yn byw yng Ngheredigion lle mae hi'n ffermio buches o 300 o wartheg godro sy'n lloia mewn bloc yn y gwanwyn gyda'i phartner. Pan nad yw hi ar y fferm, mae Anna'n gweithio'n llawn amser fel ymgynghorydd busnes fferm i The Andersons Centre ac mae'n awdur llawrydd ac yn sgoriwr symudedd annibynnol.