Taith Astudio Cyswllt Ffermio - CFfI Mydroilyn

CFfI Mydroilyn

Yr Alban

26 - 28 Hydref 2019


1    Cefndir

 

Yn dilyn fy nghyfnod fel aelod o’r Clwb Ffermwyr Ifanc, roeddwn yn benderfynol o drefnu taith gyfnewid ar gyfer ein haelodau. Yn hanesyddol, nid yw aelodau CFfI Mydroilyn wedi manteisio ar gyfleoedd teithio mae’r mudiad yn ei gynnig, felly penderfynais byddai rhai yn fwy parod i deithio pe byddem yn mynd fel clwb. Roeddwn yn ymwybodol bod clwb yn yr Alban hefyd yn awyddus i drefnu taith gyfnewid, felly aethom ati i drefnu. 

Roedd teithio i’r Alban yn gyfle i ymweld â busnesau sydd wedi arallgyfeirio er mwyn cyfoethogi eu busnesau amaethyddiaeth. O ganlyniad i amgylchiadau annisgwyl, bu’n rhaid aildrefnu un ymweliad i fusnes gwahanol i’r gwreiddiol a nodwyd yn ein ffurflen gais.

Yn ystod ein taith gwnaethom gwblhau holiadur byr ynglŷn â’n gobeithion am y penwythnos. Ymysg y materion, roedd arallgyfeirio yn codi dro ar ôl tro. Roeddem fel grŵp yn awyddus i weld busnesau oedd wedi arallgyfeirio yn llwyddiannus, beth wnaeth eu hysgogi i ddechrau meddwl am syniadau eraill i’r busnes, a’r heriau oedd yn eu hwynebu nhw fel busnesau.
 

 

2    Amserlen

2.1    Diwrnod 1

Ar ôl cychwyn am 5 o’r gloch y bore a theithio am oddeutu chwe awr a hanner, cyrhaeddom ben y daith rhyw 20 munud i’r gorllewin o Glasgow yn ardal West Renfrewshire. 

 

Ar ôl cyrraedd pen ein taith yn West Renfrewshire, cawsom ein gwahanu i fynd i ymweld â’n cartrefi gwahanol am weddill y penwythnos. Gan ein bod yn aros gydag aelodau o glybiau ffermwyr ifanc, roedd y mwyafrif ohonynt yn byw ar fferm. 

Bu Heledd, Marged, Elen a minnau (Gwenan) yn aros ar fferm ‘Weels’ sef fferm bîff a defaid. Bu’r teulu yn godro hyd at bedair blynedd yn ôl, ond o ganlyniad i bris llaeth isel, penderfynon nhw roi’r gorau iddi. Mae prif incwm y fferm bellach yn dod o’r stoc, ond hefyd maent yn tyfu ac yn gwerthu gwair i ffermwyr o bell ac agos. 

Ar fferm bîff a defaid Gryffe Wraes bu Alaw a Catrin yn aros. Yn ogystal â ffermio traddodiadol, mae’r busnes yn berchen nifer fawr o lorïau a oedd yn dod ag incwm ychwanegol gwerthfawr i’r busnes. Mae tad Emma, Willie Harper, yn gadeirydd rhanbarthol gyda NFU, ac yn cynnal nifer fawr o ddigwyddiadau ar y fferm er mwyn rhannu arfer dda gyda ffermwyr yr ardal. 

Roedd Angharad yn aros gyda Bethany, a oedd yn berchen ar gwmni teuluol Butchers. Yn dilyn penderfyniad anodd i roi’r gorau i ffermio, mentrodd y teulu i agor busnes cigydd mewn pentref cyfagos. 

Roedd ein hymweliad cyntaf wedi’i drefnu ar gyfer y prynhawn hwnnw sef Ingliston Country Club. Yn wreiddiol, fferm fechan ag ychydig o stablau oedd Ingliston Farm, a brynwyd gan deulu lleol 12 mlynedd yn ôl. Ers hynny, maent wedi ehangu wrth adeiladu 200 o stablau ac arallgyfeirio i dwristiaeth, gan agor gwesty moethus, ‘lodges’ pren, a bwyty o safon; gyda chynlluniau pellach i agor maes glampio enfawr, hunanarlwyo. Maent yn cyflogi tua 30 o bobl yr ardal. Byddwn yn cadw llygad ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol i weld y datblygiadau dros y blynyddoedd nesaf. 
 

 

2.2   Diwrnod  2

Ymweliad â fferm Portnellan oedd taith yr ail ddiwrnod, sef fferm hynod brydferth ar lan Loch Lomond. Fferm bîff organig ers 1991 yw Portnellan, ond sydd erbyn hyn wedi arallgyfeirio i nifer o feysydd gwahanol. Penderfynon nhw fentro i fyd twristiaeth drwy ailwampio hen adeilad ar y fferm i fwthyn gwyliau. Mae’r bwthyn yn boblogaidd iawn drwy’r flwyddyn o ganlyniad i olygfa odidog o’r Loch.  
Yn ogystal â hyn, codwyd pabell glampio i ehangu ar y cyfleoedd twristiaeth. Mae’r perchennog yn gobeithio manteisio ar boblogrwydd glampio ac ehangu ar yr hyn maent yn ei gynnig ar y fferm. Er hyn, mae’n awyddus i beidio brysio, ac i gymryd pwyll wrth ystyried yn ddwys pa fath o opsiwn glampio sydd orau iddynt. Roedd yn awyddus i sefydlu rhywbeth sy’n wahanol iawn i’r hyn sydd yn yr ardal, rhywbeth megis ‘treehouse’ yn y goedwig yn edrych dros y Loch. Gan fod gennym fusnes glampio adref ar y fferm, roeddwn â diddordeb mawr i sgwrsio â’r perchennog ynglŷn â’r pwnc yma. Bûm yn rhannu syniadau ac yn cymharu ein gwefannau cymdeithasol, a chytunom fod hysbysebu drwy Facebook a Instagram yn rhan annatod o fusnes twristiaeth y dyddiau hyn. 
Yn ogystal â’r ochr dwristiaeth, mae’r teulu wedi gwneud y mwyaf o’r tirlun a’r hyn sydd o’u cwmpas drwy sefydlu cwmni chwaraeon dŵr ar y Loch, sy’n cynnig teithiau cychod cyflym (speedboats), caiacio a mwy. 
Yn ogystal â hyn, maent yn gwneud y mwyaf o’r ymwelwyr lu sy’n ymweld â’r fferm drwy werthu bocsys o gig cartref. Syniad penigamp, ac rwyf eisoes wedi cynnig y syniad yma ar ein fferm ni. Credaf y byddai’n boblogaidd iawn gan fod pobl yn awyddus i wybod yn union o ble daw eu bwyd. 

 

 

3    Camau Nesaf

Gweler isod ychydig o adborth gan y mynychwyr wrth lenwi’r holiadur ar y ffordd adref. 

 

Marged Jones:

Beth ydych chi wedi ei ddysgu o’r daith?

Rwyf wedi dysgu yn enwedig ar ein hymweliad â fferm Portnellan, bod modd arallgyfeirio ar raddfa fechan heb wario gormod o arian. Roedd Portnellan wedi dechrau efo pabell glampio ac yna sefydlu busnes chwaraeon dŵr sydd yn cynnig amryw o weithgareddau o caiacio, cychod cyflym a phadl-fyrddio. Roedd y busnes hwn yn gwneud y gorau o’r adnoddau naturiol oedd ganddynt ar y fferm sydd yn beth da yn fy marn i. Roedd ein hymweliad â Ingliston Country Club wedi atgyfnerthu pwysigrwydd marchnata ar wefannau cymdeithasol mewn unrhyw fusnes. Hefyd, beth oedd yn ddiddorol am Ingliston Country Club oedd sut oeddent yn apelio at bob math o bobl o fewn un lleoliad. Roedd ganddynt adeilad ar gyfer priodasau neu ddigwyddiadau preifat, ond mewn ardal arall roedd ganddynt dros 200 o stablau, felly mae llif incwm y busnes yma yn dod o bob man a ddim yn ddibynnol ar un math o bobl.

Beth ydych chi’n feddwl ei newid/ychwanegu ato o fewn eich busnes wedi’r daith?

Mae’r daith wedi rhoi’r hyder i mi feddwl yn fwy agored am y syniadau sydd gen i a bod unrhyw beth yn bosib. Enghraifft dda o hyn yw Ingliston Country Club, sydd o fewn 12 mlynedd wedi mynd o fod yn fusnes bychan gyda dim ond aelodau o’r teulu yn rhan ohono, i fusnes sydd erbyn hyn yn cyflogi dros 160 o staff. Er bod gennym ni dudalen Facebook, rwy’n meddwl bod angen i ni fod yn fwy gweithredol a’i ddefnyddio yn well i hyrwyddo ein busnes ni adref. 

 

Elen Skyrme: 

Beth ydych chi wedi ei ddysgu o'r daith?

Gwelais sut mae arferion ffermio bîff a defaid yn debyg iawn yn yr Alban a Chymru. Mae’r diwydiant llaeth i weld yn cael ei adael ar ôl gyda dim ond 3 fferm laeth ar ôl yn Renfrewshire, a ffermio bîff yn cryfhau, yn bennaf oherwydd y lledred uchel. Roedd llawer o ffermydd wedi dewis arallgyfeirio mewn gwahanol ffyrdd oedd yn addas iddyn nhw. Roedd un oedd yn godro wedi troi at ffermio gwartheg bîff organig, bythynnod gwyliau, glampio a chwaraeon dŵr ac un arall wedi sefydlu ‘Country Club’ a chanolfan farchogaeth lwyddiannus iawn. Roedd y fferm benodol y buon ni'n aros arni hefyd wedi arallgyfeirio i sefydlu cwmni ffensio llwyddiannus oedd yn creu ‘crash barriers’ metel, a hefyd gyda 13 boiler biomas ar draws 3 safle. 

Beth ydych chi'n feddwl ei newid/ychwanegu ato o fewn eich busnes wedi'r daith?

Hoffwn ystyried defnyddio gwahanol arferion ffermio ar draws y fferm ynghyd ag edrych ar wahanol ffyrdd y gellir cyflwyno arallgyfeirio ar y fferm. Efallai gallwn werthu bocsys cig oddi ar y fferm fel y gwelom ar y fferm bîff organig yn yr Alban. 

 

Heledd Besent: 

Beth ydych chi wedi ei ddysgu o’r daith?

Gwelais sut roedd fferm odro wedi arallgyfeirio yn gyfan gwbl, ac wedi adeiladu busnes biofuel a ffensio. Roedd o’n ddiddorol gweld sut roedd y ddau fusnes yn cydweithio a sut roedd y fferm wedi newid cyfeiriad yn gyfan gwbl, a hynny mewn ffordd lwyddiannus mewn llai na 10 mlynedd. Roedden nhw hefyd wedi dangos i ni beth oedd y camau nesaf iddynt a pha ffynonellau oedd ar gael iddynt. Roedd hi hefyd yn ddiddorol gweld sut roedd y fferm ar Loch Lomond wedi arallgyfeirio ond ar raddfa lai. Buasai rhywbeth fel hyn yn fwy realistig gan fod ein fferm ni yn y parc cenedlaethol felly mae cael yr hawl i wneud rhai newidiadau yn gallu bod yn heriol.

Beth ydych chi’n feddwl ei newid/ychwanegu o fewn eich busnes wedi’r daith?

Edrych ar ba gefnogaeth a ffynonellau ariannol sydd ar gael i arallgyfeirio mewn ffyrdd na fuaswn i wedi meddwl amdanynt o’r blaen.