Mathew plumb

Lleoliad: Y Fenni

Cyrchfan: Lloegr 

Pwnc: Coedwigaeth gynaliadwy ac atebion ar gyfer dal a storio carbon 

Mathew

CRYNODEB GWEITHREDOL

Cysylltu ffermydd a choetiroedd yn cael ei weld yn allweddol i atal cwymp ecosystemau

Mae gosod ‘coridorau gwyrdd’ i ganiatáu cysylltedd rhwng ffermydd a choetiroedd yn cael ei awgrymu fel dull hanfodol o liniaru yn erbyn newid yn yr hinsawdd a dymchweliad ecosystemau.

Mae Mathew Plumb, sydd ag uned coetir cymysg pum hectar yn Sir Fynwy, yn dweud fod y system hon o reoli tir yn bwysig ar gyfer dyfodol bywyd ar y Ddaear.

Roedd yn un o ganfyddiadau Mr Brown ar ôl cychwyn ar astudiaeth Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio pan ymchwiliodd i goedwigaeth gynaliadwy a datrysiadau ar gyfer dal a storio carbon.

Aeth yr ymchwil hwn ag ef i Knepp, ystâd yng Ngorllewin Sussex a oedd unwaith yn cael ei ffermio’n ddwys ond ers 2001 mae wedi’i neilltuo i brosiect ail-wylltio arloesol.

“Yn ddiamwys, y wers bwysicaf i mi ei chymryd oddi wrth Knepp yw faint sydd angen i ni yrru a chael nwyddau cyhoeddus o dan reolaeth tir cynaliadwy,” meddai Mr Plumb.

Er mwyn gwneud hyn, mae cysylltu’r dirwedd trwy gysylltu ffermydd ac unedau coetir yn hanfodol, mae’n awgrymu.

Mae angen cynyddu hygyrchedd hefyd, meddai Mr Plumb.

“Mae dod â’r cyhoedd i’m huned, gan ddarparu llety, lluniaeth, profiadau ac addysg sy’n deillio o welliant mewn gwasanaethau ecolegol yn dda i ecoleg ac yn dda i bobl,” meddai.

Ers ei astudiaeth, mae wedi agor maes gwersylla pedwar llain mewn un rhan o’i goetir, pob un yn cael ei wasanaethu gan doiled compost gyda chawod dŵr glaw. “Dyma’r buddsoddiad gwerth am arian mwyaf y gallaf ei wneud ar hyn o bryd, ac mae’n gweithio’n dda iawn yn Knepp,” meddai Mr Plumb.

Mae cynnig cwrs golosg a phrysgoed a gwerthu boncyffion, siarcol, cynhwysion brecwast, a phryd gyda’r nos i’w gludo i ffwrdd wedi ychwanegu gwerth.

Mae Mr Plumb yn mynegi pryder nad yw unedau fferm yng Nghymru, yn ei farn ef, yn barod i drosglwyddo i reolaeth tir cynaliadwy.

Er mwyn ysgogi’r newid, mae’n credu mai systemau ymyrraeth isel yw’r dyfodol.

Ac felly hefyd lles tirwedd, “dim ond arferion cytûn sy’n gynaliadwy,” meddai.

 

ADRODDIAD CYFNEWIDFA RHEOLAETH: