Mae Naomi, sydd â gradd meistr mewn rheoli prosiect, ynghyd â’i phartner Richard, yn newydd-ddyfodiad i’r sector garddwriaeth. Maent yn tyfu ystod amrywiol o lysiau organig o’u tyddyn 10 erw yn Sir Benfro, sy’n cael eu gwerthu trwy gynllun blychau llysiau yn ogystal ag yn uniongyrchol i siopau a bwytai. Ar ôl ymchwilio i’r farchnad, maent yn teimlo’n barod i ehangu eu model busnes trwy dyfu perlysiau organig ffres, gan gynnwys y rhai y gellir eu troi’n de arbenigol.
“Yn wahanol i Ffrainc, ychydig iawn o berlysiau sy’n cael eu tyfu yn y DU yn benodol ar gyfer te. Mae gan Lydaw hinsawdd debyg i’n hinsawdd ni, felly bydd fy nghyfnewidfa yn dysgu pa fathau i ganolbwyntio arnynt, a byddaf yn dysgu am y prosesau torri, sychu, prosesu a phecynnu.”
CRYNODEB GWEITHREDOL
Astudiaeth yn llywio uchelgais tyfwr perlysiau i ehangu i gynhyrchu te Cymreig
Gall cynhyrchu perlysiau ar raddfa fach fod yn fenter fusnes broffidiol, mae un tyfwr o Gymru wedi’i ddarganfod yn ystod ei hymchwil wedi’i gefnogi gan Cyswllt Ffermio ar draws y Sianel.
Mae Naomi Hope yn newydd i arddwriaeth, ac yn rhedeg Llysiau Cwm Nyfer gyda’i phartner ar lai nag erw o dir yn Sir Benfro.
Yma maen nhw'n tyfu ystod amrywiol o lysiau a blodau bwytadwy i gyflenwi siopau lleol, bwytai, a chynllun bocs llysiau bach wythnosol.
Yn y blynyddoedd nesaf maent yn bwriadu ehangu eu busnes i dyfu a phrosesu perlysiau organig ar gyfer te Cymreig.
Dyfarnwyd lle i Naomi ar raglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio i helpu i lywio’r uchelgais hwn.
Aeth ei hymchwil â hi i Lydaw, rhanbarth â dwysedd cymharol uchel o dyfwyr perlysiau a chyda hinsawdd debyg i Gymru.
Roedd y rhan fwyaf o'r ffermydd perlysiau yr ymwelodd â hwy yn cynhyrchu ar lai na thri hectar. “Gall graddfa fach fod yn broffidiol,’’ nododd.
Yn Llydaw ymunodd â rhaglen hyfforddi bum niwrnod a redwyd gan y cynhyrchydd te, Terres de Tisanes1.
Ymwelodd hefyd â dwy fferm yn Ne Gwlad yr Haf - yr Organic Herb Trading Company a Harpford Herbs.
O ganlyniad i’w hymchwil, mae Naomi yn bwriadu dechrau profi technegau cynhyrchu perlysiau a sychu yn 2023, cyn penderfynu pa rywogaethau i ganolbwyntio arnynt a pha gynhyrchion i’w datblygu.
Mae tyfwyr yn Ffrainc, meddai, yn elwa ar gefnogaeth llawer gwell fel newydd-ddyfodiaid nag yn y DU - mae grant o hyd at €30,000 i ddechrau.
Mae yna hefyd adroddiadau marchnad tyfu perlysiau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol a chymdeithasau tyfwyr.
“Mae angen mwy o gefnogaeth i ffermwyr, ac yn enwedig newydd-ddyfodiaid,” meddai. “Yn Llydaw mae llawer mwy o gynhyrchwyr bwyd, sy’n cael eu cefnogi’n well i gael mynediad at dir, busnesau newydd a chysylltu â marchnadoedd,” meddai Naomi.
ADRODDIAD CYFNEWIDFA RHEOLAETH