Cyfnewidfa Rheolaeth

*Mae'r cyfnod ymgeisio wedi cau.*

 

Cyfle i chi…

  • ymweld â fferm neu fusnes coedwigaeth o fewn yr UE a/neu groesawu rheolwr fferm neu reolwr coedwigaeth profiadol i’ch daliad
  • ehangu eich dealltwriaeth a dysgu ffyrdd newydd o weithio 

MAE GWERTH HYD AT £2,500 O GYMHORTHDAL AR GAEL!

 


Rydym eisiau clywed oddi wrthych os ydych yn awyddus i...

  • ddysgu dulliau newydd a gwell o weithio yn y sector ffermio neu goedwigaeth?
  • ddarganfod mwy am agweddau gwahanol tuag at reolaeth busnes?
  • ehangu eich gwybodaeth, gallu technegol a’ch arbenigedd rheoli i roi cyfleoedd datblygu newydd ar lefel bersonol a busnes?

Byddai diddordeb gennych mewn...

  • cymryd rhan mewn ymweliad â busnesau fferm neu goedwigaeth eraill o fewn yr UE, a/neu
  • croesawu rheolwr fferm neu goedwigaeth profiadol i’ch daliad?
  • rhannu canfyddiadau eich profiad dysgu gyda’r diwydiant ehangach trwy Cyswllt Ffermio?

Cliciwch yma i ddarllen adroddiadau Cyfnewidfa Rheolaeth wedi'u cwblhau

Cyfnewidfa Rheolaeth | Management Exchange Fferm Newton Farm

Sut allwch chi elwa

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn datblygu llawer o wybodaeth a fydd yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu eu dealltwriaeth dechnegol a’u gallu busnes, yn ogystal â gwella elfen gystadleuol a hyfywedd eu busnesau.

Nodau’r rhaglen hon yw…

  • galluogi’r ddwy ochr i adnabod cyfleoedd datblygu i gefnogi dysgu ar lefel bersonol a busnes
  • hwyluso’r broses o drosglwyddo gwybodaeth a’i roi ar waith er mwyn sicrhau arfer gorau arloesol
  • archwilio agweddau arloesol tuag ar reolaeth fferm neu goedwigaeth a allai gynorthwyo i adfer, cadw neu wella ecosystemau
  • hyrwyddo effeithlonrwydd adnoddau a chefnogi’r symudiad tuag at economi carbon isel sy'n gallu gwrthsefyll hinsawdd yn y sectorau amaeth, bwyd a choedwigaeth
  • meithrin enciliad carbon mewn amaethyddiaeth a choedwigaeth

*Mae'r cyfnod ymgeisio ar gyfer rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth ar gau.*