Telerau ac Amodau - Cyfnewidfa Rheolaeth
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu ymweld â busnesau fferm (neu goedwigaeth) eraill o fewn yr UE am gyfnod heb fod yn hwy na chwe wythnos fel arfer, a/neu fel arall, byddant yn croesawu rheolwr fferm neu goedwigaeth profiadol sydd wedi’i hyfforddi’n briodol i ymweld â’u daliad.
Anogir cyfnewidfeydd dwy ffordd, ond mae cyfnewidfa un ffordd hefyd yn dderbyniol.
Mae’r gyfnewidfa yn ariannu teithiau ar sail unigol (ni ellir talu am gostau mwy nac un person)
Beth sy’n gallu cael ei ariannu?
Mae’r gyfradd ariannu ar gyfer y Gyfnewidfa Rheolaeth yn 100% hyd at uchafswm o £2,500 i bob cyfnewidfa.
Gellir adhawlio costau ar gyfer y canlynol:
- Llety (gellir ei ddefnyddio i dalu am lety hanfodol yn ystod taith bell yn ogystal â chostau bychain i dalu am lety sylfaenol fel y darperir gan y ffermwr UE sy’n cynnig llety.
- Teithio Ymhell
- Llafur hanfodol i gymryd eich lle yn ystod cyfnod y gyfnewidfa
- Arbenigedd angenrheidiol yn ystod y cyfnod y gyfnewidfa
- Llogi offer arbenigol neu wasanaethau dadansoddol arbenigol sy’n cael eu hystyried yn hanfodol ar gyfer cyfnod y gyfnewidfa
Gellir adhawlio’r costau uchod yn ystod yr elfennau ymweld yn ogystal â lletya. Fodd bynnag, mewn achosion lle mae cyfnewidfa dwy ffordd yn digwydd, disgwylir i holl gostau llety fod yn gyfraniad trwy garedigrwydd y ddwy ochr.
Ym mhob achos, mae’n rhaid egluro a chyfiawnhau pob cost yn llawn wrth ymgeisio, ac ni ellir mynd dros uchafswm y cyllid sydd ar gael. Ceidw Cyswllt Ffermio'r hawl i wrthod cyllid ar gyfer elfennau unigol ceisiadau llwyddiannus os na ellir cyfiawnhau'r costau.
Os oes angen i gyfranogwyr gyflogi llafur ychwanegol i'w galluogi i adael y busnes, gellir hawlio hyd at £200 yr wythnos i dalu'r costau ychwanegol hyn am gyfnod nad yw'n hwy na hyd y daith gyfnewid.
Ni all cyfanswm costau’r daith gyfnewid fod dros £2500. Bydd pob cost cymwys yn cael eu had-dalu ar ôl cyflwyno derbynebau.
CLICIWCH YMA I DDARLLEN Y CANLLAWIAU TEITHIO A CHYNHALIAETH
Pa wledydd allwch chi ymweld â nhw?
Ni ellir ariannu teithiau cyfnewid i wledydd tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Gellir ariannu teithiau cyfnewid gyda’r aelod wladwriaethau UE canlynol:
AWSTRIA
GWLAD BELG
BWLGARIA
CROATIA
CYPRUS
GWERINIAETH TSIEC
DENMARC
GWERINIAETH ESTONIA
YR ALMAEN
GROEG
FFINDIR
FFRAINC
GWERINIAETH HWNGARI
IWERDDON
YR EIDAL
GWERINIAETH LATFIA
GWERINIAETH LITHWANIA
LWCSEMBWRG
MALTA
YR ISELDIROEDD
GWLAD PWYL
PORTIWGAL
RWMANIA
GWERINIAETH SLOFACIA
GWERINIAETH SLOFENIA
SBAEN
SWEDEN
Y DEYRNAS UNEDIG
Meini prawf cymhwysedd - pwy sy’n gallu ymgeisio?
Mae’r rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth ar gael i fusnesau fferm neu goedwigaeth cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio.
Mae hynny’n cynnwys:
- Perchnogion neu bartneriaid busnes;
- Aelodau agos o’r teulu megis meibion, merched, priod a/neu rai sy'n cydfyw;
- Gweithwyr cyflogedig (h.y. unigolion ar PAYE);
- Newydd-ddyfodiaid sy'n dymuno cyrraedd y gofynion 3ha o fewn cyfnod 3 mlynedd
Bydd angen i fusnesau ffermio sydd wedi cofrestru feddu ar y canlynol:
- 3ha o dir cofrestredig yng Nghymru
- Rhif Cyfeirnod y Cwsmer (CRN)
- Rhif Daliad (CPH) Cymreig
Bydd angen i fusnesau coedwigaeth feddu ar y canlynol:
- 0.5 o goedwig/goetir cymwys wedi’i gofrestru yng Nghymru
- Rhif Cyfeirnod y Cwsmer (CRN)
Bydd systemau arbenigol neu newydd ddyfodiad o dan y trothwy 3 ha yn cael eu beirniadu ar sail unigol.
Dim ond un cais llwyddiannus i bob unigolyn cymwys a ganiateir drwy gydol oes Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth Cyswllt Ffermio. Nid oes cyfyngiad ar nifer y buddiolwyr i bob busnes sy'n gallu ymgeisio.
Yr oedran isaf ar gyfer ymgeiswyr yw 18 mlwydd oed ar ddyddiad y cais.
Sut i wneud cais
*Mae'r cyfnod ymgeisio ar gyfer rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth 2022 wedi cau.*
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Heledd Dancer, Rheolwr Datblygu a Mentora ar 01970 600200 neu e-bostiwch heledd.dancer@menterabusnes.co.uk
Cyfathrebu - rhannu negeseuon allweddol
Bydd disgwyl i gyfranogwyr ddarparu blogiau a/neu ddiweddariadau Facebook/Twitter yn ystod eu taith gyfnewid, yn adrodd yn ôl ar eu profiad dysgu, cysylltiadau i fusnesau neu weithgareddau newydd y maent wedi eu canfod.
Wrth ymgeisio, bydd angen i ymgeiswyr amlinellu eu bwriad ar gyfer rhannu eu canfyddiadau.
O fewn 30 diwrnod ar ôl dychwelyd o’r Gyfnewidfa neu erbyn 31 Gorffennaf, pa bynnag un sydd gyntaf, disgwylir i’r unigolyn gynhyrchu adroddiad sy’n amlinellu eu gweithgareddau, yr wybodaeth a ddysgwyd a chanlyniadau’r ymweliad.
Bydd angen i’r holl wybodaeth a rennir gael ei wneud trwy sianeli cyfathrebu a rhaglen digwyddiadau arferol Cyswllt Ffermio. .
Bydd yr holl adroddiadau cyfnewid yn cael eu cyhoeddi ar wefan Cyswllt Ffermio: www.llyw.cymru/cyswlltffermio
COVID-19
Mae'n rhaid i bob ymgeisydd sy'n ystyried teithio dramor feddwl am eu hamgylchiadau personol a theuluol eu hunain a'r ffordd orau o gadw eu hunain yn ddiogel os ydynt yn penderfynu teithio dramor eleni. Rydym yn annog pawb sy’n agored i niwed i gymryd rhagofalon ychwanegol i aros yn ddiogel. Mae’r canllawiau i unigolion sy’n bwriadu teithio dramor yn cynnwys:
- Edrychwch ar wefan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu i weld y gofynion mynediad penodol ar gyfer y wlad rydych chi'n teithio iddi - mae'r rhain yn cynnwys brechlynnau COVID-19 a gofynion profi.
- Gwiriwch sefyllfa'r coronafeirws yn y wlad yr ydych yn teithio iddi cyn i chi deithio.
- Byddwch yn ddiogel tra byddwch i ffwrdd drwy ddilyn yr un mesurau sy'n helpu i'ch cadw'n ddiogel tra byddwch gartref.
- Gwiriwch a dilynwch y gofynion mynediad ar gyfer dychwelyd adref i'r DU.
- Unwaith y byddwch yn dychwelyd adref, ystyriwch gymryd rhai rhagofalon ychwanegol i'ch cadw chi, eich ffrindiau a'ch teulu yn ddiogel, gan gynnwys cymryd prawf llif cyn ymweld ag aelodau bregus o'r teulu; gofodwch ymweliadau a digwyddiadau cymdeithasol ac yna os ydych yn profi symptomau coronafeirws, ynysu a sefyll prawf.
- Bydd hefyd angen cwblhau asesiadau risg cyn unrhyw ymweliad a chânt eu darparu ar ddyddiad cymeradwyo eich cais.