Huw Tudor, Oxbury Bank

“Cafodd Huw Tudor ei fagu ar fferm bîff a defaid y teulu yn Llysun, Llanerfyl a graddiodd o Brifysgol Aberystwyth ar ôl astudio Amaeth gydag Astudiaethau Busnes.

Yn ystod ei yrfa, mae Huw wedi ymgymryd â swyddi gwahanol, o ymgynghorydd busnes fferm ADAS i weithio fel un o hwyluswyr gwreiddiol Agrisgop gyda Cyswllt Ffermio. Yn ddiweddarach symudodd i faes cyllid amaethyddol gan weithio fel rheolwr amaethyddol i Fanc Barclays, a ddilynodd i rôl debyg gyda HSBC yn y Canolbarth. Ei rôl bresennol, y mae wedi bod ynddi ers 2021, yw uwch reolwr amaethyddol i Gymru gyda Banc Oxbury.

Mae Huw wedi bod yn ymwneud â sawl prosiect arallgyfeirio ac mae wedi cynorthwyo llawer o brosiectau arallgyfeirio newydd ac arloesol dros y blynyddoedd, gan helpu i ennill cyllid i gwsmeriaid ym myd amaeth i’w galluogi i dyfu eu busnes yn llwyddiannus. Mae hyn yn cynnwys ynni adnewyddadwy, trosi i fusnes llaeth, trosi i fusnes dofednod a chyfleoedd twristiaeth."