Taith Astudio Cyswllt Ffermio - Ffermwyr Geifr

Ariannwyd drwy’r Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth, Arloesi a’r Gwasanaeth Cynghori fel rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020

Ffermwyr Geifr

Swydd Efrog

8 - 9 Mehefin 2022


1    Cefndir

Buom yn ymweld â Yorkshire Dairy Goats a fferm St Helen’s Farm ar y diwrnod cyntaf, ac yna fe wnaethom ni fynychu cynhadledd Cymdeithas Filfeddygol Geifr (Goat Veterinary Society) ar yr ail ddiwrnod. 

 

1.1    Mynychwyr

Diane Bayliss

Andrew Goodwin

Gary Yeomans

Jess Yeomans


 
2    Amserlen


2.1    Diwrnod cyntaf

Buom yn ymweld â fferm St Helen’s Farm a Yorkshire Dairy Goats. 

 

2.2    Ail ddiwrnod

Mynychu cynhadledd Cymdeithas Filfeddygol Geifr.

09:30 – 09:50 

Cyrraedd, cofrestru a phaned

09:50 – 10:15 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Chroeso gan y Llywydd / Diweddariad ar Lwybr Iechyd Lles Anifeiliaid - Nick Perkins, Llywydd Cymdeithas Filfeddygol Geifr

Cadeirydd 

Sesiwn y bore: 

Heidi Svensgaard, Howden

10:15 – 10:45 

Newidiadau mewn arferion rheolaeth i leihau’r angen i ddosio rhag parasitiaid mewn geifr a gynhyrchir ar gyfer cig – Kate Hovers, EIP yng Nghymru 

10:45 – 11:15 

Agweddau ecolegol yn ymwneud â ffermio geifr – Breuddwyd neu fyd newydd dewr – Iain Richards, Ecolegydd Milfeddygol; Kendal Cumbria

11:15 – 11:45 

Lluniaeth, te a choffi

Cadeirydd 

Sesiwn cyn cinio: 

Yasmin Cooper, Macclesfield

11:45 – 12:45 

Annormaleddau Datblygu mewn Geifr – a yw Schmallenburg ar y gorwel? 

Ana Gomez / Amanda Carson, APHA 

12:45 – 13:15 

“Sylw i salmonela” – astudiaeth achos gan Alan Murphy, APHA 

13:15 – 14:15 

Cinio

Cadeirydd 

Sesiwn y prynhawn: 

Agnes Winter, Efrog

14:15 – 15:15 

Cloffni mewn Geifr – cyflyrau cyffredin, achosion, rheoli a thrin

Sesiwn drafod – byddwch yn barod i rannu eich profiadau – Jennifer Duncan, Prifysgol Lerpwl

15:15 – 16:00 

A yw geifr yn bwyta unrhyw beth? Achosion o wenwyno o’r cae –

Lizzie Dunnett, APHA

16:00 

Crynodeb a chloi – 

Nick Perkins, Llywydd Cymdeithas Filfeddygol Geifr

 

3    Camau nesaf

Gwelsom y fferm eifr fwyaf yn y DU a chawsom ddysgu am amrywiaeth o’r technolegau newydd a ddefnyddir ganddynt. Byddwn yn ymweld â ffermydd geifr mawr eraill y flwyddyn nesaf er mwyn dysgu mwy. Cawsom hefyd glywed gan ystod o siaradwyr yn y gynhadledd a dysgu am leihau effaith amgylcheddol ffermio geifr, gan gynnal safonau cynhyrchiant a llesiant ar yr un pryd.

Yr hyn a oedd fwyaf defnyddiol i ni oedd yr eitemau’n ymwneud â geifr godro sy’n cael eu cadw dan do drwy’r flwyddyn. Mae cloffni mewn geifr yn broblem benodol yr ydym ni’n ei weld sy’n gallu effeithio ar eifr, ac mae’n ddefnyddiol gallu trafod gydag eraill a rhannu profiadau, gan eich bod bob amser yn dysgu rhywbeth newydd. Clywsom gan eraill eu bod yn trimio traed bob 3-4 mis gan ddefnyddio arbenigwyr. Byddwn ystyried hynny yn dilyn yr ymweliad, a chawsom enw person i gysylltu ag ef. 

Yr uchafbwynt mwyaf i mi oedd y daith o amgylch y fferm y diwrnod cynt ar fferm St Helen’s Farm. Roedd gennym ddiddordeb penodol yn y cyfleusterau magu mynnod geifr a’r agwedd fwydo. Rydw i wedi atodi lluniau o’r daith o amgylch y fferm ac o’r pethau a oedd o ddiddordeb penodol. Roedd yr awyru yn y siediau magu yn ardderchog, ac yn rhywbeth y byddem yn ymchwilio dros y 6-12 mis nesaf, gan fod niwmonia yn broblem benodol wrth fagu mynnod geifr. Roedd y deunydd gorwedd a ddefnyddiwyd hefyd yn wahanol iawn, ac o bosibl yn rhywbeth y byddwn yn ei ystyried ar gyfer tymhorau’r dyfodol. 

Unwaith eto, roedd y cyfle i siarad gyda phobl eraill sy’n gwneud yr un fath â ni’r un mor ddefnyddiol â’r gynhadledd ei hun. Rydw i hefyd wedi dysgu am wahanol ddulliau bwydo, protocolau diddyfnu a’u rhaglen frechu yn ystod yr ymweliad.

Hefyd ar y fferm, roedd offer bwydo dogn ar gylchdro a oedd yn rhoi swm penodol o fwyd i bob gafr yn seiliedig ar gynnyrch llaeth, pwysau ac oedran. Roedd yn ddiddorol iawn, ond nid yw’n rhywbeth y gallwn ystyried buddsoddi ynddo ar hyn o bryd. Er hynny, gallai fod yn rhywbeth i’w ystyried ar gyfer y dyfodol.