Taith Astudio Cyswllt Ffermio - Grŵp Ffermio Merched Gogledd Cymru

Grŵp Ffermio Merched Gogledd Cymru 

Sioe Fawr Swydd Efrog 

12 - 13 Gorffennaf 2022


Gwnaethom ddechrau ar ein taith ar y dydd Llun gan ymweld â’r sioe ddydd Mawrth a ddydd Mercher ar ôl dal y bws wennol o Harrogate i faes y sioe. Cawsom ein dal ar y ffordd i’r sioe wrth i’r Dywysoges Anne gyrraedd a glanio mewn hofrennydd wrth ymyl ein bws wennol. Mae Harrogate yn ddinas brydferth a glân, ac mae’r ardal amgylchynol yn dir ffermio cyfoethog.

Ein hargraffiadau cyntaf oedd bod y sioe yn groesawgar ac wedi’i threfnu yn arbennig o dda. Cawsom ein cyfarch wrth adael y bws wennol a’n croesawu i’r sioe; gofynnwyd i ni a oeddem am weld rhywbeth yn benodol a chynigiwyd cymorth i sicrhau ein bod yn cael taith lwyddiannus. 

Gwnaethom ddarganfod yn fuan ei bod yn flwyddyn dathlu 200 mlwyddiant Cymdeithas y Gwartheg Byrgorn, ac roedd y gwartheg byrgorn yn amlwg iawn yn yr ardal dda byw. Roedd sioe dda o wartheg byrgorn bîff a llaeth.

Mae’r sioe ar safle parhaol, gyda siediau brics pwrpasol ar gyfer y gwartheg, gwyntyll wych i’w cadw’n oer ac roedd llawer iawn o wellt o dan y da byw. Gan ei bod yn boeth iawn yn ystod y deuddydd pan oeddem yno, roedd yn dda gweld eu bod yn derbyn gofal da. Roedd pawb wedi sylwi pa mor lân oedd maes y sioe a sut roedd yr hen adeiladau a’r rhai newydd yn cyfuno’n dda gyda’i gilydd.

Gwnaethom dreulio rhywfaint o amser yn yr ardal dda byw yn gyntaf, yn gwylio’r beirniadu ac yn edmygu ansawdd ragorol y stoc yn ardaloedd y gwartheg, defaid, moch a geifr. 

Roeddem yn falch iawn o gael cyfle i gefnogi bridiwr Texel lleol a oedd yn cystadlu pan oeddem yno, ac fe enillodd y bedwaredd wobr mewn dosbarth mawr o ddefaid Texel gwych. 

Cawsom gyfle i dreulio rhywfaint o amser yn siarad gyda bridwyr lleol a’u holi am ddulliau cynhyrchu ffermio nodweddiadol yr ardal gyfagos.

Roeddem wedi archebu lle ar gyfer dwy sgwrs a gynhaliwyd yn ystod y dydd ym mhafiliwn GYS, ac roedd y rhain yn werth chweil. 

Y siaradwr cyntaf oedd Peter Wright (milfeddyg o Swydd Efrog), ac roedd ei sgwrs yn ddifyr iawn; clywsom am ei fywyd fel milfeddyg a sut daeth yn enwog gyda’i gyfres deledu. Soniodd am y newidiadau mewn arferion milfeddygol yn sgil defnyddio sganiau MRI, profion gwaed a thechnoleg fodern, yn hytrach nag archwilio anifail yn weledol i weld beth oedd y broblem.

Roedd yr ail sgwrs gan Adam Henson o’r gyfres deledu Countryfile. Siaradodd yn angerddol am newid hinsawdd, a pha mor bwysig yw hi i bob un ohonom wneud cymaint â phosibl i adnabod yr angen am fwyd wedi’i gynhyrchu’n lleol ar gyfer y cyhoedd. 

Gan fod costau’n codi, roedd Adam yn sylweddoli nad yw bwyd bellach yn flaenoriaeth 100% i deuluoedd. Soniodd am broblem barhaus milltiroedd awyr mewn perthynas â chynnyrch fel afocado - sydd nid yn unig yn defnyddio milltiroedd awyr i raddau helaeth iawn, ond mae afonydd wedi cael eu dargyfeirio hefyd o dir ffermio da i ddyfrio’r planhigion afocado.

Siaradodd Adam am rôl gynyddol merched mewn amaeth, a rhoddodd enghraifft o’r ffordd mae pethau wedi newid yn ystod y cyfnod mae wedi bod yn cyflwyno gwobrau ac annerch myfyrwyr amaethyddol a milfeddygol. Mewn un coleg milfeddygaeth yr oedd wedi ymweld ag ef yn ddiweddar arferai’r gymhareb o fyfyrwyr gwrywaidd a benywaidd fod yn 75% a 25%. Erbyn hyn, mae’r sefyllfa wedi newid yn llwyr, ac mae 160 o fyfyrwyr benywaidd yn hyfforddi i fod yn filfeddygon a 15 o wrywod. Roedd hyn yn newid eithaf dramatig, ac fel merched roedd yn braf clywed hyn, ond roeddem yn pendroni beth oedd y rheswm dros y newid dramatig yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Siaradodd Adam am y ffaith bod gormod o fiwrocratiaeth ym myd ffermio heddiw, a bod angen parhau i godi ysbryd pobl cefn gwlad.

Roedd y neuadd fwyd yn wych, ac roedd amrywiaeth da o gynnyrch wedi’i arddangos mewn adeilad gwych wedi’i aerdymheru. Roedd yr holl gynhyrchwyr mor groesawgar, ac roedd ganddynt ddiddordeb mewn clywed beth roeddem yn ei gynhyrchu. Roedd safon y cynnyrch yn rhagorol ac roedd yn braf gweld angerdd y cynhyrchwyr, gan ein bod yn gallu uniaethu â’u brwdfrydedd dros gynhyrchu stoc a chnydau iach o ansawdd.

Roedd y pafiliwn GYS yn ganolfan wych i gyfarfod enwogion y byd ffermio a oedd yn teimlo’n angerddol dros eu gwaith ac arferion ffermio. Bob diwrnod, roedd gwahanol siaradwyr yn cynnal tri sesiwn bob dydd, gan ddenu tyrfaoedd mawr bob tro.

Roeddem yn siomedig â’r adran goedwigaeth, a oedd yn fach iawn. Roeddem wedi disgwyl gweld rhywbeth llawer mwy o faint, yn enwedig o ystyried materion byd-eang a’n hangen presennol am 10% o goed neu gynlluniau amgylcheddol ar ffermydd. O’i gymharu â sioeau eraill rydym wedi ymweld â nhw, roedd ar raddfa fach iawn.

Roedd y stondinau masnach o safon uchel iawn gyda stoc o ansawdd da iawn, a dywedodd pawb nad oedd llawer iawn o stondinau gwael, os o gwbl. 

Unwaith yn rhagor, roedd y cyflenwyr lleol yn falch iawn o’u cynnyrch.

Rydym yn falch o fod yn ffermwyr ac yn rhan o’r gymuned ffermio. Roeddem yn gallu gweld bod yr ardal yn un gynhyrchiol iawn, gyda chaeau mawr yn llawn cnydau a llawer o farlys a gwenith a thir pori âr da wrth i ni deithio yn ôl ac ymlaen i’r sioe.

Roedd pawb yn cytuno y gellid bod wedi treulio’r pedwar diwrnod llawn yno a byddem yn sicr yn mynd yno eto yn y dyfodol.

Hoffem ddiolch yn fawr i chi am y cyfle i fynychu’r sioe hon, a gallwn eich sicrhau y gwnaethom gymryd pob cyfle i weld cymaint â phosibl yn ystod ein taith ddeuddydd o hyd. Roedd trefnwyr y sioe wedi cyfyngu ar nifer yr ymwelwyr oherwydd Covid, ac roedd hynny o fantais i ni. 

Byddwn yn cadw golwg am sioeau a digwyddiadau eraill yn y dyfodol sy’n gysylltiedig â ffermio er mwyn rhoi cyfle i’n grŵp gael gwybodaeth, hyfforddiant a’r diweddaraf am fentrau ffermio a pholisïau llywodraethau.

Y fantais ychwanegol yw cael amser i sgwrsio gyda’n gilydd, dysgu gan ein gilydd a rhannu arferion ffermio, a chymharu’r sefyllfaoedd bob dydd sy’n codi yn ein busnesau ffermio.