Sophia Morgan-Swinhoe 

Lleoliad: Bow Street, Ceredigion

Cyrchfan: Iwerddon

Pwnc: Datblygu caws sy’n adlewyrchu’r fferm a’r ardal mae’n hanu ohoni

Sophia Morgan-Swinhoe

Cwblhaodd Sophia, ffermwr cenhedlaeth gyntaf, brentisiaeth llaeth organig yn Norwy wyth mlynedd yn ôl, cyn symud yn ôl adref i Gymru, lle sefydlodd ei llaethdy ei hun ar dyddyn maen ei rentu. Mae’n cadw geifr godro a gwartheg Jersey ar system bori cylchdro sy’n seiliedig ar borfa. Mae llo a myn gafr wrth droed, yn cael eu godro unwaith y dydd. Mae’r llaeth yn cael ei brosesu ar y fferm mewn sypiau bach sydd wedyn yn cael eu gwerthu’n uniongyrchol. Yn awyddus i ehangu’r fuches a thyfu ei marchnad, ei nod yn y pen draw yw prosesu a marchnata caws aeddfed arbenigol, yn llwyddiannus. 

“Trwy ymweld â rhai o wneuthurwyr caws ffermdy mwyaf blaenllaw Iwerddon, byddaf yn dysgu sut y maent yn mynegi hunaniaeth eu ffermydd trwy eu cynnyrch. Fy nod yw datblygu caws Cymreig aeddfed unigryw, sy’n arddangos iechyd y fuches a bioamrywiaeth fy fferm”.

 

CRYNODEB GWEITHREDOL

Ffermwr geifr llaeth i arallgyfeirio i wneud caws ar ôl ymchwil a hwyluswyd gan Cyswllt Ffermio

Mae cynhyrchu amrywiaeth o gawsiau yn allweddol i ffermydd llaeth llai wneud llwyddiant i’r arallgyfeirio busnes hwn, yn ôl ychwil gan un darpar wneuthurwr caws.

Mae ffermwr tenant cenhedlaeth gyntaf Sophia Morgan- Swinhoe yn cynyrchu llaeth o gyr o eifr a buches meicro o Jerseys ar ei fferm ger Machynlleth. 

I ychwanegu gwerth at y llaeth hwnnw, mae Sophia yn bwriadu cynhyrchu caws a chychwynnodd ar astudiaeth Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio i lywio ei menter.

"Ar gyfer fy nghyfnewidfa roedd gen i ddiddordeb mewn sut y gall ffermwr llaeth ddatblygu caws sy’n adlewrchu’r ardal a’r fferm y mae’n dod ohoni, meddai.

Ymwelodd â chynhyrchwyr caws yn Iwerddon, gan gynnwys St Tola yn Swydd Clare, lle daw llaeth o 200 o eifr Saanens, Toggenburg ac Alaidd Prydeinig.

Dywedodd y ffermwr fod amrywiaeth, fel llaethdy bach, yn allweddol i lwyddiant. “Mae St Tola yn gwerthu cymysgedd o gawsiau amrwd a chawsiau wedi’u pasteureiddio,” eglura Sophia.

Yn Lost Valley Dairy, Cork, un arall o’r ffermydd y bu’n ymweld â nhw, cynhyrchir caws o laeth pedair buwch odro.

Fe wnaeth y ddau ymweliad helpu Sophia i ddeall mai ansawdd sy’n gwneud i’r caws adlewyrchu’r fferm.

I Lost Valley Dairy mae hynny’n golygu llaeth amrwd microbaidd iach, man cychwyn a ddatblygwyd ar y fferm, ac amodau aeddfedu. 

“Mae caws yn gymhleth, mae llawer o ffactoraumicrobaidd ac amgylcheddol yn dylanwadu ar flas caws – terpenau, asidau, aldehydau a microbau ychwanegol, yn bennaf bacteria asid lactig, burumau a mowldiau, sy’n rhan o’r broses ac aeddfedu,” meddai Sophia.

“Yn hytrach na gweld hyn yn frawychus, mae gan ffermwr sydd am greu caws ddigonedd o opsiynau ar gyfer creu cynnyrch a fydd yn arddangos ei laeth.”

Ond mae llawer o ystyriaethau eraill i gynhyrchwyr caws uchelgeisiol, gan gynnwys a ddylid cynhyrchu mathau amrwd neu rai wedi’u pasteureiddio. 

Mae cawsiau a wneir gyda llaeth amrwd yn cael croeso mawr gan werthwyr caws ac maent yn brin yng Nghymru.

“Ond wrth ystyried gwneud caws llaeth amrwd dylai’r ffermwr ystyried pa mor dderbyniol yw ei Swyddfa yr Amgylchedd leol a’u parodrwydd i ychwanegu amser ychwanegol at odro er mwyn cyrraedd y safonau hylendid sy’n ofynnol ar gyfer llaeth amrwd,” mae Sophia yn cynghori.

Gall iechyd buches hefyd helpu ffermwr i wneud y penderfyniad hwn – ni ddylai ffermydd sy’n cael trafferth gyda TB mewn ardaloedd TB uchel neu fuchesi â chlefyd Johne ddewis cael caws llaeth amrwd, mae’n nodi.

Mae maint y gweithrediad ffermio yn ystyriaeth arall.

"Bydd ffermydd sydd â mwy o laeth yn cael amser haws yn gwneud cawsiau caled,” meddai Sophia. “Bydd ganddyn nhw’r cyfaint i wneud sypiau mwy ac mae ganddyn nhw oes silff hirach ar gyfer y cyfeintiau mwy a wneir.”

Efallai y byddai’n fwy buddiol yn economaidd i ffermydd llai wneud cawsiau iau, meddalach, mae Sophia’n awgrymu, gan fod pwysau uwch o gaws yn cael ei gynhyrchu o laeth a ddefnyddir o gymharu â chaws caled.

Dylid hefyd ystyried bioamrywiaeth y tir a mynediad i bori o safon.

“Mae’r ddwy fferm y bûm yn ymweld â nhw yn bwydo llai o rawn na’r fferm arferol ac yn datgan bod ansawdd synhwyraidd caws yn cael ei wella gan ddiet anifeiliaid amrywiol,” meddai Sophia.

“Bydd parodrwydd i wella’r ystod o rywogaethau mewn diet anifeiliaid llaeth yn helpu i greu cynnyrch uwchraddol.”

Dylid hefyd ystyried cynnwys cynhwysion lleol - er enghraifft gallai fferm ger y môr gynnwys gwymon neu fferm wedi’i hamgylchynu gan goedwigaeth greu caws sbriws wedi’i lapio â rhisgl.

O ganlyniad uniongyrchol i’r astudiaeth, mae Sophia yn bwriadu arbrofi â gwneud amrywiaeth o gawsiau, gan ddewis yr un y mae hi’n teimlo sy’n adlewyrchu’r fferm orau.

Unwaith y bydd wedi gwneud hynny bydd yn gweithio gyda’r Hwb Fwyd i ddatblygu’r broses a threfnu sesiwn flasu ar ei fferm unwaith y bydd y caws yn barod i’w fwyta. 

 

ADRODDIAD CYFNEWIDFA RHEOLAETH