Nicola Lewis

Lleoliad: Pontyclun, Rhondda Cynon Taf

Cyrchfan: Iwerddon, Lloegr

Pwnc: Datblygu system coed-borfeydd a rhaglen fferm  

Nicola Lewis

Rhoddodd gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn cynaliadwyedd amgylcheddol gyda daearyddiaeth yr angerdd i Nicola fynd ymlaen i ddiogelu’r amgylchedd gwledig. Am y 15 mlynedd diwethaf, mae wedi gweithio yn y maes adfywio a datblygu gwledig. Ers 2017, mae Nicola a’i gŵr wedi bod yn datblygu’r fferm 165 erw, lle maent yn bridio defaid mynydd Cymreig, Miwl Cymreig a Charollais Cymreig, gan gadw tua 350 o ddefaid ar system bori cylchdro. Mae ganddynt hefyd 15 erw o goetir. Ar ôl cyflawni’r rhan fwyaf o’u nodau busnes cychwynnol, mae Nicola yn barod i ymchwilio i gyfleoedd arallgyfeirio.  

“Rwyf yn awyddus i ddysgu oddi wrth ffermydd sydd wedi sefydlu systemau amaeth-amgylcheddol llwyddiannus a chyfleoedd addysgol ar y fferm, a gweld sut mae datblygu system coed-borfeydd yn arwain at ganlyniadau amgylcheddol, economaidd ac addysgol gwell.”

 

CRYNODEB GWEITHREDOL

Cynhyrchydd cig oen o Gymru yn annog ffermwyr i wneud defnydd da o rwydwaith ffermydd arddangos

Mae cynhyrchydd cig oen o Gymru yn dweud y dylai ffermwyr fanteisio’n llawn ar ymchwil sydd wedi’i wneud ar ffermydd arddangos er mwyn llywio eu penderfyniadau eu hunain ar y fferm.

Dysgodd Nicola Lewis, sydd wedi bod yn ymchwilio i sut mae tir pori coed yn cyfrannu at well canlyniadau amgylcheddol, economaidd ac addysgol, fod ffermydd arddangos yn ffynhonnell ragorol o wybodaeth. 

“Maen nhw’n profi ac yn cymryd risgiau at ddibenion arddangos, gan ganiatáu i ni fynd a’r arfer gorau yn ôl i’n ffermydd ein hunain,” meddai Nicola, y cafodd ei hymchwil ei hariannu gan raglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio.

Roedd un o’i hymweliadau â Fferm Honeydale, fferm arddangos 43 hectar yn y Cotswolds.

“Gan mai fferm arddangos yw hon, rhoddodd gyfle i ni weld arbrofion y system goedwigaeth a deall beth sy’n gweithio a beth sydd ddim. Mae’r fferm yn cymryd risgiau am werth arddangos er mwyn gallu rhannu arfer gorau ag eraill,” meddai Nicola, sy’n ffermio 165 erw gyda’i gŵr ym Mhont-y-clun, Rhondda Cynon Taf, lle maen nhw’n rhedeg 350 o famogiaid magu ac mae ganddyn nhw 15 erw o goetir.

Mewn fferm arall yr ymwelodd â hi, Fferm Heather Hill yn Swydd Donegal, cymerir agwedd gyfannol gyda phwyslais ar gyrraedd nodau ecolegol, cymdeithasol ac economaidd. 

Mae’r fferm yn cynhyrchu cynnyrch o ansawdd sy’n cael ei fwydo â glaswellt ac mae ganddi systemau coed integredig fel ffordd o sicrhau bod y pridd mor iach a chynhyrchiol â phosibl.

“Mae’r arferion ffermio hyn yn adeiladu’r pridd, gwella cynefinoedd ac yn gadael y fferm yn gryfach ac yn well i’r genhedlaeth nesaf.

Mae gwella’r pridd yn allweddol i’r arferion ffermio,” meddai Nicola.

Mae’r fferm hefyd yn rhedeg system bori symudol – system bori wedi’i chynllunio sy’n troi tir gwael yn dir pori o ansawdd da.

“Mae hyn yn cael ei gyflawni gan eifr, defaid a gwartheg yn mynd drwyddo ac yn bwyta cymaint o lystyfiant â phosibl, heb fynd i lawr at y ddaear drwy bori’n rhy galed,” eglura Nicola.   

“Unwaith y bydd y llysysyddion wedi eu symud o’r tir, cânt eu dilyn gan 200 o ieir neu dyrcwn a’u siediau cludadwy. Mae’r hollysyddion hyn yn torri’r tail o’r llysysyddion a’r tail o’r ieir ,sy’n cael eu symud bob 48 awr, i lawr.”

O dan y system hon, ni ddefnyddir unrhyw wrtaith na rheolwyr llyngyr.

Mae astudiaeth Nicola wedi gwneud iddi ddeall mor bwysig yw hi fod ffermwyr yn cymryd amser i edrych ar eu fferm ac i ystyried yr opsiynau i wneud y mwyaf o bob erw, gan gymryd agwedd gyfannol at eu system ffermio.       

Gall cyfleoedd addysg ar fferm hefyd gynnig incwm ychwanegol, ychwanega.                                                                                                                                                                                                                                                  

ADRODDIAD CYFNEWIDFA RHEOLAETH