Roland Wear

Lleoliad: Llangamarch, Powys

Cyrchfan: Yr Alban a Sisili

Pwnc: Arallgyfeirio sydd â ffocws ar Letygarwch, Iechyd a Lles

Roland Wear

Yn ymgynghorydd gyrfaoedd cymwysedig gyda chefndir yn y diwydiant lletygarwch, mae Roland yn cyfuno ei rôl ran-amser gyda ‘Syniadau Mawr Cymru’, sy’n cefnogi entrepreneuriaid ifanc, gydag arallgyfeirio ei fferm fynydd draddodiadol wythfed genhedlaeth i fod yn fusnes cynaliadwy, gwydn y mae’n gobeithio ei drosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf.

Ar ôl bod yn ymwneud yn agos â’r fferm erioed, yn dilyn profedigaeth deuluol, etifeddodd Roland y ddiadell o fridiau traddodiadol sy’n pori ar ardal hyfforddiant milwrol Epynt a’r comin cyfagos, yn ogystal â thair diadell gaeedig tir isel, i gyd yn cael eu pesgi ar y fferm ac yn cael eu gwerthu fel ŵyn tew.

“Bydd fy nghyfnewidfa yn fy nghyflwyno i ffermwyr eraill sydd wedi arallgyfeirio i ddarparu mentrau ‘llesiant’, gan gynnig llety amgen sy’n canolbwyntio ar therapïau ‘ecogyfeillgar’ a chyfannol sy’n gysylltiedig â ffordd naturiol o fyw.”

 

CRYNODEB GWEITHREDOL

Mae cydweithio o fudd i arallgyfeirio ar ffermydd, yn ôl canfyddiadau astudiaeth

Mae ffermwyr yn cael eu hannog i gydweithio â chynhyrchwyr a sefydliadau eraill i wneud y mwyaf o effeithiolrwydd arallgyfeirio eu ffermydd.

Dywed Roland Wear, a gychwynnodd ar astudiaeth rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio i archwilio ffrydiau incwm ychwanegol ar gyfer fferm ddefaid fynydd draddodiadol ei deulu, y gall llawer o arallgyfeirio elwa o gydweithio.

Gwelodd hyn ar waith ar ffermydd yr ymwelodd â nhw yn yr Eidal a'r Alban yn ystod ei astudiaeth.

Mae fferm Roland wedi bod yn ei deulu ers o leiaf wyth cenhedlaeth ac, wrth iddo edrych tua’r dyfodol, mae’n awyddus i ddatblygu busnes cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Hyd yn hyn mae hyn wedi cynnwys creu menter busnes bythynnod gwyliau newydd.

Mae hefyd yn gobeithio defnyddio ei gefndir yn y diwydiant arlwyo a lletygarwch.

Roedd y ffermydd yr ymwelodd â nhw wedi datblygu arallgyfeirio llewyrchus, o un a oedd yn cynhyrchu caws gafr ac iogwrt, olew olewydd a chynhyrchu pasta o'u gwenith eu hunain, i un arall a oedd yn darparu llety pum seren a gwerthiant blychau cig.

“Gall prosiect arallgyfeirio fod yn fwy proffidiol na’r arferion ffermio presennol ac agor ffrydiau ariannu eraill,” meddai.

“Gall un fenter arallgyfeirio lwyddiannus fynd â chi i gyfeiriadau eraill.’’

Ond gall rhai gymryd buddsoddiad ac ymrwymiad sylweddol hefyd, ychwanega.

Dywed Roland fod yr astudiaeth wedi helpu i ddatblygu ei ddealltwriaeth y gall croesawu gwesteion i fferm greu diddordeb mawr, brwdfrydedd ac, yn bwysicaf oll, incwm ychwanegol.

Mae ganddo set sgiliau eang o’i yrfa flaenorol ym maes lletygarwch a thrwy ei rôl bresennol, yn hyrwyddo entrepreneuriaeth i bobl ifanc fel gweithredydd rhanbarthol yn Syniadau Mawr Cymru.

Ond atgyfnerthodd yr astudiaeth ei gred bod cefnogaeth trwy hyfforddiant yn hanfodol ar gyfer datblygu sgiliau.

A'r mentrau arallgyfeirio mwyaf llwyddiannus yw'r rhai lle mae teulu fferm yn canolbwyntio ar y sgiliau a'r diddordebau sy'n bersonol iddyn nhw, meddai.

“Bydd cael pwynt gwerthu unigryw a bod yn wahanol yn denu diddordeb gan ddarpar gwsmeriaid.’’

Mae hefyd yn bwysig ystyried yr hyn yr hoffai’r genhedlaeth nesaf ymwneud ag ef, ychwanega.

O ganlyniad i’w astudiaeth, mae Roland bellach yn bwriadu archwilio a oes cymorth a chyngor ariannol yn bodoli ar gyfer datblygu ar ei fferm ei hun rai o’r prosiectau a welodd.

“Rwyf hefyd yn awyddus i edrych ar yr hyn y gallwn ei gynnig ar y fferm fel profiad, gan ddefnyddio fy set sgiliau fy hun, gan nodi unrhyw fylchau a chyfleoedd hyfforddi posibl a chymorth sydd eu hangen,” meddai.

 

ADRODDIAD CYFNEWIDFA RHEOLAETH