Jamie McCoy

Lleoliad: Castell Newydd Emlyn, Ceredigion

Cyrchfan: Yr Iseldiroedd, Awstria

Pwnc: Clychau gwartheg, clocs a beicio!

Jamie McCoy

Prynodd Jamie, sydd â gradd mewn amaethyddiaeth, a’i phartner fferm gymysg deuluol yng Ngheredigion yn 2011. Yn fenter laeth yn bennaf sy’n lloea mewn bloc o 200, mae’r cwpl entrepreneuraidd hwn wedi sefydlu mentrau arallgyfeirio eraill, er bod gan Jamie swydd lawn amser yn y diwydiant. Maent yn pasteureiddio llaeth sy’n cael ei werthu trwy beiriannau gwerthu; mae ganddynt 250 o famogiaid masnachol; menter casglu pwmpenni eich hun, menter Airbnb lwyddiannus a pheiriant sglodi pren ar raddfa goedwigaeth sy’n cyflenwi biomas. Mae Jamie yn benderfynol o wella proffidioldeb y busnes, tra’n gwella ei etifeddiaeth amgylcheddol a chymunedol.

“Mae angen i ni ychwanegu gwerth at laeth, cig, llysiau, ffibr fel pren a gwlân a chyfleoedd twristiaeth, felly rwy’n anelu at ddysgu mwy am gadwyni cyflenwi byr sy’n gweithredu o giât y fferm, i gadw ar y blaen i’r gromlin Ewropeaidd a chwrdd ag anghenion cyfnewidiol ffermwyr a defnyddwyr.” 

 

CRYNODEB GWEITHREDOL

Cyfleoedd wedi’u nodi i ehangu rôl peiriannau gwerthu mewn gwerthu cynnyrch fferm

Gallai peiriannau gwerthu sy’n stocio amrywiaeth o gynnyrch fferm, nid llaeth yn unig, ddod yn rhan o ddiwydiant siopa Cymru yn y dyfodol.

Yn yr Iseldiroedd ac Awstria, mae’r peiriannau hyn yn cael eu defnyddio’n gyffredin ar gyfer stocio caws, menyn, wyau, iogwrt, selsig Almaeneg a chynhyrchion tebyg i pate yn ogystal â llaeth, yn ôl ymchwil gan ffermwr llaeth o Geredigion, Jamie McCoy.

Fe ymwelodd Ms McCoy, sydd gyda’i phartner Deian Evans yn ddiweddar wedi arallgyfeirio i werthu llaeth ‘Llaeth Gorwel’ wedi’i basteureiddio drwy beiriannau gwerthu yng Nghastellnewydd Emlyn a Chilgerran, â’r gwledydd hyn yn ystod astudiaeth o gadwyni cyflenwi gan Raglen Cyfnewidfa rheolaeth Cyswllt Ffermio.

Darganfu y gallai peiriannau gwerthu gynnig gwasanaeth 24 awr yn y lleoliad cywir – roedd rhentu’r gofod hwnnw’n cynnig dewis llawer rhatach na rhentu siop gyfan.

“Dyma oedd un o’r prif fanteision a drafodwyd gyda llawer o fusnesau yn yr Iseldiroedd ac Awstria, a gwelais achlysuron pan oedd ffermwyr cyfagos yn cynnal peiriannau ei gilydd er mwyn cynyddu’r nifer o linellau cynnyrch sydd ar gael ym mhob man, ac felly dod yn dynfa well ar gyfer cwsmeriaid,” meddai.

"I’r rhai sydd wedi’u lleoli mewn ardaloedd twristiaeth cryf, fe sonion nhw wrth i bobl gyrraedd bythynnod hunanarlwyo yn aml nad ydyn nhw’n cario cyflenwadau gyda nhw, a byddan nhw’n stopio i gael cyflenwadau brecwast neu swper o beiriant gwerthu lleol wrth iddynt gofrestru.”

Caiff peiriannau eu stocio’n briodol i ddarparu ar gyfer hyn.

Bu Ms McCoy hefyd yn ymweld â siopau fferm a sylwodd ar wahaniaethau i’r rhai sy’n gweithredu yng Nghymru – dim ond ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn yr agorodd llawer ohonynt. 

Nid oedd yr oriau cyfyngedig hyn yn effeithio ar werthiannau, yn hytrach yn eu canolbwyntio ar gyfnod byrrach wrth ganiatáu i wastraff stoc gael ei leihau ac i’r busnes weithredu ar lefel staffio is.

Roedd hefyd yn golygu y gallai’r perchnogion fynychu digwyddiadau a ffeiriau.

“Un neges a ddaeth i’r amlwg yn arbennig o gryf yn yr Iseldiroedd oedd cynllunio’ch amser yn ofalus,” meddai Ms McCoy.

Ond ar gyfer ffermwyr sy’n bwriadu arallgyfeirio, mae hi’n awgrymu y dylid sefydlu’r gweithgareddau hyn i gyd-fynd â mentrau presennol yn unig, a bod yn rhaid iddynt ddeillio o sylfaen gref.

“ Mae profiad wedi dangos bod y rhai sy’n cychwyn mewn ymgais i gefnogi busnes sy’n ei chael hi’n anodd yn llai tebygol o lwyddo,” meddai.

Mae heriau gwerthu uniongyrchol y mae hi wedi dod ar eu traws yn ystod arallgyfeirio Fferm Gorwel yn cynnwys dod o hyd i ddeunydd pacio cost-effeithiol sydd ar gael a nodi a chael mynediad at gwsmeriaid.

Roedd yr astudiaeth wedi gadael ystod eang o syniadau iddi i’w datblygu - roedd rhai eisoes wedi’u rhoi ar waith gan gynnwys prynu peiriant gwerthu ail law i gynyddu’r cynnyrch sydd ar gael.

Roedd cynhwysedd yr oergell wedi cynyddu hefyd wrth i’r cyfle godi i ddatblygu sylfaen cwsmeriaid Llaeth Gorwel ymhellach.

Roedd cysylltiadau wedi’u gwneud gyda thri chynhyrchydd bwyd lleol arall i archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithio.

Mae rhai o ganfyddiadau allweddol astudiaeth Ms McCoy yn cynnwys deall ei bod yn dderbyniol codi pris teg am gynnyrch fferm.

Mae hi hefyd yn dod i’r casgliad y gall cadwyni cyflenwi byr fod yn werth chweil i’r cynhyrchydd a’r cwsmer.

Ond mae angen i oriau agor gyd-fynd â’r ymrwymiadau busnes a bywyd.

“Manteisiwch i’r eithaf ar y cwsmeriaid y mae gennych fynediad atynt, a darparwch yn benodol ar gyfer eu hanghenion,” mae hi’n cynghori.

Mae hi hefyd yn credu y gellir manteisio’n well ar y cysylltiadau rhwng y diwydiant twristiaeth ac amaethyddiaeth yn y sector bwyd a diod.

 

ADRODDIAD CYFNEWIDFA RHEOLAETH