Rebecca Williams

Lleoliad: Llandrindod, Powys

Cyrchfan: Y DU 

Pwnc: Marchnata cig coch yn uniongyrchol i ddefnyddwyr

Rebecca Williams

Mae’r ffermwr ifanc Rebecca Williams yn bartner busnes ar fferm ucheldir 400 erw ei theulu, lle bu’n gweithio am y pum mlynedd diwethaf. Mae’r teulu’n cadw 24 o wartheg Duon Cymreig, 700 o ddefaid ac 84 o geirw coch. Eleni, mae Rebecca yn anfon ei grŵp cyntaf o geirw ifanc at fanwerthwr mawr. Yn rhan o gynllun Farmers Weekly Apprentice a Sefydliad Ffermwyr y Dyfodol Tesco, mae ganddi’r archwaeth i ddysgu, ac mae’n bwriadu defnyddio ei hymweliad fel rhan o’r Gyfnewidfa i ddysgu popeth o fewn ei gallu am farchnata ac ychwanegu gwerth at gig coch. 

“Mae effeithlonrwydd a phroffidioldeb yn ddau yrrwr allweddol i mi, felly rwyf am ddysgu gan ffermwyr sy’n prosesu ac yn marchnata eu cynnyrch yn llwyddiannus ac yn uniongyrchol i ddefnyddwyr.”

 

CRYNODEB GWEITHREDOL

Cyfleoedd i Ffermwyr Cymru yn sgil y twf a ragwelir mewn gwerthiant cig coch

Gan fod disgwyl i werthiant cig coch dyfu £34 biliwn yn y pum mlynedd nesaf o’i gymharu â dim ond £5 biliwn ar gyfer cynhyrchion sy’n seiliedig ar blanhigion, mae ymchwil gan ffermwr ifanc o Gymru yn tynnu sylw at y potensial ar gyfer twf sylweddol yn y sector hwn yng Nghymru.

Bu Becca Williams, sy’n ffermio gwartheg, defaid a cheirw gyda’i rhieni ger Llandrindod, yn ymchwilio i gyfleoedd i farchnata cig yn uniongyrchol gyda chymorth rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio.

“Gallwn fod yn hyderus bod cig yma i aros, a hynny ar raddfa fawr” daeth i’r casgliad.

Er y bydd deiet llysieuol a figan yn dylanwadu ar y farchnad, daeth Becca i'r casgliad o'i hastudiaeth y bydd cig bob amser yn rhan o ddeiet cytbwys.

Daeth ei hymchwil i gysylltiad â llawer o arbenigwyr yn y diwydiant, gan gynnwys yr Athro David Hughes, Athro Emeritws Marchnata Bwyd yng Ngholeg Imperial Llundain ac Athro Gwadd yn y Brifysgol Amaethyddol Frenhinol.

“Pan ofynnwyd iddo a fyddai deiet figaniaid a llysieuwyr yn cael effaith fawr ar y farchnad, dywedodd yr Athro Hughes sut y byddai’n synnu pe byddai’r farchnad ‘amnewidion cig’ yn tyfu mwy na 10% o’r farchnad gyfan dros yr 20 mlynedd nesaf,” meddai hi.

“Ond gan nad oes disgwyl i boblogaeth y DU dyfu’n fawr yn y cyfnod hwnnw, bydd marchnadoedd allforio yn hynod fuddiol. Yn fyd-eang, hoffai’r byd fwyta mwy o gig, cymaint felly fel y rhagwelir o fewn pum mlynedd y bydd y farchnad gig yn tyfu £34 biliwn o gymharu â dim ond £5 biliwn ar gyfer marchnad sy’n seiliedig ar blanhigion, gallwn fod yn hyderus bod cig yn yma i aros mewn ffordd fawr.''

I fanteisio ar hyn, dylai cynhyrchwyr anelu at fyrhau'r gadwyn gyflenwi os yn bosibl. “Defnyddiwch y ffaith bod y cyhoedd yn ymddiried mwy mewn ffermwyr na gweddill y gadwyn gyflenwi,” meddai Becca.

Dylai addysgu'r cyhoedd hefyd fod yn rhan fwy o farchnata, ychwanegodd. “Mae gennym ni stori wych i’w gwerthu.’’

Ond, fel diwydiant, mae’r Athro Hughes yn awgrymu y dylai ffermwyr fod yn fwy ystyriol o sut mae eu cynnyrch gorffenedig yn cael ei enwi.

“I gymryd cyw iâr fel enghraifft, mae’n debyg mai’r cynnyrch sy’n gwerthu orau fyddai ‘nugets’ cyw iâr, sy’n ‘swnio’ yn gyfeillgar iawn i’r teulu, nid ydynt am gael eu hatgoffa eu bod yn bwyta ‘ysgwydd’, ‘asen’ neu 'goes','' meddai Becca.

“Gallai defnyddio cyflythrennu ac enwau cynnyrch cofiadwy i ailenwi toriadau o bosibl fod yn haws i ddefnyddwyr na defnyddio enwau rhannau corff anifeiliaid.’’

 

ADRODDIAD CYFNEWIDFA RHEOLAETH