Pam fyddai Meirion yn fentor effeithiol

  • Dros gyfnod o 40 mlynedd, mae rhaglen o welliannau sylweddol wedi cymryd lle ar y fferm o ran draeniad ac adferiad tir, ffensio a chodi adeiladau i wella allbwn cyffredinol a lleihau costau mewnbwn
  • Mae Meirion wedi cymryd rhan mewn nifer o fentrau gan gynnwys cynhyrchu defaid, llaethyddiaeth, magu bîff a phesgi gwartheg stôr, ynni adnewyddadwy a rheoli coetir. Fe wnaethon nhw roi’r gorau i’r fenter laeth yn 2003 er mwyn canolbwyntio ar eu diadell oedd yn ŵyna’n gynnar. Mae hyn wedi profi i fod yn llwyddiannus iawn, ac maent bellach yn gwerthu bron i 1,500 o ŵyn yn flynyddol rhwng mis Ebrill a diwedd mis Mehefin
  • Mae profiad blaenorol Meirion mewn amaethyddiaeth, ynghyd â hanes llwyddiannus mewn busnes a chynllunio ariannol, yn cynnig y sgiliau angenrheidiol ar gyfer cefnogi mentai
  • Mae ef wedi datblygu profiad ymarferol sylweddol o sut y gall ffermio cyfran weithio, sydd yn parhau i fod yn drefniant cymharol anghyffredin yng Nghymru. Mae Meirion wedi bod drwy’r broses, gweld y problemau a chanfod atebion, sydd yn ei roi mewn sefyllfa dda i allu cynghori partïon y dyfodol
  • O 2015-2017, bu Meirion yn rhan o gytundeb ffermio cyfran llwyddiannus gyda ffermwyr ifanc a oedd yn chwilio am lwybr newydd i mewn i ffermio. Symudodd ei bartner busnes ifanc ymlaen yn 2017 ac ers hyn mae Meirion wedi bod yn rhan o fenter ar y cyd newydd a gafodd ei sefydlu ym mis Tachwedd 2017
  • Mae gan Meirion sgiliau cyfathrebu ardderchog ac mae’n gallu asesu nodweddion unigol a rhoi barn ar sefyllfaoedd amrywiol
  • Mae Meirion wedi bod yn fentor anffurfiol i nifer o ffermwyr eraill ac mae’r profiad wedi rhoi boddhad mawr iddo. Mae ei allu i roi adborth gonest mewn modd ddiogel a chyfrinachol wedi ei wneud yn ffermwr uchel ei barch.    

Busnes fferm presennol

  • Yn berchen ar fferm fynydd 700 erw mewn partneriaeth â’i wraig, Ann
  • Yn ffermio mewn cytundeb ffermio cyfran ers mis Tachwedd 2017
  • Magu 100 o wartheg stôr yn flynyddol. Prynu’n 10-12 mis oed, a’u gwerthu’n 20 mis oed
  • 1,100 o famogiaid ynghyd â 200 mamog gyfnewid
  • Magu 50  heffer Friesian ar gytundeb 
  • Paneli solar ar y fferm, a chais cyfredol ar gyfer fferm wynt ar hyn o bryd

 Cymwysterau/ cyraeddiadau/ profiad 

  • Tystysgrif Genedlaethol mewn Amaethyddiaeth (Rhagoriaeth), Gelli Aur, 1976-1977
  • Cymerodd reolaeth o’r fferm a chychwynnodd ar Gynllun Datblygu Ffermio a Garddwriaeth chwe blynedd o hyd i ddatblygu’r fferm
  • Yn 2015, cyflwynodd ffermwr cyfran â’r busnes gyda’r bwriad o roi cyfle i ffermwr ifanc fel rhan o’u cynllun olyniaeth ar gyfer y dyfodol. Roedd yn awyddus i gymryd y cam dewr hwn tra’n gymharol ifanc ac mae wedi bod yn fanteisiol o ran dod ag egni a syniadau ifanc heb y pwysau ariannol aruthrol ar y ffermwr ifanc
  • Partneriaeth Ffermio y flwyddyn, British Farming Awards, 2016

AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES

“Mae cynllunio ar gyfer y dyfodol yn hanfodol, felly sicrhewch eich bod yn diogelu dyfodol busnes teuluol trwy drafodaethau gonest gyda’ch teulu ynglŷn â chynllunio olyniaeth."

“Canolbwyntiwch ar feysydd o’r busnes sy’n gwneud yn dda. Fe wnaethom ni benderfynu canolbwyntio ar y fenter ŵyna’n gynnar sydd bellach yn llwyddiant ysgubol, yn hytrach na rhannu ein hamser a’n hadnoddau ar elfennau eraill megis llaethyddiaeth lle nad oeddem yn perfformio i’r un raddfa."

“Buddsoddwch amser mewn cynllunio busnes a chynllunio ariannol. Dyma’r unig ffordd i sicrhau eich bod yn datblygu ac yn tyfu eich busnes."
“Byddwch yn barod i ystyried syniadau newydd a sicrhewch eich bod yn manteisio ar unrhyw gyngor neu gefnogaeth sydd ar gael i chi."

“Os nad yw eich pridd yn derbyn y maethynnau sydd arno ei angen, ni fyddwch yn cael y canlyniadau gorau o’ch glaswellt. Mae gofalu am eich adnodd mwyaf gwerthfawr yn talu ar ei ganfed, felly dyna pam yr ydym ni bob amser wedi cynnal archwiliadau samplu pridd bob pum mlynedd. "

“Cadwch wybodaeth gyfredol am unrhyw ddatblygiadau yn y diwydiant, darllenwch y wasg amaethyddol neu ymwelwch â gwefannau addas megis Cyswllt Ffermio"

“Mae rhywbeth newydd i’w ddysgu o hyd.”