Kathryn Tarr

Lleoliad: Llanfair-ym-Muallt

Cyrchfan: Y Deyrnas Unedig

Pwnc: Edrych ar hyfywedd blychau cig eidion

Kathryn Tarr

CRYNODEB GWEITHREDOL

Ffermwr cig eidion yn lansio busnes gwerthu cig yn uniongyrchol ar ôl astudiaeth a ariennir gan Cyswllt Ffermio

Mae cynhyrchydd cig eidion sugno sydd wedi sefydlu busnes gwerthu uniongyrchol ar gyfer cig a gynhyrchir gan fuches Red Ruby Devon ei theulu yn dweud bod angen i ffermwyr sy’n mabwysiadu technegau pori i dyfu gwartheg yn araf gael eu cymell gyda grantiau sy’n adlewyrchu buddion y dull hwn.

Dechreuodd Kathryn Tarr astudiaeth rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio i helpu i lywio ei huchelgais i sefydlu system cig eidion bocs ar gyfer marchnata cig eidion o’r fuches frîd brodorol ar y fferm deuluol ger Llanfair ym Muallt.

Ymwelodd â dwy fferm sy’n cynhyrchu cig eidion Red Ruby Devon o wahanol systemau ac sy’n gwerthu’r mwyafrif o’r cig yn uniongyrchol i gwsmeriaid trwy focsys.

“Fel fferm sy’n fwy cyfarwydd â gwerthu gwartheg masnachol fel rhai stôr, roedd yn bwysig i mi ddarganfod a allai gwerthu’r brîd traddodiadol Ruby Red Devons fel bocsys cig eidion gystadlu’n ariannol â’r fasnach stôr,” meddai Ms Tarr, sydd hefyd yn ffermio 750 o famogiaid ar 162 hectar o laswelltir a thir mynydd.

“Gallwn werthu buwch stôr Charolais croes dda yn 18 mis oed am tua £1,200. Byddai angen i mi gael pris uwch sy’n adlewyrchu’r amser ychwanegol a’r costau a gymerwyd os byddaf yn cymryd red Ruby i orffen rhwng 24 a 30 mis.”

Cadarnhaodd yr astudiaeth, er mwyn adlewyrchu costau ychwanegol lladd, cigydd, pecynnu a marchnata, fod angen cynnydd o o leiaf £500 ar werth marchnad yr anifail wedi’i besgi.

Ers ei hastudiaeth, mae Ms Tarr wedi sefydlu ei busnes ac wedi buddsoddi mewn gwefan i farchnata’r blychau - argymhellodd un o’r busnesau y bu’n ymweld ag ef ar gyfer ei hastudiaeth, y Northmoor Meat Company, mai dyma’r ffordd orau o gyrraedd mwy o gwsmeriaid.

Canolbwyntiodd yr ymweliad hefyd ar sut y dylid magu ei gwartheg.

“Gwnaeth y sefydliad yn Northmoor Meat argraff fawr arna’i a hoffwn feddwl am besgi fy nghig eidion rywbryd yn y dyfodol ar laswellt,” meddai.

“Mae gen i ddiddordeb mewn pori cylchdro ac rwy’n rhoi’r seilwaith yn y fferm er mwyn ei ddefnyddio, fel gwella’r ffensys a meddwl am argaeledd dŵr.”

Roedd Ms Tarr hefyd wedi cofrestru ar gwrs Meistr ar Borfa Cyswllt Ffermio i ddysgu mwy am dechnegau pori cylchdro.

Dywedodd fod rhesymau da pam y dylid rhoi cymhellion i ffermwyr cig eidion sy’n pesgi eu gwartheg yn llai dwys, i wneud iawn am y gost o’u gwerthu fel gwartheg stôr yn unig. 

“Mae angen grantiau fel bod ffermwyr yn gallu defnyddio technegau fel pori cylchdro, ac mae angen cydnabod eu cynnyrch terfynol o gig eidion o safon fel gwerth ychwanegol,” meddai.

Rhaid i’r diwydiant hefyd amlygu’r gwahaniaethau rhwng cig eidion o Brydain a chig eidion wedi’i fewnforio i ddefnyddwyr.

“Roedd y ffermydd yr es i iddyn nhw yn dangos safonau lles anifeiliaid uchel a milltiroedd bwyd isel,” meddai.

“Maen nhw’n enghraifft wych o bolisïau amgylcheddol rhagorol a dulliau ffermio traddodiadol yn dod at ei gilydd i greu cynnyrch cig eidion o safon,”

Mae angen i’r defnyddiwr ddeall yn well hefyd a yw’n prynu cig eidion o frîd traddodiadol sy’n tyfu’n araf neu Continental sy’n pesgi’n gyflymach.

“Dylai fod premiwm a ddeellir ynghlwm wrth y cig eidion traddodiadol sy’n tyfu’n araf a dylai’r cyhoedd ddeall y gwahaniaeth rhwng cig eidion sy’n cael ei fwydo ar laswellt a chig eidion sy’n cael ei fwydo ar borfa oherwydd mae’r cyfan yn ddryslyd iawn,” meddai.

“Dylai cig eidion sy’n cael ei fwydo ar borfa, lle mae’r anifail ond yn cael ei fwydo â glaswellt ar hyd ei oes, fod yn fwy o safon aur na’r hyn y bu llawer o sôn amdano am gig eidion organig.”

Credai Ms Tarr hefyd fod angen symudiad tuag at fwyta cig o safon yn hytrach na maint.

“Mae yna lawer o wybodaeth anghywir am y ffordd mae cig eidion o Brydain yn cael ei gynhyrchu ac mae gwartheg Prydeinig yn cymryd y bai dro ar ôl tro am gynhesu byd-eang tra bod pobl yn anghofio’n gyfleus yr holl ffactorau eraill sydd ar waith.

“Mae angen i ffermydd bach werthu eu stori ffermio fel nad yw ffermio yn cael ei bardduo fel y prif gyfrannwr at gynhesu byd-eang a bod y cyhoedd yn gallu gweld yr holl dda y mae ffermwyr yn ei wneud i ofalu am y dirwedd a’r amgylchedd, a’r angerdd sy’n rhan o bob cynnyrch.”

 

ADRODDIAD CYFNEWIDFA RHEOLAETH: