Taith Astudio Cyswllt Ffermio - Grazing Dragons

Wedi’i ariannu trwy raglen Trosglwyddo Gwybodaeth, Arloesi a Gwasanaeth Cynghori o fewn Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020

Grazing Dragons

Ymweliad ag Ynys Môn a Llŷn

9fed - 10fed o Hydref 2018


1) Cefndir


Mae Grazing Dragons yn grŵp trafod llaeth a sefydlwyd yn 2000. Mae 20 aelod yn rhan o’r grŵp, a phob un ohonynt yn defnyddio systemau lloia mewn bloc yn y gwanwyn.

Nodau ac amcanion yr astudiaeth:

  • Datblygu dealltwriaeth o strwythur gwahanol fusnesau
  • Canfod sut mae strwythur y busnesau yn cymell yr unigolion sy’n rhan ohonynt
  • Canfod pam fod y busnesau wedi tyfu’n sylweddol a’r hyn sydd wedi arwain y penderfyniad hwn
  • Canfod a yw meincnodi perfformiad ariannol yn gymhariaeth deg gyda data Elw Fferm Cymharol y grŵp ei hun, o ystyried y gwahanol strwythurau

2) Amserlen 

2.1 - Diwrnod 1: Mathew Venables a Johnjo Roberts, Ynys Môn

Roedd hon yn uned o 800 o wartheg yn lloia yn y gwanwyn, a sefydlwyd yn ddiweddar ar Denantiaeth Busnes Fferm.  Roedd yr ardal bori yn 270 ha ac roedd adnoddau ar y fferm yn cynnwys parlwr cylchdro 70 pwynt a man bwydo eang.  Mae’r gwartheg yn cael eu gaeafu oddi ar y fferm. 

Mae strwythur y busnes yn bartneriaeth ecwiti 50:50 rhwng Mathew Venables a Johnjo Roberts. Yn ogystal â’r fferm y bûm yn ymweld â hi, mae gan y busnes hefyd uned 800 o wartheg yng ngogledd y sir, ar fferm Mynachdy, sef cartref Johnjo Roberts.

Canlyniadau allweddol a’r wybodaeth a ddysgwyd:

Cafodd y grŵp gyfle i ddatblygu dealltwriaeth o’r berthynas waith a’r strwythur rhwng y ddau bartner, e.e. pwysigrwydd cyfran 50:50.

Mae staff yn cael eu cyflogi ar hyn o bryd, ac nid ydynt yn derbyn cymhelliant ar sail bonws perfformiad. Fodd bynnag, clywsom y gallai fod yn bosibl cyflwyno taliadau cymhelliant yn y dyfodol. Cynhelir hyfforddiant ar gyfer staff yn rheolaidd, gan gynnwys sesiynau arweinyddiaeth, seicoleg yn y gweithle, rheoli straen a seicometreg. Pwrpas y sesiynau yw codi ymwybyddiaeth o fewn y tîm ynglŷn â sut i weithio gydag eraill. Roedd yr hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan Nollaig Heffernen, ymgynghorydd rheolaeth annibynnol sy’n arbenigo mewn seicoleg sefydliadol.

Roedd y ddau bartner yn gwneud pwyntiau diddorol yn ymwneud â sicrhau deialog da gyda staff.  Roedd hyn yn cael ei wneud ar ffurf taith fferm wythnosol yn hytrach nag adolygiad strwythuredig. Roedd y ddau’n pwysleisio pwysigrwydd gwybod beth sy’n cymell staff a pham eu bod yn gwneud y swydd. 

2.2 - Diwrnod 1: Richard Rogers, Ynys Môn.

Mae Richard yn gyn-ffermwr arddangos ar ran Cyswllt Ffermio, ac yn fentor Cyswllt Ffermio ar hyn o bryd. Penderfynodd Richard drosi o gynhyrchu bîff a defaid i gadw buches laeth sy’n lloia yn y gwanwyn yn null Seland Newydd mewn menter ar y cyd gyda Gethin Roberts a chyfran ecwiti gan Rhys Williams.  Mae Bodrida yn ardal bori 90ha gyda 350 o wartheg NZ croes. Mae Richard a Gethin erbyn hyn wedi trosi fferm arall i fferm laeth, sy’n ardal bori 60ha gyda 240 o wartheg. Fe ymwelodd y grŵp â’r ddwy fferm. 

Canlyniadau allweddol a’r wybodaeth a ddysgwyd:

Fferm daclus iawn gyda thir glas da, gwartheg da a thîm ifanc hapus a bodlon.

Roedd Richard yn ymddangos yn ffermwr carismatig yn darparu cyfle i Gethin gael ecwiti yn y busnes, ynghyd â rhyddid sylweddol i reoli’r mentrau. Roedd Gethin i’w weld yn gwybod mwy na Richard am reolaeth y fferm o ddydd i ddydd, sy’n arwydd da o ddirprwyo!

Roedd tîm ifanc o staff a oedd yn gadarnhaol iawn am eu dyfodol yn y diwydiant llaeth. Roedd hyfforddiant staff yn bwysig, gydag aelodau staff yn mynychu grŵp trafod ‘mini gogs’ ac wedi cwblhau hyfforddiant Cyswllt Ffermio ac AHDB.  

Roedd ganddyn nhw weithiwr fferm cyffredinol/masnachwr medrus llawn amser yn gweithio ar y fferm, a’i rôl oedd cwblhau prosiectau! Roedd hyn i’w weld yn rhoi momentwm da i’r busnes o ran cwblhau pethau a sicrhau amgylchedd gweithio da. Roedd pwyslais ar sicrhau amgylchedd gweithio da ar gyfer staff. 

2.3 - Diwrnod 2: Matthew Jackson, Pwllheli.

Mae Matthew yn ffermwr cyfran 50/50 sy’n gweithio gyda Wynne Finch Farms.  Sefydlwyd y fenter yn 2014 ac ar hyn o bryd, mae’n godro 400 o wartheg. Cyn hyn, roedd Mathew yn gweithio fel gofalwr buches ar ran Wynne Finch Farms ar fferm gyfagos Cefnamwlch.  

Canlyniadau allweddol a’r wybodaeth a ddysgwyd:

Rhoddodd Matthew grynodeb o’i gefndir a sut mae bellach yn ffermwr cyfran gyda Wynne Finch Farms.  Cafodd y manylion eu crynhoi’n effeithiol ar ffurf graff yn dangos cynnydd ecwiti dros y 10 mlynedd diwethaf. Nid oedd y grynodeb yn cynnwys manylion fodd bynnag, ond roedd y twf ecwiti yn sylweddol ac yn ysbrydoledig. Mesurwyd y twf ecwiti drwy fantolen flynyddol gyda’r cynnydd ecwiti’n cael ei arwain yn bennaf gan niferoedd da byw. Sicrhaodd Matthew'r cynnydd hwn mewn ecwiti drwy fagu ei stoc ei hun tu allan i’r fenter ar y cyd, ynghyd â magu lloi drwy ffermwyr magu ar gontract. Roedd y ffaith nad oedd TB yn bresennol yn yr ardal yn gymorth gyda logisteg magu grwpiau o heffrod.  Y cam nesaf i Matthew yw menter newydd ar y cyd gyda John Furnival (ffermwr llaeth o swydd Stafford) i drosi dwy fferm a brynwyd yn ddiweddar yn ne Cymru i ffermydd llaeth yn 2019. 

Roedd hon yn enghraifft dda o’r hyn y gellir ei gyflawni os bydd nodau’n cael eu gosod ac os oes pwyslais cryf ar eu cyflawni.

Roedd hi’n anodd canfod a fyddai modd ail greu’r enghraifft hwn, neu a yw’n ymwneud â chymeriad a phersonoliaeth unigol? 

2.4 - Diwrnod 2: Elgan Davies & Dafydd Wynne Finch, Pwllheli.

Troswyd fferm Cefnamwlch o fferm ddefaid a bîff i fferm laeth gan y perchennog, Mr David Wynne-Finch yn 2003. Roedd gan y fferm blatfform odro o 297 ha, parlwr godro Waikato 70 safle, ac 866 o giwbiclau heb do. Roedden nhw’n godro 820 o wartheg gyda stoc ifanc yn cael eu magu oddi ar y fferm. Mae cynhyrchiant blynyddol oddeutu 4.5 miliwn litr. 

Canlyniadau allweddol a’r wybodaeth a ddysgwyd:

Mae Dafydd Wynne-Finch bob amser wedi hybu mentrau ar y cyd, ac fe gwblhaodd ei ysgoloriaeth Nuffield ar gydweithio a phobl, “mae elw’n grêt, ond mae perthynas broffidiol hyd yn oed yn well na hynny”.

Roedd y cytundeb menter ar y cyd ar fferm Cefnamlwch yn seiliedig ar Dafydd Wynne-Finch yn berchen ar y tir, yr isadeiledd a 75% o’r gwartheg a’r stoc ifanc, ac Elgan a’i wraig Elena yn berchen ar 25% o’r gwartheg a’r stoc ifanc ac yn derbyn 12% o’r elw fferm cymharol.

Roedd gan y fferm dîm o bobl ifanc yn gweithio yno. Nid oedd y fferm erioed wedi hysbysebu ar gyfer staff, gyda staff yn cael eu recriwtio o ganlyniad i enw da ar lafar. Roedd pwyslais ar ddatblygu pobl a’u caniatáu i gyflawni eu huchelgais, beth bynnag fo hynny. Mae’n rhaid i bawb sy’n gweithio ar y fferm ymweld neu weithio ar fusnesau fferm eraill. Mae’r busnes yn annog staff i deithio a chael profiad o wahanol agweddau o amaethyddiaeth e.e. ymweld neu weithio yn Seland Newydd.

Roedd yr uchod yn amlwg wrth i Elgan ac Elena symud ymlaen o fferm Cefnamlwch i ddechrau eu menter eu hunain ar fferm rhieni Elena, sef menter laeth a fydd yn dechrau yn 2020. Bydd Carwyn, sy’n gweithio ar fferm Cefnamlwch ar hyn o bryd, yn symud ymlaen i fod yn rheolwr ac yn cael cynnig y cyfle i gael cyfran o’r elw fferm cymharol, os mae’n dymuno buddsoddi yn y busnes.

Mae’r tîm ifanc (Carwyn, Trystan, Adam a Deio) yn cerdded o amgylch y fferm ar ddydd Llun (wedi’u rhannu’n ddau grŵp ac yn cerdded o amgylch hanner y fferm), ac roedd hyn yn cael ei ystyried yn adnodd rheoli hanfodol ac yn cynnig cyfle ar gyfer cyfarfodydd tîm.  

2.5 - Diwrnod 2: Rhys Williams, Pwllheli.

Roedd Rhys yn rhan o sawl menter, sef:

  • Dwy fferm (Pentrefoelas a Threfor, Ynys Môn) gyda Dafydd Wynne Finch dan enw masnachu Padog farms Ltd
  • Buddsoddiad ecwiti yng nghwmni Treifan Ltd
  • Menter ar y cyd gyda Robat Griffiths yn Wrecsam, lle maen nhw’n cadw buches odro yn unig (flying herd) sy’n lloia drwy gydol y flwyddyn
  • Perchennog a ffermwr ar fferm Trygan, a brynwyd ym mis Mai 2012. 

Canlyniadau allweddol a’r wybodaeth a ddysgwyd:

Roedd pob un o’r ffermydd yn gweithredu systemau syml gyda stoc ifanc yn cael eu cadw oddi ar y prif ddaliad, a stoc o borthiant gaeaf yn dod o ffynonellau oddi ar y fferm. Roedd 2018 wedi bod yn flwyddyn heriol iawn ar gyfer hyn!

Mae’r uned yn Wrecsam yn cadw buches odro yn unig (flying herd) gyda gwartheg yn cael eu prynu oddi ar ‘unedau eraill’ nad oedd yn cylchedu ond yn ddigon ifanc ac iach i fod yn anifeiliaid cyfnewid.  Roedd hwn yn  bolisi da er mwyn osgoi gwastraff.

Dywedodd Rhys mai’r cerbyd oedd ei swyddfa, gyda ffôn symudol a mynediad at ffigyrau Agrinet. Mae Agrinet yn ffordd hanfodol o gofnodi data. 

Roedd staff a rheolwyr ar yr unedau’n derbyn cymhelliant drwy gyfuniad o rannu elw, perchnogaeth gwartheg a chyfle i brynu heffrod.  Roedd hyn yn galluogi Rhys i weithredu’r system o bell drwy ymweld â nhw unwaith yr wythnos.

3) Camau Nesaf

Y grŵp i edrych ar y pwyntiau canlynol:

  • A oes deialog effeithiol rhwng staff a phartneriaid busnes o fewn y busnes?
  • Beth sy’n eich cymell chi? Ydych chi’n gwybod?
  • Bydd sicrhau adnoddau da yn eich helpu i recriwtio staff, a yw’r adnoddau presennol yn ddeniadol i staff?
  • A yw’r nodau busnes a phersonol wedi’u diffinio? 
  • A yw aelodau staff yn cael eu hannog i dderbyn hyfforddiant pellach ac i gyflawni eu huchelgais? 
  • A ddylai teithiau fferm wythnosol a chyfarfodydd gyda staff fod yn drefn reolaidd?
  • A allai cymell staff a rheolwyr gyda chyfran fechan o’r elw neu berchnogaeth ar wartheg arwain at sicrhau gwell perfformiad ac elw?