Taith Astudio Cyswllt Ffermio - Carms Blues

Carms Blues

Sir Gâr

31 Awst – 3 Medi 2021


1    Cefndir

[Pam aethoch chi ar y daith? Rhowch rywfaint o wybodaeth gefndirol am eich grŵp a rhowch drosolwg o nodau ac amcanion eich taith astudio] 

Cefndir

Mae grŵp Carms Blues yn grŵp o fridwyr defaid ifanc sy’n awyddus i ddatblygu ein busnesau’n canolbwyntio ar fridio a gwerthu hyrddod Wyneblas Caerlŷr. Rydym ni eisiau datblygu geneteg ac effeithlonrwydd y diadelloedd i wella proffidioldeb a chynnal busnesau fferm hyfyw ar gyfer y dyfodol.

Rydym ni’n grŵp newydd, ond mae gan y tri ohonom ein diadelloedd ein hunain o famogiaid, ac rydym wedi bod yn bridio defaid Caerlŷr ers nifer o flynyddoedd. Mae pob aelod o’r grŵp rhwng 18-21 mlwydd oed, ac yn awyddus i ddatblygu ein dealltwriaeth o’r brîd a’r ffordd orau o’u paratoi i’w gwerthu.

Hyd yma, rydym ni wedi cynhyrchu a gwerthu defaid gwryw a benyw o ansawdd da; fodd bynnag, rydym ni’n ymwybodol o’r angen i wella’n barhaus – yn enwedig yn y meysydd canlynol: 

  1. Sicrhau cyfraddau twf cynt, gan arwain at hyrddod mwy o faint a mwy deniadol ar gyfer y farchnad.
  2. Lleihau dibyniaeth ar fewnbynnau a chostau porthiant i gynyddu elw’r hyrddod sy’n cael eu gwerthu, gan hefyd leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar y fferm.
  3. Ymchwilio i ddefnyddio cnydau porthiant amgen er mwyn cyflawni pwynt 1 a 2 uchod.

 

Ar ôl dadansoddi a gofyn cyngor bridwyr eraill sydd wedi hen sefydlu ac sy’n cynhyrchu hyrddod mwy o faint a mwy deniadol ar gyfer y farchnad na ni, rydym ni wedi sylweddoli eu bod yn annog defnyddio cnydau bresych i gyd-fynd â’r borfa yn ystod tymor pori’r haf cyn tymor gwerthu’r Hydref. Rydym ni wedi dysgu am fuddion cymeriant porthiant ychwanegol, llai o faich llyngyr a ffordd o leihau prinder porthiant o ansawdd uchel os bydd  y tywydd yn boeth ac yn sych yn yr haf ac os bydd twf glaswellt yn isel. 

 

Nodau ac amcanion

Mae angen i ni weld y cnwd porthiant hwn yn cael ei dyfu a’i fwydo er mwyn deall sut mae’n gweithio ar ei orau.

Rydym ni eisiau gwybod os oes angen i ni ffensio y tu ôl i’r defaid ar borthiant sydd wedi’i bori’n rhannol, a faint o ardal sydd angen ei dyfu ar gyfer nifer yr hyrddod sydd gan bob un ohonom.

Pa fath yw’r gorau – cêl, rêp neu Typhon?

Rydym ni hefyd yn bwriadu canfod costau tyfu’r cnwd hwn ac ail-sefydlu porfa ar ôl hynny.

Yna gallwn gyfrifo a yw’r gwaith, yr amser a’r buddsoddiad ychwanegol yn werth chweil, neu a fyddai’n fwy proffidiol i barhau fel yr ydym ni.

 

1.1    Mynychwyr

[Rhestrwch enwau aelodau eich grŵp]

Harri Griffiths

Iestyn Richards

Henry Bennett

 

2   Amserlen

[Beth wnaethoch chi ei ddysgu? Rhowch ddisgrifiad o’ch gweithgareddau ar bob diwrnod ar eich ymweliad a’ch canlyniadau dysgu allweddol a’r wybodaeth a ddysgwyd]

(Noder: oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth, roedd yn rhaid i ni ail-drefnu rhai o’r ymweliadau gwreiddiol a nodwyd ar gyfer diwrnod 3 a 4 yn ein ffurflen gais) 

 

2.1    Diwrnod cyntaf

Fe wnaethom ni adael pentref Llandyfaelog am 10:00am, gan deithio tua’r gogledd i Kirkby Stephen, lle buon yn ymweld â Mr Richard Hutchinson ar Fferm Kirkby Redgate. Croesawodd Mr Hutchinson ni i’w fferm a bu’n egluro ei system ffermio. 

Fferm ucheldir oedd hon, gyda diadell o famogiaid Wyneblas Caerlŷr. Cawsom weld y mamogiaid, yr ŵyn benyw a’r ŵyn gwryw. Yn ystod ein hymweliad, roedd yr holl ŵyn benyw yn pori yn yr awyr agored, ond roedd yr ŵyn gwryw yn cael eu cadw dan do, ac yn cael eu bwydo ar ddwysfwyd i baratoi ar gyfer eu gwerthu.

Yna, fe wnaethom ni deithio tua’r gogledd ac aros yng ngwesty Premier Inn Carlisle dros nos.

 

2.2    Ail ddiwrnod

Ar yr ail ddiwrnod, fe wnaethom ni deithio i Midlock, lle mae’r teulu White yn ffermio defaid masnachol yn bennaf, gan gynnwys defaid Penddu’r Alban pedigri, croesi defaid Wyneblas Caerlŷr, Texel, defaid Charolais a gwartheg British Blue. Fe welsom fod yr hesbinod a’r ŵyn gwryw Wyneblas Caerlŷr yn pori yn yr awyr agored ac yn cael eu bwydo ddwywaith y dydd gyda dwysfwyd ar borthiant cymysg.

Ar ôl ymweld â Midlock yn y bore, fe wnaethom ni deithio tua’r gorllewin i ymweld â Mr Thornburrow ar fferm Dawyck yn hwyrach yn y prynhawn. Mae Mr Thornburrow yn fridiwr Wyneblas Caerlŷr adnabyddus, ac roeddem ni’n awyddus i glywed sut mae’n trin hesbinod ac ŵyn gwyry cyn eu gwerthu. Roedd ymweld â’r fferm ym mis Medi’n rhoi cyfle i ni weld yr hyrddod yn ystod eu hwythnosau olaf cyn eu gwerthu, i weld sut yr oedden nhw’n cael eu trin o’i gymharu â ffermydd eraill. Dywedodd Mr Thornburrow mai cadw’r hyrddod dan do drwy’r nos ac yn yr awyr agored yn ystod y dydd ar y borfa oedd y ffordd yr oedd ei stoc yn datblygu ar eu gorau cyn eu gwerthu.

Fe wnaethom ni aros yn The Crown, Peebles dros nos.

 

2.3    Diwrnod 3

Ar ôl taith fer yn y car y bore trannoeth, fe gyrhaeddom ni Kirkstead, lle mae’r teulu Mcclymont yn ffermio defaid Wyneblas Caerlŷr a mamogiaid Penddu’r Alban. Fe welsom fod yr hyrddod blwydd Wyneblas Caerlŷr yn cael eu cadw yn yr awyr agored ac yn cael eu bwydo ddwywaith y dydd ar ddwysfwyd. Pan wnaethom ni holi ynglŷn â thyfu cnydau bresych, cawsom wybod bod amgylchedd y tir mynydd wedi atal cnydau porthiant blaenorol rhag tyfu; yn hytrach, dywedodd Mr Mcclymont ei fod yn dibynnu mwy ar brynu anifeiliaid a oedd wedi tyfu’n dda, gan ei fod yn credu bod geneteg yn dylanwadu mwy ar gyfraddau twf o’i gymharu â bwydo ar raddfa ddwys neu dyfu cnydau porthiant bresych.

Fe wnaethom ni aros yn Fferm Bamflatt, Strathaven

 

2.4    Diwrnod 4

Ar y diwrnod olaf, fe wnaethom ni drefnu ymweliad gwahanol yn yr ardal leol yn dilyn argymhelliad un o’r ffermydd y buom yn ymweld â hi cyn hynny. Mae Glenrath Farms yn fusnes teuluol a sefydlwyd gan John a Cathy Campbell ym 1959, wedi’i leoli yng nghefn gwlad ar ffin yr Alban. Mae’r teulu Campbell yn bridio defaid Wyneblas Caerlŷr, defaid Penddu’r Alban a hyrddod bridio Suffolk.

Er bod y teulu Campbell yn gwerthu ŵyn gwryw, roedden nhw’n pwysleisio eu bod yn arbenigo mewn hyrddod blwydd oed, oherwydd y tir mynyddig uwch – gyda thymor ŵyna hwyrach yn lleihau cyfraddau twf ŵyn o’i gymharu ag eraill.

Yn ddiweddarach yn y prynhawn, fe wnaethom ni deithio adref.

 

3    Camau nesaf

[Beth ydych chi’n mynd i’w wneud nesaf? Byddwch chi wedi dysgu gwybodaeth ddefnyddiol ar eich taith astudio, a ddylai eich galluogi i roi rhai o’ch syniadau newydd ar waith neu wneud newidiadau i’r ffordd yr ydych chi’n rhedeg eich busnes. Gorffennwch eich adroddiad gyda chrynodeb o bwyntiau gweithredu a chamau nesaf ar gyfer y grŵp sy’n adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd ar y daith hon ac yn sicrhau eich bod yn gwneud y defnydd gorau o’r wybodaeth honno]

O ganlyniad i’r daith astudio hon, rydym ni wedi dysgu ei bod hi’n bosibl cynhyrchu stoc bridio o’r ansawdd uchaf heb fod yn or-ddibynnol ar gnydau bresych. Er enghraifft, nid yw ffermydd Kirkstead a Midlock – sydd wedi bridio stoc gwerth miloedd o bunnoedd yn gyson – yn tyfu cnydau porthiant bresych er mwyn sicrhau’r cyfraddau twf uchaf. Mae’r bridwyr llwyddiannus hyn yn credu bod cyfuniad o fwydo ar raddfa ddwys a phrynu defaid gyda geneteg brofedig yn dylanwadu mwy ar dwf na’r bwyd a’r amrywiaeth o laswellt neu gnydau porthiant.

Ar y llaw arall, roedd Kirkby Redgate wedi mabwysiadu system ddwys er mwyn gwerthu eu stoc fel ŵyn, yn hytrach na’u cadw am flwyddyn arall i’w gwerthu fel hesbinod. Roedd y system ddwys hon yn gofyn i’r stoc gael eu cadw dan do a chael eu bwydo ar ddwysfwyd. Hefyd, roedd cadw stoc dros y gaeaf yn cael ei ystyried yn gost ddrud, pan fo glaswellt yn brin ar gyfer mamogiaid y ddiadell cyn ŵyna.

Y thema gyffredin ymysg y ffermydd y buom yn ymweld â nhw oedd y sylw a roddwyd i’r eneteg fel elfen hanfodol er mwyn gallu meincnodi perfformiad yn erbyn blynyddoedd blaenorol a diadelloedd eraill.

 

Pwyntiau gweithredu:

  • Meincnodi – holl aelodau’r grŵp o bwyso ŵyn ar yr un pryd i gymharu pwysau.
  • Sylw i eneteg wrth ddewis yr hwrdd stoc nesaf a’r mamogiaid i sicrhau y bydd nodweddion y ddiadell yn gwella.
  • Targedu’r farchnad miwl masnachol i gynhyrchu stoc sy’n cyfateb â gofynion cyfnewidiol y cwsmer.
  • Cost-effeithlonrwydd – o’i gymharu â’r diadelloedd a welsom ar ein taith, byddai ein diadelloedd ni’n llai, a dylem ystyried prynu hyrddod stoc ar y cyd, prynu stoc o ansawdd uwch gyda’r eneteg orau gyda chyllideb fwy 
  • Datblygu perthynas ehangach gyda’r ffermydd y buom yn ymweld â nhw ac awgrymu ffurfio grŵp mwy er mwyn meincnodi ffigyrau a gwybodaeth er mwyn ymarfer a pharhau i wella ein diadelloedd.

Fe wnaeth pob aelod o’r grŵp fwynhau’r daith astudio’n fawr, ynghyd â’r cyfle i fod o gwmpas pobl o’r un anian a oedd yn awyddus i ddysgu a gwella eu busnesau. Hoffai’r grŵp ddiolch i Cyswllt Ffermio am y cyfle, ac i’r ffermwyr a fu’n eu croesawu am eu hamser a’u parodrwydd i rannu gwybodaeth.