Taith Astudio Cyswllt Ffermio - Grŵp Ffermydd Monitor AHDB Sir Benfro

Ariannwyd trwy raglen Trosglwyddo Gwybodaeth, Arloesedd a Chynghori dan Raglen Ddatblygu Gwledig - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014 - 2020

Grŵp Ffermydd Monitor AHDB Sir Benfro

Gogledd IwerddonNorthern Ireland

8 - 9 Tachwedd 2018


1) Cefndir

Ar 8 Tachwedd 2018, aeth 8 o gynrychiolwyr o Grŵp Ffermydd Monitor AHDB Sir Benfro o faes awyr Caerdydd ar daith astudio i ymweld ag aelodau o Grŵp Ffermydd Monitor AHDB Gogledd Iwerddon.

Mae Sir Benfro yn ardal dyfu grawn ymylol. Mae’r sialensiau i ffermio tir âr yno yn fwy na llawer o ardaloedd eraill yn y Deyrnas Unedig gyda phatrymau tywydd llai ffafriol yn cyfyngu’r cyfnod sydd ar gael i drin ac yn lleihau’r cyfleoedd i arbed arian trwy weithredu ar raddfa fwy. Nod y daith oedd cymharu’r busnesau fferm yng Ngogledd Iwerddon.

Trwy ymweld ag aelodau Grŵp Ffermydd Monitor AHDB Gogledd Iwerddon roeddem yn anelu at lunio cymariaethau rhwng y 2 ranbarth a chymharu dulliau ffermio ac agweddau.

Dewiswyd ffermydd o siapiau a meintiau gwahanol i ymweld â nhw i ddangos amrywiaeth eang o safbwyntiau i’r grŵp o ran ffermio tir âr yng Ngogledd Iwerddon.

2) Rhaglen

2.1 - Diwrnod 1

Ymweliad Fferm: Richard Orr, Fferm Fonitor AHDB Downpatrick

Mae Richard Orr yn ffermio gyda’i dad ar Meadow Farm yn Downpatrick. Mae’n tyfu gwenith gaeaf a barlys gwanwyn a gaeaf ar 75 ha o dir âr ac mae’r cylchdro hefyd yn cynnwys tatws, maip a glaswellt. Mae’r pridd yn gleibridd caregog canolig sych, yn draenio’n rhwydd a chynnwys organig da. Roedd ein hymweliad â Richard yn canolbwyntio ar ei ymdrechion i ddylanwadu ar ei benderfyniadau rheoli pridd a’u gwella.


Deilliannau dysgu allweddol:

Anelu at atal problemau strwythur y pridd – mae’n llawer haws a rhatach na’u cywiro wedyn. Disgrifiodd Richard ei brif argymhellion o ran rheoli priddoedd:

  • Targed strwythur pridd: pridd â mandylledd o 50%, yn hanner llawn o ddŵr, hanner o aer – strwythur y gall gwreiddiau a mwydon dreiddio trwyddo yn rhwydd. Mae mesur cynnwys organig yn feincnod da i gynnydd
  • Ewch i mewn i gae gyda rhaw cyn tractor; tyllwch dyllau rhwng llwybrau’r tractor a meincnodi gyda thwll dan y gwrych
  • Edrychwch ar y gwreiddiau i ddisgrifio strwythur y pridd
  • Mae llai yn fwy! Amau a oes angen gwely mor fân i hadau
  • Mae trin y pridd yn rhyddhau carbon ac yn arwain at golli lleithder
  • A fydd trin yn gwneud cynffonwellt du yn waeth neu’n well?
  • Ystyriwch dir moel yn wastraff – tyfwch rywbeth!
  • Pwysau’r echel – gwasgarwch y pwysau
  • Pwysedd y teiars – gwnewch y broblem yn llai

Ymweliad ymchwil: Lisa Black, AFBI

Gwaith ymchwil Lisa oedd edrych ar yr arferion gorau ar gyfer tyfu cnydau gorchudd yng Ngogledd Iwerddon. Yn dilyn cyflwyniadau ymwelodd y grŵp â safle treialon cnwd gorchudd AFBI. Cynlluniwyd y treialon yma i ddangos y dulliau mwyaf effeithiol o dyfu cnydau gorchudd o ran; eu sefydlu, dewis y mathau, cymysgedd o gnydau gorchudd a dinistrio.

Deilliannau dysgu allweddol: 

  1.   Mae’r lefelau da iawn yn gyffredinol o gynnwys organig yng Ngogledd Iwerddon yn helpu i wneud y priddoedd yn wydn sydd yn amlwg yn y strwythurau da yn gyffredinol sydd i’w gweld i ddyfnder
  2. Mae rhoi sylw i fanylion ar deiars, pwysedd a defnyddio tractorau ac offer canolig eu maint yn cyfyngu ar y difrod i strwythur i lefelau y gellir eu rheoli’n rhwydd gan yr offer sydd ar gael
  3. Yr hydref hwn, mae ffermwyr Gogledd Iwerddon yn cael eu cynghori i edrych a yw’n bosibl gweithio ychydig yn llai dwfn gyda phigau, ar yr amod bod yr amgylchiadau a’r tywydd wrth gynaeafu yn caniatáu
  4. Gwelwyd bod y dril ar sail pigau yn cyfyngu, i raddau, sut y gall y gweddillion o’r cnwd gorchudd, a’r dewis o gnwd ei hun, gael eu rheoli. Mae hwn yn faes lle gall arddangosfeydd o ddewisiadau eraill o ran driliau (ar sail disgiau neu ddisg/pigau) roi dealltwriaeth o’r ffordd orau i reoli cnydau o’r fath wrth sefydlu cnydau gwanwyn dilynol
  5. Gwelwyd bod rheoli chwyn glaswellt yn haws o lawer trwy gynaeafu yn y gwanwyn ar y priddoedd hyn.

Ymweliad Fferm: Iain McMordie

Dechreuodd Iain McMordie ei fusnes fel ffermwr grawn a glaswellt yn Ardal Lecale, Gogledd Iwerddon, ac yn ddiweddar penderfynodd ganolbwyntio ei fusnes yn llwyr ar gynhyrchu glaswellt ar gyfer bwyd ceffylau. Hyd at y newid hwn, mae Iain yn rhan o grŵp prynu Lecale, grŵp bychan o ffermwyr lleol a gyfunodd eu grym wrth brynu er mwyn gallu prynu nwyddau fel blawd a gwrtaith mewn llwythi mawr ar bris is. Bu’r grŵp yn weithredol ers ugain mlynedd, gan gynrychioli tua 2000ha o dir âr a glaswelltir. Gostyngodd Iain ei ddefnydd o wrtaith trwy ddefnyddio lloeren. Ymunodd y grŵp â’i gilydd i brynu’r offer angenrheidiol. Llwyddodd y ffermwyr i ad-dalu eu buddsoddiad cychwynnol mewn chwe mis, trwy’r arbediadau ar wrtaith a thanwydd yn unig. Mae Iain yn amcangyfrif bod y grŵp yn awr yn arbed tua 10% y flwyddyn ar wrtaith. Mae’r gyfradd weithio a’r elw wedi cynyddu ac mae’r cofnodion o’r defnydd o wrtaith yn eu helpu i gydymffurfio â’r gofynion cofnodi. 

Deilliannau dysgu allweddol:

Amlygodd Iain nad yw cnydau fferm yn cyflawni’r cynnyrch posibl a nodir yn y rhestr a argymhellir.

 

Ffactorau sy’n effeithio ar gynnyrch yng Ngogledd Iwerddon:

  • Potensial y cynnyrch genetig
  • Hinsawdd/tywydd: glawiad trwm yng Ngogledd Iwerddon.
  • Agronomeg: ychydig iawn ar gael yng Ngogledd Iwerddon
  • Prisiau a pholisïau: llai o ffermydd mwy, llai o waith, mwy o reoliadau
  • Newid technegol: trin, cyfraddau gwrtaith, diogelu’r cnwd 

Dynododd Iain 3 maes allweddol lle mae’n bwriadu ymdrin â’r lefelu allan o ran cynnyrch ar ei fferm trwy dreialu ar ei fferm. Cytunodd y grŵp eu bod yn ffactorau allweddol i gyd wrth annog cynhyrchiant:

  • Rheoli’r dalar. Bydd un cae yn cael pedair ffordd wahanol o drin y dalar
  • Maethiad P a K. Bydd hanner un cae yn cael ei drin â P a K ychwanegol.
  • Hau ar Gyfradd Amrywiol. Un cae i’w rannu gyda chyfradd safonol ac amrywiol.

2.2 - Diwrnod 2

Ymweliad Fferm: Richard Kane, Broighter Gold Rapeseed Oil 

Mae’r teulu Kane wedi bod yn ffermio ym Myroe, Limavady, Gogledd Iwerddon ers dros 100 mlynedd. Mae Richard (y chweched genhedlaeth o’i deulu i ffermio) yn awr yn trin y tir âr Fferm Broglasco, a’i wraig Leona sy’n gyfrifol am ochr fusnes Broighter Gold Rapeseed Oil. Dan eu harweinyddiaeth ar y cyd mae’r arallgyfeirio wedi tyfu yn un o’r cyflenwyr olew hadau rêp mwyaf adnabyddus ac annwyl. 

Deilliannau dysgu allweddol:

  • Wrth ystyried arallgyfeirio gwnewch ddigonedd o waith ymchwil ac ymgynghori ag eraill sydd â phrofiad.
  • Gwnewch eich dadansoddiad cryfderau gwendidau cyfleoedd a bygythiadau eich hun, cofiwch fod yn onest â chi eich hun!
  • Byddwch yn glir am yr hyn yr ydych am ei gyflawni a sut y byddwch yn gwneud hynny.
  • Paratowch gynllun busnes a gofynnwch am gyngor gan eraill.
  • Ystyriwch sut y byddwch yn rheoli’r risg o ddefnyddio cyfalaf i arallgyfeirio.
  • Mae grantiau ar gael i ffermwyr – peidiwch â gadael iddynt ariannu cynllun gwael.
  • Ymgynghorwch â’ch rheolwr banc yn aml.

Ymweliad Fferm: Robert Moore, Molenan Estate

Mae Robert Moore yn ffermio ar Stad Molenan yng Ngogledd Iwerddon, lle mae ei deulu wedi ffermio ers mwy na 200 mlynedd. Symudodd at gynhyrchu tir âr yn hwyr yn yr 1990au, oddi wrth bîff a defaid. Mae ganddo fuches fagu fechan yn dal ar dir âr nad yw’n addas. Arweiniodd cael tir âr y ddwy ochr i’r ffin y grŵp i drafod goblygiadau posibl Brexit i aelodau.

 

Deilliannau dysgu allweddol:

  • Gall newidiadau i fasnach gael effaith gadarnhaol neu negyddol gan ddibynnu a yw’r Deyrnas Unedig yn fewnforiwr neu allforiwr net. Mae Gogledd Iwerddon yn teimlo yn fregus iawn yn y broses drafod.
  • Bydd y cynnydd yng nghostau gweithwyr yn effeithio ar bob sector.
  • Mae’r 25% uchaf o ffermydd (o ran eu cymhareb mewnbwn/allbwn) mewn sefyllfa lawer cryfach i ymdopi â’r newidiadau sy’n gysylltiedig â’r sefyllfa. Chi ddylai fesur eich busnes eich hun i gael syniad a ydych yn y 25% uchaf.

3) Camau Nesaf

Roedd y ffermwyr y gwnaethom eu cyfarfod yng Ngogledd Iwerddon yn rhai positif iawn ac yn barod i addasu i wynebu’r sialensiau sy’n cael eu taflu atynt.

Mae newid ar ei ffordd ond y gwir yw, os byddwn yn ceisio osgoi newid, ceisio osgoi’r dyfodol ac atal cynnydd yna ni fyddwn yn rhwystro’r newid, y cwbl fyddwn ni’n ei wneud yw bod yn llai parod i ymdopi â’r newid wrth iddo gyrraedd.

Cytunodd y ffermwyr o Gymru bod angen iddynt dderbyn bod dyfodol taliadau uniongyrchol yn rhoi rhagolygon gwahanol iawn i’r hyn y maent wedi arfer ag o. Cyntaf yn y byd y bydd eu busnesau yn barod am y newid hwn, gorau yn y byd.

Mae cyfle gwych hefyd i wella cynhyrchiant ar ffermydd tir âr Cymru.

Cytunodd y grŵp bod arnynt angen parhau i fuddsoddi mewn technoleg a sgiliau i fod ar flaen y gad yn y diwydiant tir âr.

Ar ein taith yn ôl buom yn trafod y pwyntiau allweddol a ddysgwyd ar y daith:

  • Diffiniwch eich amcanion busnes am y tymor byr / canolig / hir.
  • Peidiwch â bod ofn cymryd risg.
  • Deallwch yr elfennau o risg yn eich busnes ac yna eu dosbarthu.
  • Daliwch ati i ymdrechu i wella effeithlonrwydd y busnes trwy ddadansoddi cyson. Mae pob aelod o’r grŵp yn cymryd rhan yn y gweithgaredd meincnodi Ffermydd Monitor. Daliwch ati i annog eraill i wneud hyn.
  • Deallwch beth yw costau eich busnes gan fod hyn yn allweddol i ddynodi cryfderau a gwendidau eich busnes / menter. Teimlai’r grŵp bod y ffermwyr yng Ngogledd Iwerddon yn rhoi sylw manwl i fanylion, a ydym ni’n efelychu’r sylw hwnnw yng Nghymru bob amser?
  • Buddsoddwch eich amser i fynd i gyfarfodydd, seminarau a hyfforddiant – dysgwch oddi wrth eich gilydd.
  • Peidiwch ag osgoi dod o hyd i gyfleoedd i gyflwyno strategaethau a systemau mwy blaengar ac effeithlon (e.e. cydweithio, arallgyfeirio)