Mae Dan yn ffermwr tenant yn Parc Farm, Fferm yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n ymestyn o 150 erw i 900 erw ac sydd gyda’r hawl i bori ar y Gogarth. Mae Dan yn ffermio’r pentir unigryw hwn, sy’n gartref i fflora a ffawna prin, mewn ffordd natur gyntaf.
Wedi’i fagu ar fferm deuluol ar Ynys Môn, graddiodd Dan mewn amaethyddiaeth a gwyddor anifeiliaid cyn gweithio fel technegydd ymchwil defaid. Aeth ymlaen i sicrhau ei denantiaeth fferm ei hun, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n gweithio fel bugail ar yr Wyddfa ar gyfer prosiect pori cadwraethol, a lle daeth o hyd i’w angerdd.
“Mae’n hanfodol bod ffermio, cadwraeth ac atafaelu carbon yn gweithio gyda’i gilydd. Mae lleihau faint o garbon deuocsid sydd yn yr aer yn hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd”.
CRYNODEB GWEITHREDOL
Astudiaeth dramor yn helpu i lywio pori cadwriaethol ffermwr defaid o Gymru
Mae ffermwr tenant yn mabwysiadu strategaethau a ddysgodd gan borwyr cadwriaethol yn Ffrainc a Latfia i amddiffyn ac annog poblogaethau o’r frân goesgoch ar Y Gogarth.
Ymwelodd Dan Jones, tenant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar Fferm Y Parc ar y Gogarth, â dau brosiect cadwraeth ffermio mawr yn y gwledydd hynny ar ôl cael ei wobrwyo gyda lle ar raglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio.
Mae Project GrassLife yn Latfia a’r Warchodfa Natur Crau yn Ne Ffrainc yn defnyddio dulliau pori i amddiffyn a gwella bywyd gwyllt ac atafaelu carbon.
Mae buchesi symudol o wartheg yn bennaf yn cael eu symud o gwmpas y 1,300 hectar yn Project GrassLife tra bod dolydd blodau gwyllt coediog wedi’u hadfer i atafaelu carbon.
“Defnyddir dulliau ymarferol iawn a syml i gynyddu’r atafaelu carbon,” nododd Dan.
Rôl allweddol hefyd yw cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o sut y gall ffermio wella natur.
“Mae hynny’n rhywbeth y mae ffermwyr yn eithaf gwael yn ei wneud yng Nghymru,” creda Dan.
Ond, gyda miloedd o ymwelwyr pob blwyddyn i’r Gogarth yn Llandudno, mae’n dweud fod ganddo gyfle da i rannu ei brofiadau o ffermio ochr yn ochr â natur gyda’r cyhoedd yn gyffredinol.
Yng Ngwarchodfa Natur Crau 7,400 ha, defnyddiwyd pori defaid traddodiadol i reoli’r tir am gannoedd o flynyddoedd ac mae hyn yn amddiffyn poblogaethau o adar endemig.
“Ni fyddai yna adar heb y defaid,” meddai Dan.
O ganlyniad i’r hyn a ddysgodd yn ystod ei astudiaeth, mae’n anelu at greu dolydd blodau gwylltion yn Fferm Y Parc yr hydref hwn.
Mae hefyd yn cynllunio i gael trafodaethau gyda’r RSPB am sut y gellir cynyddu poblogaethau adar, nid yn unig y frân goesgoch ond rhywogaethau eraill hefyd.
“Rydyn ni angen gwneud yn siŵr ein bod yn gofalu am yr holl adar, nid dim ond un rhywogaeth,” meddai Dan.
Nododd fod ffermwyr yn Latfia a Ffrainc yn cael eu cefnogi’n dda i ffermio mewn cytgord â natur.
“Mae ffermwyr yn y gwledydd hynny yn cael cryn dipyn o gefnogaeth ac addysg i gynnal yr amgylchedd naturiol sydd ganddynt.”
ADRODDIAD CYFNEWIDFA RHEOLAETH