CRYNODEB GWEITHREDOL
Astudiaeth Cyswllt Ffermio yn llywio symudiad ffermwr defaid i amaethyddiaeth adfywiol
Mae ffermwr defaid yn cyflwyno newidiadau ysgubol i’w system drwy sefydlu dull adfywiol o ffermio.
Roedd Will Sawday wedi bod â diddordeb mewn modelau ffermio cost isel a defnyddio glaswellt wedi’i bori cyn cychwyn ar ei astudiaeth Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio.
“Fe wnaeth y cysyniad ffermio adfywiol ddal fy sylw ac roedd yn ymddangos fel dilyniant naturiol i’n busnes,” meddai Mr Sawday.
Mae’r busnes hwnnw’n troi o amgylch diadell o 1,400 o Romneys Seland Newydd, sy’n cael ei redeg ar 227 hectar ar system mewnbwn isel, porthiant yn unig.
Dywedodd Mr Sawday fod ei astudiaeth wedi galluogi “sgwrs ffantastig gyda rhai pobl ysbrydoledig sydd wedi dangos i mi yn y pen draw sut y gall amaethyddiaeth adfywiol ddeillio o fusnes fferm llewyrchus.”
“Mae wir wedi gwneud i mi gwestiynu rhai o’r pethau rydym ni’n eu gwneud ar ein fferm, a sut gall y pwnc hwn ddod o hyd i atebion i rai o’n heriau,” meddai.
Mae eisoes yn rhoi rhai o’r syniadau ar brawf, gan gynnwys gweithredu sied ieir symudol y mae’n ei symud o gwmpas y fferm, gan ddilyn patrwm pori ei ddefaid, i gynhyrchu wyau wedi’u codi ar borfa i’w gwerthu.
“Fe aethon ni at gwpl o siopau, bwytai a phobyddion, ac roedd yn llwyddiant ar unwaith,” meddai.
Bu newid hefyd i’r ffordd y mae cnydau yn cael eu sefydlu.
Yn seiliedig ar gyngor dau ffermwr y bu’n ymweld â nhw yn ystod ei astudiaeth, mae Mr Sawday bellach yn defnyddio glyffosad hanner cyfradd wedi’i gymysgu ag asid ffwlfig i wella effeithlonrwydd y mewnbwn hwn ar gyfraddau isel ond gan glustogi rhag niwed posibl i ficrobioleg pridd.
Yna mae’n taenu tail ieir ac yn drilio cymysgedd o erfin a chêl yn uniongyrchol.
Roedd y canlyniadau ar y cyfan wedi bod yn dda, meddai, gyda “chwpl o gnydau gwych sydd wedi costio ychydig iawn i ni.”
Ond ychwanegodd: “Mae yna gwpl o rai gwael hefyd, ond rydyn ni’n meddwl ein bod ni’n gwybod pam, a beth allwn ni fod wedi’i wneud i’w gwella. Mae’n sicr yn broses ddysgu, ond yn bendant yn gyfeiriad y dylem fod yn mynd iddo”
Wrth iddo edrych i’r dyfodol, ar frig rhestr Mr Sawday mae gwella iechyd a gweithrediad y pridd.
“Mae buddion hyn yn ddiddiwedd, yn ariannol ac yn amgylcheddol,” meddai.
“Iechyd pridd sy’n gyrru pob canlyniad ariannol, amgylcheddol a chymdeithasol. Bydd yn ein gwneud neu’n ein torri ni.”
Dylid cysylltu’n agos â hyn i feithrin cydnerthedd i ddiogelu’r busnes rhag amrywiadau yn y farchnad a hinsawdd, ychwanegodd.
“Rwy’n meddwl y byddai lleihau costau a gwelliannau mewn iechyd planhigion ac anifeiliaid yn ganlyniadau sy’n caniatáu i hyn ddigwydd.”
Wrth symud ymlaen, nod Mr Sawday yw dileu’r defnydd o wrtaith a chemegau, gan gynnwys anthelmintigau, rhoi’r gorau i drin y pridd ac annog amrywiaeth i borfeydd, trwy gyflwyno hadau a rheoli glaswelltir.
“Mae porfeydd parhaol rhywogaethau cymysg yn rhagorol. Nid yn unig y maent yn fwy gwydn na gwyndwn rhygwellt ond gallant fod yr un mor gynhyrchiol a chynnig gwell maeth i anifeiliaid,” meddai Mr Sawday.
Bydd yn mabwysiadu system o bori glaswellt uchel hefyd.
“Mae manteision gadael i laswellt aeddfedu yn ddiymwad ond gallai rheoli diadell broffidiol o ddefaid arno fod yn anodd, yn fy meddwl i. Y naill ffordd neu’r llall rhaid rhoi cynnig arno,” meddai.
Bydd hefyd yn cyflwyno gwartheg gan y byddai’r rhain, yn ei farn ef, yn “ased enfawr’ i borfeydd ac yn helpu i ddatblygu iechyd pridd a phorfa.
“Ymhellach, efallai y byddan nhw’n helpu i ddefnyddio’r holl laswellt aeddfed y byddaf yn ei dyfu,” meddai Mr Sawday.
Mae hefyd yn bwriadu cyflwyno mwy o goed cae. - “cam mawr i gael rhywfaint o wydnwch yn ôl i’r fferm” - a thocio’r rhain i gynhyrchu porthiant coed a biomas.
Dywedodd Mr Sawday ei fod wedi dysgu bod modd cynnal busnesau da byw proffidiol o dan system adfywio.
Yn y rhan fwyaf o achosion gall cynhyrchiant fod yn llai na systemau mewnbwn uchel, allbwn uchel traddodiadol, awgrymodd.
“Gyda phrisiau mewnbwn yn cynyddu, dylwn feddwl y bydd mwy o bobl yn troi at y mathau hyn o systemau mewnbwn is wrth i systemau mewnbwn uchel, allbwn uchel ddod yn fwyfwy cyfnewidiol.
“Nid wyf dan unrhyw gamargraff nod oes llawer sy’n newydd am ffermio adfywio, mae’r rhan fwyaf o’r cysyniadau mor hen â ffermio ei hun.”
Ond mae ffermwyr nawr yn gorfod ailddysgu’r sgiliau hynny.
“Yn ogystal â’r manteision ariannol ac amgylcheddol, mae’n ddiddorol bod llawer o waith yn cael ei wneud yn cymharu iechyd y pridd ag iechyd dynol ac nid yw’n syndod pan fyddwch chi’n tyfu bwyd mewn pridd iach, mae ganddo ddwysedd maetholion uwch a bydd yn cynnig gwell iechyd i’r defnyddiwr,” meddai Mr Sawday.
“Pan fyddwch chi’n ychwanegu’r holl elfennau hyn at ei gilydd, ni fyddwn yn synnu pe bai’r cyhoedd a’r llywodraeth yn dechrau gofyn yn fuan i’w bwyd gael ei dyfu o dan systemau ffermio adfywiol.”
ADRODDIAD CYFNEWIDFA RHEOLAETH: